– Senedd Cymru am 5:17 pm ar 22 Mehefin 2022.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 8, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y rhwydwaith trafnidiaeth. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, 10 yn ymatal, 27 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Dwi'n galw nawr am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, yn ymatal neb, 25 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi'i gymeradwyo.
Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais ar welliant 2. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 15 yn erbyn, felly mae gwelliant 2 wedi ei gymeradwyo.
Y cynnig wedi'i ddiwygio yw'r bleidlais olaf.
Cynnig NDM8033 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1 Yn credu bod Llwybr Newydd yn strategaeth drafnidiaeth i Gymru sy’n briodol ar gyfer wynebu’r argyfwng hinsawdd.
2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i roi cyllid digonol i Gymru fel y gall fuddsoddi yn y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus;
3. Yn credu y dylid datganoli seilwaith rheilffyrdd i sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg o brosiectau fel HS2.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, 10 yn ymatal, 15 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
A dyna ddiwedd ar y cyfnod pleidleisio yna, diolch byth.