– Senedd Cymru am 5:21 pm ar 22 Mehefin 2022.
Rydyn ni'n mynd ymlaen i'r ddadl fer. Felly, os gwnaiff pawb adael y Siambr yn dawel sydd yn dymuno gadael.
Os gall yr Aelodau adael y Siambr yn dawel. Mae'r Cyfarfod Llawn yn parhau. Gofynnais am rywfaint o dawelwch wrth ichi adael y Siambr, os gwelwch yn dda. Mae'r Cyfarfod Llawn yn parhau. Rwyf am alw ar Jenny Rathbone i gyflwyno ei dadl fer. Jenny Rathbone.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Heledd Fychan. Rwy'n cynrychioli etholaeth amrywiol iawn, gyda rhai o'r aelwydydd tlotaf a rhai o'r aelwydydd cyfoethocaf yng Nghymru. Rwyf wedi cael fy nghyfareddu ers tro gan y ffordd y mae gwahanol ysgolion yng Nghaerdydd ac mewn mannau eraill yn ymdrin ag anawsterau ymddygiad disgyblion a'u hymdrechion, neu fel arall, i osgoi gwahardd disgyblion.
Tua 10 mlynedd yn ôl, ymwelodd Julie Morgan a minnau â'r uned cyfeirio disgyblion yng Ngabalfa, ac rwy'n cofio'n glir gwrando ar un ferch yn disgrifio'r prydau poeth a'r pwdin yr oedd wedi'u mwynhau yn yr ysgol gynradd. Roedd yn amlwg i mi nad oedd wedi cael pryd poeth yn y tair blynedd ers hynny, naill ai yn yr ysgol neu gartref, ac rwy'n aml yn meddwl tybed beth ddigwyddodd iddi a sut y gallai ei bywyd fod wedi bod yn wahanol pe bai wedi cael gwell cefnogaeth i ffynnu yn yr ysgol.
Rydym wedi barnu ysgolion ers amser maith yn ôl cyfran y disgyblion sy'n cael pum gradd A i C yn eu TGAU a chymwysterau uwch sy'n sicrhau lle iddynt mewn prifysgol neu fan hyfforddi o'u dewis. Mae cyrhaeddiad yn bwysig iawn. Mae'r gymdeithas angen i'r genhedlaeth nesaf allu achub ein bywydau os cawn ein taro gan gar, neu i ail-beiriannu ein cartrefi, ein trafnidiaeth a'n system fwyd mewn ymateb i'n rhwymedigaethau hinsawdd, neu'n wir, i gynhyrchu'r cyfoeth sydd ei angen arnom i ddiwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol. Ond nid yw'n ddigon inni ganolbwyntio ar gyrhaeddiad yn unig wrth fesur pa mor dda y mae ysgolion yn addysgu eu holl ddisgyblion.
Ni chaiff plant eu geni'n gyfartal, ac mae rhai plant yn cyrraedd y dosbarth derbyn ar ôl profi nifer o brofiadau niweidiol eisoes yn ystod plentyndod, ac nid oes ganddynt lawer o eiriau i gyfleu eu teimladau, tra bo eraill eisoes wedi dysgu ysgrifennu eu henw a mynegi eu hunain yn glir. Mae'r cwricwlwm newydd yn rhoi cyfle—yn ei gwneud yn ofynnol yn wir—inni edrych ar yr agweddau ehangach ar addysg, yn enwedig yr agweddau llesiant ar hawl plant i addysg. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i uchelgais Llywodraeth Cymru i leihau'r bwlch cyrhaeddiad mewn perthynas â thlodi.
Nid yw'r niferoedd dan sylw mor sylweddol â hynny. Yn ystadegol, mae Caerdydd yn gwneud yn well ar waharddiadau cyfnod penodol, gyda 17 o bob 1,000 o ddisgyblion, o gymharu â 29 o bob 1,000 ar gyfer Cymru gyfan. Ffigurau yw'r rhain ar gyfer y cyfnod diwethaf sydd ar gael, sef 2019-20, ac ni fydd unrhyw ffigurau dilynol mor ddefnyddiol â hynny ar hyn o bryd, oherwydd, yn amlwg, bydd y cyfyngiadau symud wedi'u gwyro'n aruthrol i ryw gyfeiriad neu'i gilydd.
Ar waharddiadau parhaol, mae'r darlun wedi'i wrthdroi yn 2019-20: 7 disgybl o bob 10,000 wedi'u gwahardd yn barhaol yng Nghaerdydd o gymharu â 5 o bob 10,000 ledled Cymru, er bod y niferoedd yr un fath yn y flwyddyn flaenorol ledled y wlad, 5 o bob 10,000. Ond y tu ôl i'r niferoedd bach hyn mae yna strategaethau eraill y mae rhai ysgolion yn eu defnyddio i gael gwared ar ddisgyblion nad ydynt eisiau bod yn gyfrifol amdanynt mwyach. Mae symud wedi'i reoli yn un strategaeth. Mae troi llygad ddall pan nad yw disgyblion heriol yn dod i'r ysgol yn un arall. Mae dadgofrestru disgybl oherwydd absenoldeb parhaus o'r ysgol yn un ychwanegol. Oni bai bod eglurder ynghylch pam nad ydynt yn mynychu ac i ble maent wedi symud, nid yw ysgolion yn cyflawni eu dyletswydd gofal i unigolion ifanc. Os oes achos pryder yn y cartref, yr ysgolion yn bendant sydd yn y sefyllfa orau i sylwi ac i wneud rhywbeth yn ei gylch.
Hyd yn oed os yw'r cyfraddau gwahardd gwirioneddol ddwywaith y ffigurau cyhoeddedig, mae'r niferoedd yn parhau i fod yn fach, ond mae eu heffaith ar gymdeithas yn gyffredinol yn enfawr. Dywedodd un pennaeth wrthyf fod gwahardd yn ddedfryd oes o salwch meddwl a/neu garchar. Heb gymwysterau, mae gobaith unigolyn ifanc o gael swydd dda a'i chadw yn annhebygol tu hwnt hefyd. At hynny, mae ein carchardai'n llawn o bobl sydd â salwch meddwl ac sydd wedi profi llawer o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae'r ymchwil yn cadarnahau safbwyntiau'r pennaeth hwnnw. Mae'r Athro Ann John ac eraill ym Mhrifysgol Abertawe wedi dadansoddi cofnodion addysg ac iechyd dienw 400,000 o ddisgyblion, sy'n cysylltu gwaharddiadau neu absenoldeb parhaus yn gadarn ag iechyd meddwl gwael ar hyn o bryd neu yn y dyfodol.
Nid ydynt eto wedi profi bod gwaharddiad o'r ysgol yn achosi hunanladdiad yn hytrach na bod tueddiadau hunanladdol yn cael eu mynegi yn y problemau ymddygiadol sy'n arwain at waharddiad, ond mae'r cysylltiad â salwch meddwl, hunanladdiad a chysylltiad â'r heddlu yn glir ac yn cael ei ategu gan astudiaethau academaidd amrywiol. Mae'n amlwg na fydd y rhai sydd angen y mwyaf o arweiniad yn yr ysgol yn ffynnu os cânt eu gadael heb oruchwyliaeth ar y strydoedd, lle maent ar drugaredd gwerthwyr cyffuriau—yn sicr yn fy etholaeth i.
Mae ymchwiliad parhaus y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i absenoldebau ysgol yn datgelu llawer o wybodaeth sydd hefyd yn berthnasol i waharddiadau ac i'r niferoedd cynyddol o bobl ifanc sy'n absennol o'r ysgol. Mae prydau ysgol am ddim, ethnigrwydd, anghenion dysgu ychwanegol, ac yn enwedig y cynnydd sylweddol yn y rhai sy'n nodi eu bod yn niwrowahanol, yn nodweddion sy'n gwneud disgybl yn fwy tebygol o fod yn absennol yn aml. Hyd yn oed os ydynt yn bresennol, a ydynt yn gwneud cynnydd yn eu dysgu? Os na, pa strategaethau y mae ysgolion yn eu defnyddio i fynd i'r afael â hynny? Nid ydym yn casglu'r wybodaeth honno ar hyn o bryd; rydym yn nodi eu presenoldeb ond nid yr hyn sy'n digwydd pan fyddant yn yr ysgol.
Mae tystiolaeth y Gweinidog addysg i ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn adleisio'r fframwaith ar gyfer y dull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol, a gyhoeddwyd gan Kirsty Williams ac Eluned Morgan yn y pumed Senedd, sef pwysigrwydd dull amlddisgyblaethol. Ni allwch ddisgwyl i athrawon sydd hefyd yn addysgu dosbarth o 30 i fynd i'r afael â chymhlethdod anghenion unigol plentyn a allai fod angen cymorth un-i-un gefnogol iawn. Felly, cytunaf yn llwyr na all yr ysgol ar ei phen ei hun ddiwallu holl anghenion poblogaeth gymhleth o bobl ifanc y bydd eu hanghenion yn amrywio wrth iddynt symud drwy blentyndod i'r glasoed ac i fod yn oedolion ifanc.
Nid yw'n ymwneud â meddygoli llesiant; mae'n ymwneud ag ystyried y continwwm o angen. Yn bennaf, mae'n ymwneud â meithrin gwytnwch a sicrhau camau ataliol. Ond mae gwir angen inni wybod pam y bu cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o bobl â niwrowahaniaeth, a byddwn yn awgrymu y gallai'r ffôn symudol fod yn un o'r achosion, yn yr ystyr fy mod yn sylwi'n gyson ar y bws ar rieni sy'n siarad ar y ffôn â rhywun yn hytrach na siarad â'u plentyn, ac os nad oes neb yn siarad â phlentyn, ni fydd yn dysgu sut i siarad, oherwydd nid yw'n rhywbeth yr ydym yn ei wneud yn organig, mae'n rhywbeth yr ydym i gyd yn ei ddysgu. Pwysleisir y pryder hwnnw gan brofiad therapyddion lleferydd ac iaith sy'n mynd i'r ysgol pan geir anghenion cyfathrebu penodol.
Felly, hoffwn weld ffocws ar anghenion pobl sydd mewn perygl o gael eu gwahardd o'r ysgol. Mae angen i hynny gyd-fynd â'r strategaethau ar gyfer mynd i'r afael â'r cynnydd mewn absenoldebau ysgol ar ôl y cyfyngiadau symud, sef yr hyn y mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ymchwilio iddo.
Rwy'n cydnabod yn llwyr nad oes atebion hawdd na chyflym i leihau gwaharddiadau—yn wir, dileu gwaharddiadau ym mhob achos ar wahân i'r achosion mwyaf eithafol o drais tuag at ddisgyblion neu staff eraill. Mae'r gost i gymdeithas o wahardd plant o'u hawl i addysg am nad ydynt yn ffitio'r ddarpariaeth a gynlluniwyd ar gyfer y mwyafrif yn sylweddol, ac mae'r cysylltiad â mynd ymlaen i ymwneud â thor-cyfraith, y gwasanaeth prawf a'r system carchardai yn y pen draw yn ddrud i gymdeithas ac yn drasig i'r unigolyn. Lle nad yw hynny'n digwydd, mae iechyd meddwl gwael hyd yn oed yn fwy trasig i'r unigolyn, a'r enghraifft fwyaf eithafol ohono yw cyflawni hunanladdiad wrth gwrs.
Nawr, cafodd y ddeddf gofal gwrthgyfartal ei sefydlu'n dda gan waith Julian Tudor Hart. Felly, sut yr ewch i'r afael â'r baich llesiant gwrthgyfartal ar ysgolion sydd â derbyniadau gwahanol iawn? Mae rhai ysgolion yn llawer mwy cyfun nag eraill. Mae hynny'n sicr yn wir yng Nghaerdydd, lle mae'r ystod yn nifer y prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd rhwng 7 y cant a 55 y cant. Felly, er mwyn i'r dull ysgol gymunedol y mae'r Gweinidog yn ei argymell yn yr ymchwiliad i absenoldebau ysgol lwyddo yn y ffordd orau, mae angen i bob ysgol ei fabwysiadu yn fy marn i. Ni allwn gael rhai ysgolion yn mynd i'r afael â'r mater hwn ac nid ysgolion eraill.
Felly, fy nghwestiynau i'r Gweinidog yw: sut rydych yn sicrhau bod pob awdurdod addysg lleol a chonsortiwm, a phob ysgol oddi mewn iddynt, yn efelychu arferion gorau mewn perthynas â hyn? Ac o ystyried y cysylltiad ag amddifadedd, sut rydych yn sicrhau nad yw'r ysgolion sydd â gormod o ddisgyblion ac sydd â'r heriau lleiaf yn dadlwytho'r broblem ar ysgolion llai poblogaidd sydd â'r heriau mwyaf? A yw'r fformiwla gyllido'n ddigon trylwyr i sicrhau bod adnoddau'n cael eu dosbarthu'n deg? Ac yn olaf, pryd rydych yn disgwyl y bydd y canllawiau newydd ar waharddiadau, a grybwyllwyd gan Rocio Cifuentes yn ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, yn cael eu rhyddhau? Fe'ch clywais yn dweud yn gynharach hefyd eich bod am wneud datganiad yr wythnos nesaf ar faterion cysylltiedig, felly edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd gennych i'w ddweud ar y pwnc pwysig hwn.
A gaf fi ddiolch i Jenny Rathbone am gyflwyno'r drafodaeth bwysig hon? Yn amlwg, mae'n peri pryder mawr. Fel un a arferai fod yn gynghorydd yn Rhondda Cynon Taf, roeddwn yn arbennig o bryderus ynghylch y lefelau uchel o waharddiadau o'r ysgol, ac yn enwedig ymhlith bechgyn ifanc. Roedd i'w gweld yn broblem nad oedd yn cael sylw. Rwy'n gwybod yn awr, o waith achos a ddaw i mewn i fy swyddfa, o ran gwaharddiadau o'r ysgol sy'n gysylltiedig â'r ffaith nad oes gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed ar gael, ac amseroedd aros o 30 mis, ac mae'r bobl ifanc hyn yn daer am gymorth, mae eu teuluoedd yn awyddus iawn i ddod o hyd i'r cymorth sydd ei angen arnynt, ac eto yr unig lwybr posibl yw eu gwahardd o'r un man lle y dylent fod yn ddiogel a lle y dylent gael eu cefnogi. Mae'n gefnogaeth ad hoc ar hyn o bryd hefyd. Mae rhai ysgolion yn gallu fforddio cynghorwyr mewnol, gan osgoi pethau fel CAMHS a darparu'r cymorth hwnnw ar unwaith. Rwyf hefyd yn ymwneud â rhai o'r ysgolion tair i 16 a thair i 19 oed, a'r hyn y mae rhieni ac athrawon a disgyblion yn ei ddweud wrthyf ynglŷn â pha mor anodd yw hi pan fydd gennych ddisgyblion efallai sydd angen mwy o gymorth, ond na all yr ysgol ei ddarparu. Ceir gwaharddiadau hefyd oherwydd bod athrawon yn pryderu am effaith ymddygiad a allai gael ei ystyried yn fygythiol ar ddisgyblion iau, rhai tair i 11 oed, ac am eu bod yn meddwl am yr effaith gyffredinol.
Felly, mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef. Mae'n sefyllfa sy'n gwaethygu, ac mae'n arbennig o broblemus yn rhai o'n hardaloedd difreintiedig lle y ceir tlodi plant a chymaint o bryderon gwahanol. Gwn hefyd fod rhieni'n brwydro am gymorth, ond nid yw pob rhiant a gofalwr yn gallu ymladd am y gefnogaeth honno, ac felly rydym mewn cylch o bobl y gwneir cam â hwy o un genhedlaeth i'r llall.
Gwaharddiadau o'r ysgol—rwy'n cytuno'n llwyr â chi—dylent fod yn ddewis olaf. Dylem fod yn cadw plant a phobl ifanc yn yr ysgol, a gobeithio y gallwn wneud mwy i sicrhau hynny yn y dyfodol.
Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i ymateb i'r ddadl. Jeremy Miles.
Diolch, Llywydd dros dro. Gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am gyflwyno'r ddadl fer hon? Mae gan bob plentyn a pherson ifanc yr hawl i gael addysg sy'n eu hysbrydoli, eu hysgogi a'u paratoi i gyflawni eu potensial mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Rwyf am fod yn glir y dylai'r penderfyniad i wahardd dysgwr ond gael ei wneud pan fetho popeth arall, hynny yw, mae'r ysgol yn derbyn bod yr holl strategaethau sydd ar gael iddyn nhw i gefnogi'r person ifanc hwnnw wedi methu.
I leihau nifer y gwaharddiadau, mae'n hanfodol i ddeall pam mae plant yn cael anawsterau yn yr ysgol a all achosi ymddygiad sy'n arwain at eu gwahardd. Rŷn ni eisoes yn cefnogi ysgolion yn hyn o beth drwy ein gwaith i daclo profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a thrwy weithredu'r Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol a thrwy roi'r cymorth a'r ddarpariaeth gywir yn eu lle. Ac rydyn ni wedi ariannu hyn â £67 miliwn o fuddsoddiad hyd yn hyn, ac ar ben hynny yn ymrwymo i fuddsoddi £21 miliwn y flwyddyn tan 2025.
Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ysgolion weithio ar y cyd gydag awdurdodau lleol i ddod o hyd i ysgol arall neu leoliad arall os bydd disgybl yn parhau i gael anawsterau yn yr ysgol er gwaethaf pob ymdrech i'w cefnogi. Mae ein canllawiau ar wahardd yn nodi'n glir nad yw Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn briodol i ysgolion gomisiynu darpariaeth allanol er mwyn ymdrin â materion sy'n ymwneud ag ymddygiad, er enghraifft, tiwtora gartref i'r rhai sy'n gwrthod mynd i'r ysgol. Pan fydd penderfyniad wedi ei wneud i wahardd disgybl, rhaid rhoi blaenoriaeth i sicrhau'r canlyniad gorau ar gyfer y person ifanc hwnnw, un sy'n golygu y gallan nhw fwynhau eu hawl i gael addysg.
Er ei bod yn wir nad yw pob achos o gamymddygiad yn arwydd o angen sydd heb ei ddiwallu, rhaid inni fod yn barod i dderbyn yr hyn y mae ymddygiad y disgybl yn ei gyfleu i ni. Felly, mae angen i ysgolion archwilio'r ffactorau sylfaenol a allai gyfrannu at ymddygiad gwael, fel anableddau dysgu a phroblemau iechyd meddwl, megis trawma, a mynd i'r afael â'r rhain, a hynny er mwyn sicrhau nad yw'r problemau hyn yn gwaethygu i'r fath raddau nes gwahardd yw'r unig ateb.
Ym mis Tachwedd 2021, cyhoeddodd Ymchwil Data Gweinyddol Cymru eu harchwiliad o'r cysylltiad rhwng absenoldeb a gwaharddiadau o'r ysgol a chyflyrau niwroddatblygiadol a meddyliol a gofnodwyd mewn carfan fawr o blant a phobl ifanc yng Nghymru. Canfu fod cyfraddau absenoldeb a gwaharddiadau o'r ysgol yn uwch ar ôl 11 oed ymhlith y plant i gyd, ond yn anghymesur felly yn y rhai â chyflwr a gofnodwyd. Canfu'r astudiaeth hefyd fod unigolion â mwy nag un cyflwr a gofnodwyd yn fwy tebygol o fod yn absennol neu wedi'u gwahardd, a gwaethygwyd hyn gyda phob cyflwr ychwanegol. Er mwyn gwella'r sylfaen dystiolaeth am iechyd meddwl disgyblion sydd wedi'u gwahardd, rydym wedi gofyn i Ymchwil Data Gweinyddol Cymru ailgynnal y prosiect ymchwil i gysylltu data addysg ac iechyd i nodi a yw disgyblion sydd wedi'u gwahardd, gan ganolbwyntio ar y rhai sydd mewn addysg heblaw yn yr ysgol, ag iechyd meddwl gwaeth na'r rhai mewn darpariaeth brif ffrwd. Mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn datblygu'r gwaith hwn ar hyn o bryd.
Fel rhan o'n dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol, a noddir ar y cyd gennyf fi a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, rydym yn edrych ar sut y mae ysgolion yn gweithio gydag asiantaethau eraill, megis CAMHS, i ddiwallu anghenion pobl ifanc a'u galluogi i barhau i ymgymryd â'u haddysg. A'n nod yw sicrhau bod ysgolion ledled Cymru yn gallu datblygu cynlluniau cyson i ddiwallu anghenion emosiynol ac iechyd meddwl eu myfyrwyr.
Mae ein canllawiau statudol ar y fframwaith dull ysgol gyfan a gyhoeddwyd y llynedd yn nodi mai'r allwedd i sicrhau addysgu a dysgu effeithiol yw sicrhau bod gan athrawon sgiliau angenrheidiol i addysgu mewn ffyrdd sy'n lleihau'r tebygolrwydd o ymddygiad gwael, gan roi sgiliau ac ymatebion effeithiol iddynt ar yr un pryd ar gyfer yr adegau pan fo ymddygiad anodd yn digwydd. Lle mae gan athrawon sgiliau ataliol ac ymatebol da, bydd y tebygolrwydd y bydd anawsterau'n dod i'r amlwg neu'n datblygu'n ddigwyddiadau ac yn dwysáu i waharddiadau yn cael ei leihau'n sylweddol.
Ceir llawer o enghreifftiau o arferion da eisoes—a chyfeiriodd Jenny Rathbone at hyn yn ei sylwadau agoriadol—arferion da y gallwn dynnu arnynt yn awr, ac rwyf am sicrhau drwy ein canllawiau newydd y byddaf yn dweud mwy amdanynt mewn munud ein bod yn gallu gwneud yn siŵr bod ysgolion yn gwneud defnydd o'r arferion da hynny. A gwyddom fod llawer o ysgolion yn cynnal archwiliadau llesiant, sy'n rhoi cyfle i ddisgyblion rannu sut y maent yn teimlo amdanynt eu hunain, eu perthynas ag eraill, eu cynnydd yn yr ysgol. Defnyddir hyn gan staff ochr yn ochr â gwybodaeth arall, megis gwybodaeth am bresenoldeb ac ymddygiad, i nodi'r rhai a allai elwa o gymorth ychwanegol.
Mae ysgolion hefyd wedi defnyddio ein cyllid dull ysgol gyfan i hyfforddi cynorthwywyr cymorth llythrennedd emosiynol i gynorthwyo disgyblion i fyfyrio a rhannu eu meddyliau a'u teimladau'n onest, gyda'r nod o ddeall yr angen seicolegol y tu ôl i lefelau isel o hunan-barch ac ymddygiad annymunol, gan eu galluogi i ymwneud yn well â'u cyfoedion, i wella eu penderfyniadau mewn cyd-destunau cymdeithasol, ac i fod yn well am nodi sefyllfaoedd peryglus. I gydnabod pwysigrwydd y gwaith hwn, mae'r Dirprwy Weinidog a minnau wedi cytuno ar gyllid o £12.2 miliwn yn y flwyddyn gyfredol i gefnogi lles emosiynol a meddyliol mewn ysgolion, rhan o fuddsoddiad o dros £43 miliwn yn y gyllideb tair blynedd.
Wrth fyfyrio ar effaith y pandemig ar ddysgu, ac wrth ystyried y cyd-destunau polisi ehangach, megis diwygiadau ADY, mae'n amlwg fod yn rhaid rhoi blaenoriaeth i ddiweddaru ein canllawiau ar waharddiadau. Bydd hyn yn sicrhau y gallant fanteisio ar yr holl waith, gweithgarwch a dysgu da sydd wedi digwydd ers i'r canllawiau gael eu diweddaru ddiwethaf yn 2019, ac rwy'n gobeithio y bydd y canllawiau newydd ar gael yn gynnar y flwyddyn nesaf. Ond rwy'n awyddus i sicrhau nad yw'r gwaith hwn yn cael ei wneud yn annibynnol ar bopeth arall, a bod yr holl bolisïau cydgysylltiedig yn cael eu hystyried mewn modd cyfannol.
Roedd yr adolygiad diweddar o bresenoldeb yn cynnwys nifer o argymhellion y byddwn yn eu datblygu, ac un ohonynt yw adolygiad o'r canllawiau presenoldeb presennol. Bydd hyn yn cynnwys rhannu a lledaenu arferion gorau ar gyfer gwella presenoldeb ac ystyried y ffordd orau y gall ysgolion ymgysylltu â dysgwyr a'u teuluoedd a darparu datblygiad proffesiynol wedi'i dargedu. Fel rhan o'r gwaith hwn, rwy'n awyddus inni adolygu'r diffiniad o 'absenoldeb parhaus', sef, ar hyn o bryd, absenoldeb am fwy nag 20 y cant o'r amser. Mae hwn yn fesur pwysig gan ei fod yn aml yn cael ei osod fel sbardun ar gyfer mathau penodol o ymyrraeth, megis cynnwys y gwasanaeth lles addysg.
Tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at y cysylltiad rhwng lefelau presenoldeb sy'n dirywio a phroblemau ymddygiadol ac emosiynol dilynol o'r math y cyfeiriodd Jenny Rathbone atynt yn rymus iawn yn ei haraith agoriadol. Ac os nad eir i'r afael â hwy, gallant arwain at wahardd y dysgwyr hynny o'r ysgol. Mae hyn yn atgyfnerthu'r angen i'r polisïau hyn gael eu hystyried a'u hadolygu ochr yn ochr â'i gilydd. Bydd y nifer anghymesur o ddysgwyr ag anghenion addysgol ychwanegol a waherddir yn ffactor allweddol arall wrth ddatblygu ein polisi newydd yn y maes hwn. Ond mae'n rhaid i hyn fynd y tu hwnt i ddiweddaru canllawiau yn unig. Rwy'n credu bod digwyddiadau'r ddwy flynedd ddiwethaf yn sicr wedi cael effaith ar bob dysgwr i raddau amrywiol, a rhaid i'n dull o weithredu ganolbwyntio ar ethos sy'n canolbwyntio ar y dysgwr ac sy'n ystyried gwahanol brofiadau ac amgylchiadau pob un o'n dysgwyr, yn enwedig ar ôl y pandemig. Ac rwyf wedi ymrwymo i sefydlu dull yn seiliedig ar hawliau plant o lunio polisïau, a'r egwyddor allweddol hon fydd yn llywio ein dull o weithredu.
A daw hynny â'r trafodion i ben am heddiw.