Part of the debate – Senedd Cymru am 6:54 pm ar 21 Mehefin 2022.
Diolch, Llywydd. Rwyf eisiau siarad am yr holl welliannau yn y grŵp hwn. Mae gwelliant 112 yn bodoli i sicrhau bod dysgu oedolion yn y gymuned yn cael ei gynnwys yn y diffiniad o addysg drydyddol ac i wneud i'r diffiniad o ddysgu oedolion yn y gymuned weithredu'n briodol yn y Bil. Yn ychwanegol at hyn, mae gwelliannau 115 a 117 yn gysylltiedig â gwelliannau 112 a 113, a byddan nhw'n sicrhau bod dysgu oedolion yn y gymuned yn cael ei gynnwys yn niffiniad y Bil o'r term.
Mae dysgu oedolion yn y gymuned yn hanfodol os ydym ni am sicrhau, pan fydd cyfle'n codi i greu swyddi sgiliau uwch yng Nghymru, ein bod yn gallu manteisio arnyn nhw. Mae angen i ni sicrhau nad yw dyhead a chyfleoedd ar gael i'n pobl ifanc yn unig, er bod y Gweinidog yn gwybod bod hwn yn faes lle mae angen iddo wneud gwaith helaeth. Mae rhieni sy'n gweithio eisiau gallu cymryd y cam nesaf ar ysgol eu gyrfa ac eisiau gwella eu cymwysterau neu ddysgu sgil newydd. Mewn llawer o achosion, hwn fyddai eu cymhwyster ffurfiol cyntaf.
Er nad yw'r Gweinidog yn debygol o dderbyn y gwelliannau hyn heddiw, byddwn i'n ei annog ef a'i adran i edrych ar ddysgu oedolion yn y gymuned fel ei fod yn diwallu anghenion cymunedau'n llawn ac y gall y rhai sydd yn dymuno cyflawni, wneud hynny.
Bydd gwelliant 113, ar y llaw arall, yn golygu bod 'lefel mynediad' wedi'i diffinio'n glir yn y Bil, sy'n welliant angenrheidiol, yn fy marn i, er eglurder o fewn y ddeddfwriaeth, a gofynnaf i'r Aelodau ystyried hyn. Diolch.