Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 21 Mehefin 2022.
Rwy'n cydnabod bod y Gweinidog wedi cymryd rhywfaint o gamau yn hyn o beth, ac rydym ni'n croesawu hynny, wrth gwrs, a diolch am gydnabod ein cyfraniad ato. Ond, mae angen i ni weld y comisiwn yn bod yn eglur ynghylch sut y byddan nhw'n trin pobl ag anghenion dysgu ychwanegol yn eu polisi, yn enwedig o ran interniaethau a phrentisiaethau â chymorth, sy'n cael eu hintegreiddio i'r Bil. Mae rhwystrau eisoes yn bodoli i'r rheini ag anableddau dysgu sy'n ymuno â'r gweithlu, a gallai'r Bil hwn fod yn gyfle enfawr i chwalu'r rhwystrau hynny.
Mae'r Gweinidog yn ymwybodol bod y pwyllgor wedi mynegi ei bryderon am y comisiwn o ran Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a nodaf ei ymateb, a soniodd fod trefniadau manwl ar gyfer gweithredu diwygiadau ADY ôl-16 yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd. Byddwn yn ddiolchgar felly pe bai'r Gweinidog yn egluro pryd y mae'n disgwyl i'r trefniadau manwl hyn gael eu gweithredu a sut y bydd y rhain yn effeithio ar bolisi'r comisiwn ar ddarparu ADY yn y sectorau addysg drydyddol ac uwch. Hoffwn wybod hefyd a fydd cyllid ar gyfer interniaethau a phrentisiaethau â chymorth yn cael ei gynnwys yn y polisi hwn.
Rwy'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi cychwyn diwygiadau sylweddol i ADY yn y sector addysg, a chan fod ADY yn para am oes, mae angen i ni sicrhau bod pontio di-dor o ysgolion i addysg drydyddol ac yna, os yw'n bosibl, ymlaen i weithio. Diolch, Llywydd.