Grŵp 19: Chweched dosbarth (Gwelliannau 161, 162, 76, 163, 164, 165)

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:17 pm ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 7:17, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Sioned Williams am ei sylwadau cefnogol ynglŷn â'r gwelliannau? Rwy'n credu bod pethau wedi symud ymlaen cryn dipyn ers i Laura Anne Jones fynegi'r pryderon y mae wedi eu hailadrodd yn y ddadl hon heddiw, ac mae'r cysyniad o ad-drefnu, y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn y cwestiwn, eisoes wedi ei ddileu yn llwyr o'r ddeddfwriaeth. Felly, rwy'n credu bod hynny'n gosod ysgyfarnog nad yw'n adlewyrchu realiti'r Bil sy'n dod i Gyfnod 3. Ac rwy'n gobeithio y gallaf gynnig sicrwydd i Darren Millar nad yw'r pryderon y mae ef wedi eu mynegi yn effeithio o gwbl ar y cynigion yn y ddadl heddiw, oherwydd eu bod nhw mewn gwirionedd yn diogelu'r mathau o drefniadau y mae'n sôn amdanyn nhw, yn hytrach na'u rhoi mewn perygl.

Byddaf yn siarad yn gyntaf, os caf i, am y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i, gwelliant 76, sy'n dileu darpariaeth sy'n diwygio Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a fyddai wedi galluogi'r comisiwn i gyfeirio unrhyw gynigion a wneir gan awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol wirfoddol neu sefydledig sy'n effeithio ar addysg chweched dosbarth fel y'i diffinnir ac sy'n destun gwrthwynebiad dilys i Weinidogion Cymru i wneud penderfyniad. Gan y bydd angen i Weinidogion Cymru gymeradwyo pob cynnig o'r fath sy'n ddarostyngedig i wrthwynebiad dilys bellach, o ganlyniad i welliant a wnes i yng Nghyfnod 2, nid oes angen y ddarpariaeth hon.

Gan droi at y gwelliannau eraill yn y grŵp hwn, gwrthodaf welliannau 163 a 164 a gwelliannau 161 a 165 hefyd, sy'n ganlyniadol i'r gwelliannau hynny. Mae'r rhain i gyd yn ailadrodd gwelliannau a gyflwynwyd ac a wrthodwyd yng Nghyfnod 2, ac mae fy rhesymau dros eu gwrthod yn aros yr un fath. I grynhoi ar gyfer y cofnod heddiw, mae'r gwelliannau hyn yn dileu'r Bennod 3A newydd y mae'r Bil yn ei mewnosod ar hyn o bryd yn Rhan 3 o Ddeddf 2013, ac yn hytrach yn cadw pwerau presennol Gweinidogion Cymru i ad-drefnu addysg chweched dosbarth, ac yn ymestyn y pwerau hynny i'r comisiwn.

Mae'r Bil yn mewnosod Pennod 3A newydd yn Neddf 2013, yn hytrach na diwygio'r ddarpariaeth bresennol, er mwyn adlewyrchu'n well y newidiadau i'r dirwedd reoleiddiol a achoswyd gan sefydlu'r comisiwn. Bydd y darpariaethau yn y Bennod newydd hon yn galluogi'r comisiwn i fabwysiadu dull mwy strategol, gan gynnig persbectif ehangach i ddarpariaeth chweched dosbarth mewn ysgolion. Drwy'r darpariaethau, sefydlir fframwaith deddfwriaethol sy'n galluogi'r comisiwn i fabwysiadu'r farn strategol hon a chyfarwyddo awdurdodau lleol i gyflwyno cynigion, gan sicrhau'r cysylltiad yn ôl i'r lefel leol. Drwy ddileu'r gwelliant i Ddeddf 2013 a fewnosodais yn y Bil yng Nghyfnod 2, mae gwelliant 162, a gyflwynwyd yn enw Laura Anne Jones, yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gymeradwyo pob cynnig sy'n effeithio ar addysg chweched dosbarth, hyd yn oed pan nad oes gwrthwynebiad wedi ei wneud. Mae hyn yn ychwanegu biwrocratiaeth ddiangen. Os nad oes gwrthwynebiadau dilys i'r cynnig, nid wyf i'n gweld pa fudd sy'n cael ei ychwanegu drwy fynnu bod angen i Weinidogion Cymru gymeradwyo cynnig o'r fath, ac felly galwaf ar yr Aelodau i gefnogi gwelliant 76, a gyflwynwyd yn fy enw i, ac i wrthod yr holl welliannau eraill yn y grŵp.