2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 22 Mehefin 2022.
2. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am hyfforddi darpar feddygon drwy gyfrwng y Gymraeg yn ysgol feddygol Bangor? OQ58233
Rwy'n ymwybodol, o fy nhrafodaethau gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithsol, ei bod hi, mewn sgyrsiau gyda Bangor, wedi amlinellu ein disgwyliadau ni ynghylch y ddarpariaeth Gymraeg. Mae'r Gymraeg yn ystyriaeth greiddiol i Fangor, sy'n cymryd camau rhagweithiol i gynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg wrth iddynt fynd ati i ddatblygu a gweithredu'r cwricwlwm newydd.
Mi wnes i holi’r Gweinidog iechyd yma yn y Siambr yn ddiweddar ynghylch sut y gallai’r ysgol feddygol newydd ym Mangor helpu i wireddu polisi ardderchog 'Mwy na Geiriau', ond rhaid imi ddweud, siomedig oedd yr ateb ges i. Dyna pam dwi’n parhau efo’r thema efo chi yma heddiw yma. O’r hyn dwi’n ei ddeall, prin ydy’r nifer o siaradwyr Cymraeg sy’n hyfforddi drwy’r ysgol feddygol ym Mangor ar hyn o bryd, ac mae hynny hefyd yn siomedig.
A ydych chi’n credu bod targedau digonol wedi cael eu gosod ar gyfer recriwtio siaradwyr Cymraeg ar gyfer y rhaglen hyfforddi meddygon ym Mangor? A wnewch chi ddod yn ôl ataf i, os gwelwch yn dda, efo esboniad llawn am sut rydych chi yn bwriadu gwella’r sefyllfa os ydy’r hyn dwi’n ei ddeall yn gywir? Mae gennym ni gyfle gwych efo sefydlu’r ysgol feddygol newydd i sefydlu targedau i gefnogi’r egwyddor bod angen gweithlu cyfrwng Cymraeg priodol ar gyfer diwallu egwyddorion 'Mwy na Geiriau', a hefyd strategaeth 'Cymraeg 2050'.
Rwy’n hapus iawn i ysgrifennu gyda mwy o fanylion at yr Aelod am y cwestiwn pellach y mae hi wedi’i ofyn. Fel y bydd hi’n gwybod, mae gwerthusiad wedi digwydd o gynllun 'Mwy na Geiriau', ac mae’r Gweinidog yn bwriadu gwneud datganiad pellach dros yr wythnosau nesaf ynglŷn â’r camau nesaf fydd yn dod yn sgil y gwaith y gwnaeth pwyllgor Marian Wyn Jones ar ein rhan ni yn ddiweddar.
Felly, heb fynd i fanylu ar hynny, mae’n glir mai gweithlu dwyieithog yw un o’r blaenoriaethau o fewn beth fydd yn digwydd yn y dyfodol o ran 'Mwy na Geiriau' a bod angen hefyd symud, efallai, o fframwaith i ddefnyddio’r polisi fel rhywbeth sydd yn fwy rhagweithiol ac yn gallu gyrru cynnydd, mewn ffordd rwy’n sicr y bydd yr Aelod yn ei chroesawu. Mae cefnogi a datblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol, wrth gwrs, yn rhan greiddiol o hwnnw, a bydd rôl sicr gan yr ysgol feddygol ym Mangor i'w chwarae yn hynny.
Cytunaf yn llwyr â'r pwyntiau a wnaed gan Siân Gwenllian am yr angen i sicrhau bod gennym feddygon yn dod drwy'r system sy'n rhugl yn y Gymraeg.
Mae hefyd yn bwysig iawn, wrth gwrs, fod y rhai hynny sydd yn y gweithlu addysg, yn addysgu, sydd â sgiliau iaith Gymraeg, yn gallu parhau i'w defnyddio. Yn y Senedd ddoe nodais sefyllfa mewn sefydliad addysg bellach, lle mae cyrsiau'n cael eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd, mewn cymuned ac ardal Gymraeg ei hiaith i raddau helaeth yn ne sir Ddinbych, a bydd y rheini'n cael eu hadleoli i'r arfordir, lle y ceir llai o siaradwyr Cymraeg, a lle bydd y galw am y cyrsiau hynny'n wahanol. Bydd yn rhoi pobl ifanc sydd eisiau manteisio ar y cyfle i barhau i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg pan fyddant yn mynd i addysg ôl-16 dan anfantais ddifrifol.
Lle mae gennym diwtoriaid, athrawon ac eraill yn y gweithlu addysg sy'n gallu darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd, beth a wnewch i sicrhau nad yw'r cyfleoedd hynny'n cael eu lleihau o ganlyniad i benderfyniadau gwirion, a bod yn onest, gan sefydliadau addysg bellach, ac yn wir, gan rai ysgolion hefyd?
Wel, nid wyf am wneud sylw am y penderfyniad penodol hwnnw, oherwydd yn amlwg nid wyf mewn sefyllfa i wneud hynny, ond fel y gŵyr o ateb y Prif Weinidog ddoe, byddaf yn mynd ar drywydd hynny. Rydym wedi pasio trydydd cyfnod darn o ddeddfwriaeth ddoe, a fydd, yn y cyd-destun penodol—y cyd-destun addysg bellach—y mae'n gofyn y cwestiwn, yn sicr ddoe a chredaf ei fod yn gwneud yr un pwynt heddiw, yn arwain at newid sylweddol yn narpariaeth addysg bellach drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn amlwg, un o'r heriau oedd sicrhau bod gennym weithlu sy'n gallu gwneud hynny, ac fe fydd yn ymwybodol, wrth gwrs, o'r cynllun a gyflwynwyd gennym i gynyddu'r gweithlu addysgol yn gyffredinol yng Nghymru i'r rheini sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn fy nhrafodaethau â cholegau addysg bellach ym mhob rhan o Gymru, ceir cydnabyddiaeth yn bendant fod angen inni wneud mwy a brwdfrydedd i gydweithio i sicrhau hynny, ac felly edrychaf ymlaen at wneud hynny gyda hwy a byddaf yn mynd ar drywydd y pwynt penodol y mae wedi'i godi. Diolch.