– Senedd Cymru am 4:44 pm ar 21 Mehefin 2022.
Grŵp 3 sydd nesaf. Mae grŵp 3 o welliannau'n ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol. Gwelliant 6 yw'r prif welliant, a'r unig welliant, yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar y Gweinidog i gynnig gwelliant 6, felly.
Diolch, Llywydd. Mae gwelliant 6 yn ychwanegu cyfeiriad at unigolion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol at adran 4 y Bil, sy'n darparu ar gyfer y ddyletswydd strategol o ran annog pobl i gymryd rhan mewn addysg drydyddol. Mae adran 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r comisiwn
'annog unigolion sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru i gymryd rhan mewn addysg drydyddol'.
Mae'r gwelliant hwn yn newid yr adran hon i gynnwys cyfeiriad penodol at
'unigolion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol'.
Er bod y ddyletswydd, fel y'i cyflwynwyd, yn cynnwys pob unigolyn, gan gynnwys y rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, fel y nodais yng Nghyfnod 2, rwy'n cyflwyno'r gwelliant hwn i gynnwys cyfeiriad penodol ar wyneb y Bil i roi y tu hwnt i unrhyw amheuaeth bod y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol o fewn cwmpas y ddyletswydd strategol. Hoffwn ddiolch yn benodol i Laura Anne Jones am y dull adeiladol y mae wedi ei fabwysiadu o ran trafodaethau yng nghyswllt y gwelliant hwn, sy'n cymryd i ystyriaeth y trafodaethau a gawsom yn ystod trafodion Cyfnod 2 yn y pwyllgor. Anogaf yr Aelodau i gefnogi'r gwelliant pwysig hwn.
Rwy'n cydnabod bod y Gweinidog wedi cymryd rhywfaint o gamau yn hyn o beth, ac rydym ni'n croesawu hynny, wrth gwrs, a diolch am gydnabod ein cyfraniad ato. Ond, mae angen i ni weld y comisiwn yn bod yn eglur ynghylch sut y byddan nhw'n trin pobl ag anghenion dysgu ychwanegol yn eu polisi, yn enwedig o ran interniaethau a phrentisiaethau â chymorth, sy'n cael eu hintegreiddio i'r Bil. Mae rhwystrau eisoes yn bodoli i'r rheini ag anableddau dysgu sy'n ymuno â'r gweithlu, a gallai'r Bil hwn fod yn gyfle enfawr i chwalu'r rhwystrau hynny.
Mae'r Gweinidog yn ymwybodol bod y pwyllgor wedi mynegi ei bryderon am y comisiwn o ran Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a nodaf ei ymateb, a soniodd fod trefniadau manwl ar gyfer gweithredu diwygiadau ADY ôl-16 yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd. Byddwn yn ddiolchgar felly pe bai'r Gweinidog yn egluro pryd y mae'n disgwyl i'r trefniadau manwl hyn gael eu gweithredu a sut y bydd y rhain yn effeithio ar bolisi'r comisiwn ar ddarparu ADY yn y sectorau addysg drydyddol ac uwch. Hoffwn wybod hefyd a fydd cyllid ar gyfer interniaethau a phrentisiaethau â chymorth yn cael ei gynnwys yn y polisi hwn.
Rwy'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi cychwyn diwygiadau sylweddol i ADY yn y sector addysg, a chan fod ADY yn para am oes, mae angen i ni sicrhau bod pontio di-dor o ysgolion i addysg drydyddol ac yna, os yw'n bosibl, ymlaen i weithio. Diolch, Llywydd.
Mae Plaid Cymru'n cefnogi'r gwelliannau yn y grŵp yma, ac yn sicr gwelliant 6, sy'n ymateb, fel y clywon ni, i faterion a godwyd yn ystod Cyfnod 2 o graffu. Fel y dywedodd y Gweinidog a Laura Anne Jones, mae'n gyfnod o ddiwygiad arwyddocaol ym maes ADY, ac mae'n hanfodol i sicrhau bod y Bil hwn, sy'n cyflwyno diwygiadau mawr ym maes addysg drydyddol, yn cyflawni dros ein dysgwyr ADY hefyd. Fel y gwyddom, mae yna rwystrau mawr i bobl ag anableddau dysgu rhag cael mynediad i'r gweithlu, ac mae'r Bil hwn yn gyfle gwirioneddol i geisio gwaredu rhai o'r rhwystrau hynny, fel y dywedodd Laura Anne Jones. Ac fel y cafodd ei gydnabod gan y Gweinidog yn ystod Cyfnod 2, mae'n hanfodol bod yna lwybr dirwystr a llyfn o addysg statudol i gyfleoedd ôl-16 ac yna i'r gweithle. Fel nododd y Gweinidog yn ystod Cyfnod 2, bydd gan y comisiwn rôl i'w chwarae wrth asesu a yw adnoddau yn ddigonol ar gyfer darpariaeth ADY ar lefel poblogaeth gyffredinol. Felly, beth hoffwn i glywed gan y Gweinidog yw sut y mae'n rhagweld y bydd y comisiwn yn annog unigolion sy'n byw yng Nghymru i gyfranogi mewn addysg drydyddol.
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl yma.
Gaf i ddiolch i Laura Anne Jones ac i Sioned Williams am eu cefnogaeth am yr hyn roeddwn i'n cynnig yn y gwelliant hwn ac i gydnabod y drafodaeth bositif a chydweithredol a gafwyd yng Nghyfnod 2 y Bil? O ran y cwestiwn a ofynnodd Laura Anne Jones, mater wrth gwrs i'r comisiwn fydd hyn, ond mae gwaith yn digwydd eisoes o ran rhoi'r Ddeddf hon ar waith o ran camau gweithredol, a bydd y diwygiad hwn i'r Bil yn cael ei gymryd i mewn i ystyriaeth wrth gwrs yn y cyd-destun penodol hwnnw. Ac fel y gwnaeth Sioned Williams grybwyll yn ei chwestiwn hi, mae e wir yn bwysig i sicrhau bod dilyniant i bobl gydag anghenion dysgu ychwanegol, ac mae'r ychwanegiad hwn yn gwneud hynny'n gwbl eglur ar wyneb y Bil.
Hoffwn i jest ail-ddweud bod yr hyn oedd yn y Bil pan gafodd ei gyflwyno yn sicrhau bod rôl strategol y comisiwn i ddarparu ar draws y system yn glir a bod hynny'n cyd-fynd â'r diwygiadau o ran y ddeddfwriaeth sydd eisoes gyda ni o ran anghenion dysgu ychwanegol, a hwnnw sydd yn caniatáu gweithio gydag awdurdodau lleol ac eraill sydd â chyfrifoldebau penodol i ddarparu yng nghyd-destun unigolion.
Y cwestiwn nawr, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 6?
A oes gwrthwynebiad i welliant 6?
Nac oes, ac felly derbynnir gwelliant 6.
Ydy gwelliant 7 yn cael ei symud gan y Gweinidog?
Gwelliant 7. A oes gwrthwynebiad i welliant 7? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 7.
Ydy gwelliant 8 yn cael ei symud?
Felly, gwelliant 8. A oes gwrthwynebiad i amendment 8? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 8.
Ydy gwelliant 9 yn cael ei symud?
Ydy. A oes gwrthwynebiad i welliant 9? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 9.
Ydy gwelliant 10 yn cael ei symud?
A oes gwrthwynebiad i welliant 10? Nac oes, felly derbynnir gwelliant 10 hefyd.