Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 21 Mehefin 2022.
Mae Plaid Cymru'n cefnogi'r gwelliannau yn y grŵp yma, ac yn sicr gwelliant 6, sy'n ymateb, fel y clywon ni, i faterion a godwyd yn ystod Cyfnod 2 o graffu. Fel y dywedodd y Gweinidog a Laura Anne Jones, mae'n gyfnod o ddiwygiad arwyddocaol ym maes ADY, ac mae'n hanfodol i sicrhau bod y Bil hwn, sy'n cyflwyno diwygiadau mawr ym maes addysg drydyddol, yn cyflawni dros ein dysgwyr ADY hefyd. Fel y gwyddom, mae yna rwystrau mawr i bobl ag anableddau dysgu rhag cael mynediad i'r gweithlu, ac mae'r Bil hwn yn gyfle gwirioneddol i geisio gwaredu rhai o'r rhwystrau hynny, fel y dywedodd Laura Anne Jones. Ac fel y cafodd ei gydnabod gan y Gweinidog yn ystod Cyfnod 2, mae'n hanfodol bod yna lwybr dirwystr a llyfn o addysg statudol i gyfleoedd ôl-16 ac yna i'r gweithle. Fel nododd y Gweinidog yn ystod Cyfnod 2, bydd gan y comisiwn rôl i'w chwarae wrth asesu a yw adnoddau yn ddigonol ar gyfer darpariaeth ADY ar lefel poblogaeth gyffredinol. Felly, beth hoffwn i glywed gan y Gweinidog yw sut y mae'n rhagweld y bydd y comisiwn yn annog unigolion sy'n byw yng Nghymru i gyfranogi mewn addysg drydyddol.