Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 22 Mehefin 2022.
Diolch, Llywydd dros dro. Gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am gyflwyno'r ddadl fer hon? Mae gan bob plentyn a pherson ifanc yr hawl i gael addysg sy'n eu hysbrydoli, eu hysgogi a'u paratoi i gyflawni eu potensial mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Rwyf am fod yn glir y dylai'r penderfyniad i wahardd dysgwr ond gael ei wneud pan fetho popeth arall, hynny yw, mae'r ysgol yn derbyn bod yr holl strategaethau sydd ar gael iddyn nhw i gefnogi'r person ifanc hwnnw wedi methu.
I leihau nifer y gwaharddiadau, mae'n hanfodol i ddeall pam mae plant yn cael anawsterau yn yr ysgol a all achosi ymddygiad sy'n arwain at eu gwahardd. Rŷn ni eisoes yn cefnogi ysgolion yn hyn o beth drwy ein gwaith i daclo profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a thrwy weithredu'r Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol a thrwy roi'r cymorth a'r ddarpariaeth gywir yn eu lle. Ac rydyn ni wedi ariannu hyn â £67 miliwn o fuddsoddiad hyd yn hyn, ac ar ben hynny yn ymrwymo i fuddsoddi £21 miliwn y flwyddyn tan 2025.
Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ysgolion weithio ar y cyd gydag awdurdodau lleol i ddod o hyd i ysgol arall neu leoliad arall os bydd disgybl yn parhau i gael anawsterau yn yr ysgol er gwaethaf pob ymdrech i'w cefnogi. Mae ein canllawiau ar wahardd yn nodi'n glir nad yw Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn briodol i ysgolion gomisiynu darpariaeth allanol er mwyn ymdrin â materion sy'n ymwneud ag ymddygiad, er enghraifft, tiwtora gartref i'r rhai sy'n gwrthod mynd i'r ysgol. Pan fydd penderfyniad wedi ei wneud i wahardd disgybl, rhaid rhoi blaenoriaeth i sicrhau'r canlyniad gorau ar gyfer y person ifanc hwnnw, un sy'n golygu y gallan nhw fwynhau eu hawl i gael addysg.
Er ei bod yn wir nad yw pob achos o gamymddygiad yn arwydd o angen sydd heb ei ddiwallu, rhaid inni fod yn barod i dderbyn yr hyn y mae ymddygiad y disgybl yn ei gyfleu i ni. Felly, mae angen i ysgolion archwilio'r ffactorau sylfaenol a allai gyfrannu at ymddygiad gwael, fel anableddau dysgu a phroblemau iechyd meddwl, megis trawma, a mynd i'r afael â'r rhain, a hynny er mwyn sicrhau nad yw'r problemau hyn yn gwaethygu i'r fath raddau nes gwahardd yw'r unig ateb.