Part of the debate – Senedd Cymru am 7:15 pm ar 21 Mehefin 2022.
Mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf i'n rhannu optimistiaeth y siaradwr blaenorol am y mesurau diogelu sydd ar waith yn y Bil. Rwyf i'n credu, yn y bôn, y dylai pobl gael mynegi dewis ynglŷn â'r ddarpariaeth y maen nhw'n dymuno ei mynychu yn eu hardal nhw. Rwy'n credu y dylai dysgwyr gael pob cyfle i fwynhau ystod eang o ddarpariaeth, p'un a ydyn nhw'n dymuno ymgymryd â'u dysgu ôl-16 ychwanegol mewn sefydliad addysg bellach neu goleg, neu'n dymuno mynychu chweched dosbarth lleol. Ond y realiti yw nad yw'r dewisiadau hynny ar gael ym mhob rhan o'r wlad, ac rydym ni wedi gweld erydiad y dewis hwnnw dros y blynyddoedd.
Un agwedd arall ar erydu'r dewis hwnnw yw'r diffyg dewis sydd ar gael, nid yn unig o ran addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg mewn rhai rhannau o Gymru, ond hefyd addysg mewn ysgolion ffydd mewn rhai rhannau o Gymru hefyd; mae'r Gwasanaeth Addysg Gatholig, yr Eglwys yng Nghymru, yn dymuno gallu cynnig mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ôl-16 ddysgu mewn amgylchedd lle mae nodwedd ffydd, ac nid yw hynny'n gyfle yr wyf i'n gweld yn cael ei hyrwyddo'n weithredol yn y Bil hwn, ac mewn gwirionedd rwy'n credu bod y mathau hynny o gyfleoedd, lle maen nhw ar gael, o dan fygythiad o bosibl, ac nid wyf yn gweld yr amddiffyniadau sydd ar waith o'r gwelliannau sydd wedi eu hawgrymu gan y Gweinidog.
Felly, dyna pam yr wyf i'n siarad o blaid y gwelliannau sydd wedi eu cyflwyno gan Laura Anne Jones. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod yn rhaid i ni roi'r mesurau diogelu hyn ar waith fel bod dewis dysgwyr yn rhywbeth sy'n hollbwysig, wrth symud ymlaen, ac nid yn rhywbeth sy'n cael ei wthio i'r ymylon.