Grŵp 17: Dysgu oedolion yn y gymuned (Gwelliannau 112, 113, 115, 117)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:55 pm ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 6:55, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ailadrodd y pwysigrwydd a roddaf ar ddysgu oedolion, ar ddysgu gydol oes, a sicrhau bod Cymru'n genedl o ail gyfle lle nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu, ac mae'r darpariaethau yn y Bil hwn, sydd eisoes yn cynnwys dysgu oedolion yn y gymuned, yn hanfodol i gyflawni hyn. Felly, er fy mod yn deall y bwriad y tu ôl i'r gwelliannau yn y grŵp hwn, ni allaf eu cefnogi gan nad ydyn nhw'n angenrheidiol, ac nid ydyn nhw yn ychwanegu dim at y Bil na'r ffordd y mae'n gweithredu.

Mae gwelliant 117 yn ychwanegu 'dysgu oedolion yn y gymuned' at y diffiniad o addysg drydyddol. Mae hyn yn ddiangen gan ei fod eisoes wedi'i gynnwys fel rhan o'r diffiniad hwnnw fel y'i darllenir gydag adrannau 141(2), (4) a (5).

Mae gwelliannau 112, 113 a 115, yr wyf i hefyd yn eu gwrthod, yn ymwneud â'r diffiniad o ddysgu oedolion yn y gymuned. Fel y dywedais i, nid oes angen hyn gan fod dysgu oedolion yn y gymuned eisoes wedi'i gynnwys yn y diffiniadau presennol.

Gan weithio gyda'n grŵp cyfeirio allanol ar gyfer dysgu oedolion, rydym eisoes yn profi ac yn dylunio dulliau cyffrous o wireddu'r genedl ail gyfle honno. Mae hyn yn cynnwys rhaglen o gydlynu a chamau gweithredu cenedlaethol, sydd eisoes yn gweithio i wireddu ein hymrwymiad i ddysgu gydol oes fel y'i mynegir yn y dyletswyddau strategol ac mewn mannau eraill yn y Bil. Mae'r diffiniad o ddysgu oedolion yn y gymuned hefyd yn dibynnu ar y diffiniad o 'lefel 2' yn adran 93 o'r Bil, sydd wedi'i ddileu ar ôl i fy ngwelliannau 39, 40 a 41 gael eu cytuno yng ngrŵp 12.

Nid yw'r Bil yn cynnwys darpariaeth benodol mewn cysylltiad â dysgu oedolion yn y gymuned o gofio ei fod eisoes wedi'i gwmpasu gan y diffiniad o addysg drydyddol yn y Bil. Byddai dyletswydd y comisiwn i sicrhau y darperir cyfleusterau rhesymol ar gyfer addysg a hyfforddiant i bobl dros 19 oed, yn unol ag adran 94, yn cwmpasu darparu dysgu oedolion yn y gymuned. Hefyd, gallai'r addysg bellach a'r hyfforddiant a gwmpesir gan ddyletswydd y comisiwn yn adran 93 i ddarparu cyfleusterau priodol, yn amodol ar wneud rheoliadau o dan adran 93(3), hefyd gynnwys dysgu oedolion yn y gymuned.

Fel y dywedais i wrth drafod y gwelliannau arfaethedig sy'n diffinio prentisiaethau gradd mewn grŵp cynharach, mae diffinio dysgu oedolion yn y gymuned ar wahân i addysg bellach a hyfforddiant yn peryglu amwysedd ynghylch a yw dysgu oedolion yn y gymuned o fewn cwmpas y cyfeiriadau niferus at addysg bellach a hyfforddiant mewn mannau eraill yn y Bil, ac felly galwaf ar Aelodau i wrthod yr holl welliannau yn y grŵp hwn.