2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 22 Mehefin 2022.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddi yn Ne Clwyd drwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain? OQ58198
Manteisiodd yr ystad addysg yn ardal De Clwyd ar fuddsoddiad o dros £20 miliwn yn ystod y don gyntaf o gyllid drwy'r rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy, a bydd yn parhau i elwa ar £22 miliwn arall drwy'r don bresennol o fuddsoddiad. Mae hyn yn cynnwys arian grant cyfalaf cyfrwng Cymraeg.
Weinidog, diolch am eich ateb. Mae hwnnw'n newyddion gwych, ac mae'r £20 miliwn hwnnw wedi cyfrannu'n helaeth at wella nid yn unig ystadau ysgolion, ond cymunedau'n gyffredinol. Byddwn yn hynod ddiolchgar pe gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau a fy etholwyr yn Ne Clwyd am y cynnydd sy'n cael ei wneud yn benodol yng nghymuned Brymbo, yng ngogledd yr etholaeth, lle byddai ysgol newydd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yn cael ei gwerthfawrogi gan bob dinesydd, ac yn enwedig gan ddysgwyr.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw, ac rwy'n ymwybodol ei fod wedi ysgrifennu ataf yn ddiweddar ynglŷn â hyn, ac i gadarnhau bod llythyr ar fin cael ei anfon yn ôl mewn ymateb i'r ymholiad hwnnw. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r awdurdod lleol a datblygwyr safle Brymbo yn gyffredinol. Fel y mae'r Aelod yn amlwg yn ymwybodol iawn, mae'n safle sydd â nifer o ddimensiynau a nifer o gynlluniau. Mewn ffyrdd gwahanol, mae cynllun yr ysgol yn un o'r datblygiadau arfaethedig hynny, ac mae swyddogion yn gweithio i sicrhau datblygiad cynhwysfawr o'r safle. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae cynnydd da wedi'i wneud ar rai agweddau ar reoli tir, sy'n angenrheidiol er mwyn i bethau allu symud ymlaen. Felly, mae hwnnw'n gynnydd, a byddaf yn adrodd yn ôl mewn mwy o fanylder iddo yn y llythyr y byddaf yn ei anfon ato gyda hyn.
Diolch i'r Aelod dros Dde Clwyd am gyflwyno'r cwestiwn pwysig ac amserol iawn hwn, oherwydd yr wythnos diwethaf croesewais ddisgyblion o ysgol gynradd y Santes Fair, Brymbo i'r Senedd yma, ac roedd ganddynt gryn ddiddordeb mewn sesiwn holi ac ateb fywiog, ac anodd ar adegau efallai, yn enwedig pan ofynnwyd i mi am gyfyngiadau oedran mewn perthynas â llafnau. Ond roedd un o'r cwestiynau penodol, mewn gwirionedd, yn ymwneud â rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac roeddwn yn rhyfeddu eu bod yn gwybod amdani. Yn amlwg, mae'n bwysig iddynt hwy a'u hysgol. Daeth yn amlwg i mi yn y sesiwn holi ac ateb gyda phlant yr ysgol fod angen gwneud mwy i gyflymu a sicrhau cynnydd yn y rhaglen, yn enwedig ym Mrymbo. Felly, yng ngoleuni hyn, Weinidog, hoffwn ymuno â galwadau'r Aelod dros Dde Clwyd a gofyn pa sicrwydd y gallwch ei roi i mi fod yr ysgol hon yn flaenoriaeth i'r rhaglen, a pha drafodaethau yr ydych yn eu cael yn bersonol gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i hwyluso cynnydd y rhaglen yno. Diolch.
Diolch i Sam Rowlands am hynny. Fel y dywedais yn fy ateb i Ken Skates, mae fy swyddogion yn gweithio gyda'r awdurdod ar y safle hwn. Mae iddo nifer o ddimensiynau. Mae datblygu ysgolion yn un agwedd ar hynny. Ond bu cynnydd da ar nifer o'r elfennau allweddol sydd eu hangen er mwyn i hynny symud ymlaen, ac rwy'n hapus i gofnodi hynny. Rwy'n ei longyfarch am ymgysylltu â disgyblion yn ei ranbarth mewn perthynas â photensial y rhaglen adeiladu ysgolion. Credaf fod cyfleoedd da, yn enwedig mewn perthynas ag ysgolion sero net y dyfodol, i ymgorffori'r dysgu hwnnw yn y cwricwlwm ei hun, ac i ddefnyddio'r gwaith o adeiladu'r ysgol fel adnodd addysgu ynddo'i hun.