Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 22 Mehefin 2022.
Ar waharddiadau parhaol, mae'r darlun wedi'i wrthdroi yn 2019-20: 7 disgybl o bob 10,000 wedi'u gwahardd yn barhaol yng Nghaerdydd o gymharu â 5 o bob 10,000 ledled Cymru, er bod y niferoedd yr un fath yn y flwyddyn flaenorol ledled y wlad, 5 o bob 10,000. Ond y tu ôl i'r niferoedd bach hyn mae yna strategaethau eraill y mae rhai ysgolion yn eu defnyddio i gael gwared ar ddisgyblion nad ydynt eisiau bod yn gyfrifol amdanynt mwyach. Mae symud wedi'i reoli yn un strategaeth. Mae troi llygad ddall pan nad yw disgyblion heriol yn dod i'r ysgol yn un arall. Mae dadgofrestru disgybl oherwydd absenoldeb parhaus o'r ysgol yn un ychwanegol. Oni bai bod eglurder ynghylch pam nad ydynt yn mynychu ac i ble maent wedi symud, nid yw ysgolion yn cyflawni eu dyletswydd gofal i unigolion ifanc. Os oes achos pryder yn y cartref, yr ysgolion yn bendant sydd yn y sefyllfa orau i sylwi ac i wneud rhywbeth yn ei gylch.
Hyd yn oed os yw'r cyfraddau gwahardd gwirioneddol ddwywaith y ffigurau cyhoeddedig, mae'r niferoedd yn parhau i fod yn fach, ond mae eu heffaith ar gymdeithas yn gyffredinol yn enfawr. Dywedodd un pennaeth wrthyf fod gwahardd yn ddedfryd oes o salwch meddwl a/neu garchar. Heb gymwysterau, mae gobaith unigolyn ifanc o gael swydd dda a'i chadw yn annhebygol tu hwnt hefyd. At hynny, mae ein carchardai'n llawn o bobl sydd â salwch meddwl ac sydd wedi profi llawer o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae'r ymchwil yn cadarnahau safbwyntiau'r pennaeth hwnnw. Mae'r Athro Ann John ac eraill ym Mhrifysgol Abertawe wedi dadansoddi cofnodion addysg ac iechyd dienw 400,000 o ddisgyblion, sy'n cysylltu gwaharddiadau neu absenoldeb parhaus yn gadarn ag iechyd meddwl gwael ar hyn o bryd neu yn y dyfodol.
Nid ydynt eto wedi profi bod gwaharddiad o'r ysgol yn achosi hunanladdiad yn hytrach na bod tueddiadau hunanladdol yn cael eu mynegi yn y problemau ymddygiadol sy'n arwain at waharddiad, ond mae'r cysylltiad â salwch meddwl, hunanladdiad a chysylltiad â'r heddlu yn glir ac yn cael ei ategu gan astudiaethau academaidd amrywiol. Mae'n amlwg na fydd y rhai sydd angen y mwyaf o arweiniad yn yr ysgol yn ffynnu os cânt eu gadael heb oruchwyliaeth ar y strydoedd, lle maent ar drugaredd gwerthwyr cyffuriau—yn sicr yn fy etholaeth i.
Mae ymchwiliad parhaus y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i absenoldebau ysgol yn datgelu llawer o wybodaeth sydd hefyd yn berthnasol i waharddiadau ac i'r niferoedd cynyddol o bobl ifanc sy'n absennol o'r ysgol. Mae prydau ysgol am ddim, ethnigrwydd, anghenion dysgu ychwanegol, ac yn enwedig y cynnydd sylweddol yn y rhai sy'n nodi eu bod yn niwrowahanol, yn nodweddion sy'n gwneud disgybl yn fwy tebygol o fod yn absennol yn aml. Hyd yn oed os ydynt yn bresennol, a ydynt yn gwneud cynnydd yn eu dysgu? Os na, pa strategaethau y mae ysgolion yn eu defnyddio i fynd i'r afael â hynny? Nid ydym yn casglu'r wybodaeth honno ar hyn o bryd; rydym yn nodi eu presenoldeb ond nid yr hyn sy'n digwydd pan fyddant yn yr ysgol.
Mae tystiolaeth y Gweinidog addysg i ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn adleisio'r fframwaith ar gyfer y dull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol, a gyhoeddwyd gan Kirsty Williams ac Eluned Morgan yn y pumed Senedd, sef pwysigrwydd dull amlddisgyblaethol. Ni allwch ddisgwyl i athrawon sydd hefyd yn addysgu dosbarth o 30 i fynd i'r afael â chymhlethdod anghenion unigol plentyn a allai fod angen cymorth un-i-un gefnogol iawn. Felly, cytunaf yn llwyr na all yr ysgol ar ei phen ei hun ddiwallu holl anghenion poblogaeth gymhleth o bobl ifanc y bydd eu hanghenion yn amrywio wrth iddynt symud drwy blentyndod i'r glasoed ac i fod yn oedolion ifanc.
Nid yw'n ymwneud â meddygoli llesiant; mae'n ymwneud ag ystyried y continwwm o angen. Yn bennaf, mae'n ymwneud â meithrin gwytnwch a sicrhau camau ataliol. Ond mae gwir angen inni wybod pam y bu cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o bobl â niwrowahaniaeth, a byddwn yn awgrymu y gallai'r ffôn symudol fod yn un o'r achosion, yn yr ystyr fy mod yn sylwi'n gyson ar y bws ar rieni sy'n siarad ar y ffôn â rhywun yn hytrach na siarad â'u plentyn, ac os nad oes neb yn siarad â phlentyn, ni fydd yn dysgu sut i siarad, oherwydd nid yw'n rhywbeth yr ydym yn ei wneud yn organig, mae'n rhywbeth yr ydym i gyd yn ei ddysgu. Pwysleisir y pryder hwnnw gan brofiad therapyddion lleferydd ac iaith sy'n mynd i'r ysgol pan geir anghenion cyfathrebu penodol.
Felly, hoffwn weld ffocws ar anghenion pobl sydd mewn perygl o gael eu gwahardd o'r ysgol. Mae angen i hynny gyd-fynd â'r strategaethau ar gyfer mynd i'r afael â'r cynnydd mewn absenoldebau ysgol ar ôl y cyfyngiadau symud, sef yr hyn y mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ymchwilio iddo.
Rwy'n cydnabod yn llwyr nad oes atebion hawdd na chyflym i leihau gwaharddiadau—yn wir, dileu gwaharddiadau ym mhob achos ar wahân i'r achosion mwyaf eithafol o drais tuag at ddisgyblion neu staff eraill. Mae'r gost i gymdeithas o wahardd plant o'u hawl i addysg am nad ydynt yn ffitio'r ddarpariaeth a gynlluniwyd ar gyfer y mwyafrif yn sylweddol, ac mae'r cysylltiad â mynd ymlaen i ymwneud â thor-cyfraith, y gwasanaeth prawf a'r system carchardai yn y pen draw yn ddrud i gymdeithas ac yn drasig i'r unigolyn. Lle nad yw hynny'n digwydd, mae iechyd meddwl gwael hyd yn oed yn fwy trasig i'r unigolyn, a'r enghraifft fwyaf eithafol ohono yw cyflawni hunanladdiad wrth gwrs.
Nawr, cafodd y ddeddf gofal gwrthgyfartal ei sefydlu'n dda gan waith Julian Tudor Hart. Felly, sut yr ewch i'r afael â'r baich llesiant gwrthgyfartal ar ysgolion sydd â derbyniadau gwahanol iawn? Mae rhai ysgolion yn llawer mwy cyfun nag eraill. Mae hynny'n sicr yn wir yng Nghaerdydd, lle mae'r ystod yn nifer y prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd rhwng 7 y cant a 55 y cant. Felly, er mwyn i'r dull ysgol gymunedol y mae'r Gweinidog yn ei argymell yn yr ymchwiliad i absenoldebau ysgol lwyddo yn y ffordd orau, mae angen i bob ysgol ei fabwysiadu yn fy marn i. Ni allwn gael rhai ysgolion yn mynd i'r afael â'r mater hwn ac nid ysgolion eraill.
Felly, fy nghwestiynau i'r Gweinidog yw: sut rydych yn sicrhau bod pob awdurdod addysg lleol a chonsortiwm, a phob ysgol oddi mewn iddynt, yn efelychu arferion gorau mewn perthynas â hyn? Ac o ystyried y cysylltiad ag amddifadedd, sut rydych yn sicrhau nad yw'r ysgolion sydd â gormod o ddisgyblion ac sydd â'r heriau lleiaf yn dadlwytho'r broblem ar ysgolion llai poblogaidd sydd â'r heriau mwyaf? A yw'r fformiwla gyllido'n ddigon trylwyr i sicrhau bod adnoddau'n cael eu dosbarthu'n deg? Ac yn olaf, pryd rydych yn disgwyl y bydd y canllawiau newydd ar waharddiadau, a grybwyllwyd gan Rocio Cifuentes yn ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, yn cael eu rhyddhau? Fe'ch clywais yn dweud yn gynharach hefyd eich bod am wneud datganiad yr wythnos nesaf ar faterion cysylltiedig, felly edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd gennych i'w ddweud ar y pwnc pwysig hwn.