Grŵp 19: Chweched dosbarth (Gwelliannau 161, 162, 76, 163, 164, 165)

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:14 pm ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 7:14, 21 Mehefin 2022

Mae dosbarthiadau chwech yn chwarae rhan bwysig ac unigryw o fewn addysg cyfrwng Cymraeg, gan ddiogelu'r model trochi a sicrhau parhad hanfodol i ddatblygiad sgiliau iaith y dysgwyr sydd wedi derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, a'u caniatáu hefyd i gyfrannu i ethos Cymraeg eu hysgolion ac i fod yn fodelau rôl ieithyddol a diwylliannol i ddisgyblion iau. Mae'n hanfodol bod y darpariaethau o fewn y Bil yn cefnogi atebolrwydd democrataidd lleol a chenedlaethol, a bod modelau lleol sy'n gweddu anghenion eu cymunedau yn cael eu caniatáu. Felly, rydym ni'n teimlo bod y newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yng Nghyfnod 2, sy'n ymwneud, er enghraifft, â defnyddio'r term 'ailstrwythuro' yn hytrach na 'rhesymoli', yn cwrdd â'r galw, a bod dewisiadau ac anghenion dysgwyr, ac yn enwedig dysgwyr cyfrwng Cymraeg, nawr yn cael eu diogeli, gan y bydden nhw'n cael eu cyfeirio at Weinidogion Cymru pe bai yna wrthwynebiad dilys.