Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 22 Mehefin 2022.
Ym mis Tachwedd 2021, cyhoeddodd Ymchwil Data Gweinyddol Cymru eu harchwiliad o'r cysylltiad rhwng absenoldeb a gwaharddiadau o'r ysgol a chyflyrau niwroddatblygiadol a meddyliol a gofnodwyd mewn carfan fawr o blant a phobl ifanc yng Nghymru. Canfu fod cyfraddau absenoldeb a gwaharddiadau o'r ysgol yn uwch ar ôl 11 oed ymhlith y plant i gyd, ond yn anghymesur felly yn y rhai â chyflwr a gofnodwyd. Canfu'r astudiaeth hefyd fod unigolion â mwy nag un cyflwr a gofnodwyd yn fwy tebygol o fod yn absennol neu wedi'u gwahardd, a gwaethygwyd hyn gyda phob cyflwr ychwanegol. Er mwyn gwella'r sylfaen dystiolaeth am iechyd meddwl disgyblion sydd wedi'u gwahardd, rydym wedi gofyn i Ymchwil Data Gweinyddol Cymru ailgynnal y prosiect ymchwil i gysylltu data addysg ac iechyd i nodi a yw disgyblion sydd wedi'u gwahardd, gan ganolbwyntio ar y rhai sydd mewn addysg heblaw yn yr ysgol, ag iechyd meddwl gwaeth na'r rhai mewn darpariaeth brif ffrwd. Mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn datblygu'r gwaith hwn ar hyn o bryd.
Fel rhan o'n dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol, a noddir ar y cyd gennyf fi a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, rydym yn edrych ar sut y mae ysgolion yn gweithio gydag asiantaethau eraill, megis CAMHS, i ddiwallu anghenion pobl ifanc a'u galluogi i barhau i ymgymryd â'u haddysg. A'n nod yw sicrhau bod ysgolion ledled Cymru yn gallu datblygu cynlluniau cyson i ddiwallu anghenion emosiynol ac iechyd meddwl eu myfyrwyr.
Mae ein canllawiau statudol ar y fframwaith dull ysgol gyfan a gyhoeddwyd y llynedd yn nodi mai'r allwedd i sicrhau addysgu a dysgu effeithiol yw sicrhau bod gan athrawon sgiliau angenrheidiol i addysgu mewn ffyrdd sy'n lleihau'r tebygolrwydd o ymddygiad gwael, gan roi sgiliau ac ymatebion effeithiol iddynt ar yr un pryd ar gyfer yr adegau pan fo ymddygiad anodd yn digwydd. Lle mae gan athrawon sgiliau ataliol ac ymatebol da, bydd y tebygolrwydd y bydd anawsterau'n dod i'r amlwg neu'n datblygu'n ddigwyddiadau ac yn dwysáu i waharddiadau yn cael ei leihau'n sylweddol.
Ceir llawer o enghreifftiau o arferion da eisoes—a chyfeiriodd Jenny Rathbone at hyn yn ei sylwadau agoriadol—arferion da y gallwn dynnu arnynt yn awr, ac rwyf am sicrhau drwy ein canllawiau newydd y byddaf yn dweud mwy amdanynt mewn munud ein bod yn gallu gwneud yn siŵr bod ysgolion yn gwneud defnydd o'r arferion da hynny. A gwyddom fod llawer o ysgolion yn cynnal archwiliadau llesiant, sy'n rhoi cyfle i ddisgyblion rannu sut y maent yn teimlo amdanynt eu hunain, eu perthynas ag eraill, eu cynnydd yn yr ysgol. Defnyddir hyn gan staff ochr yn ochr â gwybodaeth arall, megis gwybodaeth am bresenoldeb ac ymddygiad, i nodi'r rhai a allai elwa o gymorth ychwanegol.
Mae ysgolion hefyd wedi defnyddio ein cyllid dull ysgol gyfan i hyfforddi cynorthwywyr cymorth llythrennedd emosiynol i gynorthwyo disgyblion i fyfyrio a rhannu eu meddyliau a'u teimladau'n onest, gyda'r nod o ddeall yr angen seicolegol y tu ôl i lefelau isel o hunan-barch ac ymddygiad annymunol, gan eu galluogi i ymwneud yn well â'u cyfoedion, i wella eu penderfyniadau mewn cyd-destunau cymdeithasol, ac i fod yn well am nodi sefyllfaoedd peryglus. I gydnabod pwysigrwydd y gwaith hwn, mae'r Dirprwy Weinidog a minnau wedi cytuno ar gyllid o £12.2 miliwn yn y flwyddyn gyfredol i gefnogi lles emosiynol a meddyliol mewn ysgolion, rhan o fuddsoddiad o dros £43 miliwn yn y gyllideb tair blynedd.
Wrth fyfyrio ar effaith y pandemig ar ddysgu, ac wrth ystyried y cyd-destunau polisi ehangach, megis diwygiadau ADY, mae'n amlwg fod yn rhaid rhoi blaenoriaeth i ddiweddaru ein canllawiau ar waharddiadau. Bydd hyn yn sicrhau y gallant fanteisio ar yr holl waith, gweithgarwch a dysgu da sydd wedi digwydd ers i'r canllawiau gael eu diweddaru ddiwethaf yn 2019, ac rwy'n gobeithio y bydd y canllawiau newydd ar gael yn gynnar y flwyddyn nesaf. Ond rwy'n awyddus i sicrhau nad yw'r gwaith hwn yn cael ei wneud yn annibynnol ar bopeth arall, a bod yr holl bolisïau cydgysylltiedig yn cael eu hystyried mewn modd cyfannol.
Roedd yr adolygiad diweddar o bresenoldeb yn cynnwys nifer o argymhellion y byddwn yn eu datblygu, ac un ohonynt yw adolygiad o'r canllawiau presenoldeb presennol. Bydd hyn yn cynnwys rhannu a lledaenu arferion gorau ar gyfer gwella presenoldeb ac ystyried y ffordd orau y gall ysgolion ymgysylltu â dysgwyr a'u teuluoedd a darparu datblygiad proffesiynol wedi'i dargedu. Fel rhan o'r gwaith hwn, rwy'n awyddus inni adolygu'r diffiniad o 'absenoldeb parhaus', sef, ar hyn o bryd, absenoldeb am fwy nag 20 y cant o'r amser. Mae hwn yn fesur pwysig gan ei fod yn aml yn cael ei osod fel sbardun ar gyfer mathau penodol o ymyrraeth, megis cynnwys y gwasanaeth lles addysg.
Tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at y cysylltiad rhwng lefelau presenoldeb sy'n dirywio a phroblemau ymddygiadol ac emosiynol dilynol o'r math y cyfeiriodd Jenny Rathbone atynt yn rymus iawn yn ei haraith agoriadol. Ac os nad eir i'r afael â hwy, gallant arwain at wahardd y dysgwyr hynny o'r ysgol. Mae hyn yn atgyfnerthu'r angen i'r polisïau hyn gael eu hystyried a'u hadolygu ochr yn ochr â'i gilydd. Bydd y nifer anghymesur o ddysgwyr ag anghenion addysgol ychwanegol a waherddir yn ffactor allweddol arall wrth ddatblygu ein polisi newydd yn y maes hwn. Ond mae'n rhaid i hyn fynd y tu hwnt i ddiweddaru canllawiau yn unig. Rwy'n credu bod digwyddiadau'r ddwy flynedd ddiwethaf yn sicr wedi cael effaith ar bob dysgwr i raddau amrywiol, a rhaid i'n dull o weithredu ganolbwyntio ar ethos sy'n canolbwyntio ar y dysgwr ac sy'n ystyried gwahanol brofiadau ac amgylchiadau pob un o'n dysgwyr, yn enwedig ar ôl y pandemig. Ac rwyf wedi ymrwymo i sefydlu dull yn seiliedig ar hawliau plant o lunio polisïau, a'r egwyddor allweddol hon fydd yn llywio ein dull o weithredu.