– Senedd Cymru am 4:37 pm ar 21 Mehefin 2022.
Grŵp 2 nawr yw'r grŵp nesaf, ac mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â dysgu o bell. Gwelliant 1 yw'r prif welliant, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud y cynnig ar y prif welliant. Jeremy Miles.
Diolch Llywydd. Galwaf ar Aelodau i gefnogi'r gwelliannau technegol ond pwysig hyn sy'n sicrhau bod cyrsiau dysgu o bell a ddarperir gan ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru, neu ar eu rhan, yn cael eu cynnwys yn y darpariaethau perthnasol yn y Bil, a hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwysiad tiriogaethol y Bil.
Llywydd, yn ystod y pandemig, llwyddodd y sector addysg drydyddol yng Nghymru i addasu'n gyflym, drwy gynyddu faint o addysgu a dysgu a ddarparwyd o bell ac ar-lein. Yn y dyfodol, rydym yn disgwyl y bydd mwy o ddefnydd o ddarpariaeth hybrid o addysgu a dysgu, ac mae'n bwysig bod y gyfraith yn parhau i fod yn gyfredol gyda hyn, gan ragweld a galluogi darparwyr i gyflawni ar ran dysgwyr.
Mae gwelliannau 1 i 5, 7, 10 ac 11 yn egluro'r cymhwysiad tiriogaethol o ddyletswyddau strategol y comisiwn mewn perthynas â chyfle cyfartal, gwelliant parhaus, ac addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg. Mae'r dyletswyddau hyn bellach yn berthnasol i addysg drydyddol yng Nghymru, a ddiffinnir gan welliant 68 fel addysg drydyddol a ddarperir gan, neu ar ran, darparwr addysg drydyddol yng Nghymru, neu a ariennir neu a sicrheir fel arall gan y comisiwn.
Mae gwelliant 69 yn sicrhau bod cyfeiriadau at ddarparu addysg drydyddol gan ddarparwr addysg drydyddol yng Nghymru, neu ar eu rhan, yn cynnwys cyrsiau addysg drydyddol a ddarperir mewn un neu fwy o leoedd yng Nghymru neu rywle arall ac ar ffurf dysgu o bell.
Bydd y gwelliannau hyn yn sicrhau bod y dyletswyddau strategol hyn yn berthnasol i addysg drydyddol a ddarperir gan ddarparwyr yng Nghymru drwy ddysgu o bell, neu ddarpariaeth wyneb yn wyneb a ddarperir y tu allan i Gymru, a hefyd addysg drydyddol a ariennir neu a sicrheir fel arall gan y comisiwn.
Mae gwelliannau 8 a 9 yn diwygio'r cymhwysiad tiriogaethol o'r ddyletswydd strategol i hyrwyddo cydlafurio a chydlynu mewn addysg drydyddol ac ymchwil. Bydd y ddyletswydd bellach yn ymgorffori darparwyr yng Nghymru, sef sefydliadau y mae eu gweithgareddau'n cael eu cyflawni'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru.
Mae gwelliannau 14 a 15 yn egluro bod y diffiniad o 'gyrsiau cymhwysol' at ddibenion terfynau ffioedd o dan adran 32 o'r Bil yn cynnwys cyrsiau a ddarperir gan ddarparwr cofrestredig sy'n dod o fewn categori terfynau ffioedd, pan fo cyrsiau o'r fath yn cael eu darparu yng Nghymru neu rywle arall naill ai wyneb yn wyneb neu ar ffurf dysgu o bell. Mae hyn yn egluro'r gyfraith i sicrhau bod terfynau ffioedd ar gyfer cyrsiau cymhwysol yn berthnasol hyd yn oed pan fo myfyriwr yn dilyn y cwrs ar ffurf dysgu o bell, a lle darperir y cwrs yng Nghymru neu rywle arall.
Mae gwelliannau 16 i 20 yn egluro bod yr amodau cofrestru mewn perthynas â chyfle cyfartal yn berthnasol i gyrsiau wyneb yn wyneb a ddarperir yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru a chyrsiau dysgu o bell lle y gellir dweud bod y cyrsiau hynny'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru oherwydd lleoliad daearyddol staff dysgu a myfyrwyr. Mae gwelliant 21 yn ganlyniadol i'r gwelliannau hyn ac yn egluro'r diffiniad o 'grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol'.
Mae gwelliant 22 yn egluro cymhwysiad tiriogaethol y pwerau mynediad ac arolygu o dan adran 74 yn y Bil drwy ddatgan bod pwerau o'r fath yn gymwys mewn perthynas â lleoliadau yng Nghymru ac yn Lloegr.
Mae gwelliannau 37, 38 a 42, a'r diffiniad cysylltiedig o 'gyfleusterau i Gymru' yng ngwelliant 67, yn diwygio dyletswyddau'r comisiwn i sicrhau cyfleusterau ar gyfer addysg bellach a hyfforddiant yng Nghymru ac ar gyfer pobl sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru. Gall hyn gynnwys darpariaeth ar ffurf dysgu o bell neu ddarpariaeth wyneb yn wyneb sy'n digwydd y tu allan i Gymru ac mae'n gyson ag effaith y dyletswyddau cyfatebol yn y ddeddfwriaeth bresennol.
Mae gwelliannau 47 i 51 yn diwygio cwmpas tiriogaethol y pwerau i ariannu gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag addysg drydyddol. Mae gwelliannau 47 a 48 yn ymwneud â phwerau Gweinidogion Cymru a'r comisiwn i ariannu gwybodaeth am addysg a hyfforddiant a chyfleusterau i gysylltu cyflogwyr a'r rhai sy'n darparu neu'n derbyn addysg a hyfforddiant o dan adran 102(1). Mae'r diwygiadau'n caniatáu i addysg o'r fath gynnwys addysg drydyddol a ddarperir gan ddarparwyr yng Nghymru, addysg drydyddol a ariennir neu a sicrheir fel arall gan y comisiwn, ac unrhyw addysg neu hyfforddiant arall a ddarperir yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru, neu a ddarperir naill ai wyneb yn wyneb neu ar ffurf dysgu o bell i bobl sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru.
Mae gwelliannau 49 a 50 yn gwneud darpariaeth debyg mewn perthynas â phwerau'r comisiwn i ariannu addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg ac i addysgu'r Gymraeg drwy gyfrwng addysg drydyddol. Mae gwelliant 51 yn darparu'r diffiniad o 'addysg berthnasol' at y dibenion hyn.
Yn olaf, mae gwelliannau 63 a 64 yn yr un modd yn diwygio cwmpas tiriogaethol pwerau Gweinidogion Cymru a'r comisiwn i ariannu ymchwil mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant.
Galwaf ar Aelodau i gefnogi'r holl welliannau hyn.
Does gyda fi ddim siaradwyr eraill ar y grŵp yma. Dwi'n cymryd bod y Gweinidog, felly, ddim angen ymateb. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw wrthwynebiad?
A oes gwrthwynebiad i welliant 1? Nac oes.
Nac oes, felly mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.
Gwelliant 2—ydy e'n cael ei symud gan y Gweinidog?
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 2? Nac oes, ac felly mae gwelliant 2 wedi'i dderbyn.
Gwelliant 3, Weinidog.
Mae'n cael ei gynnig gan y Gweinidog.
A oes gwrthwynebiad? Dim gwrthwynebiad, felly derbynnir gwelliant 3.
Ydy gwelliant 4 yn cael ei symud gan y Gweinidog?
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 4? Nac oes, ac felly mae gwelliant 4 wedi'i dderbyn.
Gwelliant 5—ydy e'n cael ei symud gan y Gweinidog?
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 5? Nac oes, felly mae gwelliant 5 wedi'i dderbyn.