Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 21 Mehefin 2022.
Diolch i'r Aelod, Llywydd, am y cwestiwn. Mae gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i gael mynediad i addysg yn eu hardaloedd eu hunain. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynllunio lleoedd mewn ysgolion a rhaid iddyn nhw sicrhau bod digon o ysgolion yn darparu addysg gynradd ac uwchradd yn eu hardaloedd.