– Senedd Cymru am 2:56 pm ar 22 Mehefin 2022.
Symudwn ymlaen at eitem 4, y datganiadau 90 eiliad. Galwaf ar Elin Jones.
Mae'n bosib y bydd rhai heb sylwi ar ddigwyddiad pwysicaf yr wythnos yma. Ddydd Llun, lansiwyd A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes c.800-c.1800, gwaith y Dr Daniel Huws, a’i gyflwyno i’r Prif Weinidog. Bu Dr Huws yn gweithio ar y cyfrolau ers ei ymddeoliad o’r llyfrgell genedlaethol 30 mlynedd yn ôl, a mis yma mi fydd Daniel Huws yn 90 oed. Fe’i cynorthwywyd gan brosiect ar y cyd rhwng Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a'r llyfrgell genedlaethol, ac yn benodol gan yr Athro Ann Parry Owen, Dr Maredudd ap Huw, Glenys Howells a Gruffudd Antur.
Mae’r tair cyfrol yn pwyso 5 kg ac yn cynnwys dros 1,500 o dudalennau. Mae cyfrol gyntaf y repertory yn cynnwys disgrifiadau o tua 3,300 o lawysgrifau Cymreig. Yng nghyfrol 2, ceir gwybodaeth fywgraffyddol am tua 1,500 o ysgrifwyr. Yng nghyfrol 3, ceir rhyw 900 delwedd sy’n cynnig enghreifftiau o amrywiol lawiau’r ysgrifwyr pwysicaf.
Mae'r cyfrolau yma yn gampwaith. Fe’u hymchwilwyd, lluniwyd, golygwyd a’u hargraffwyd yn bennaf yng Ngheredigion, ond nawr y maent yn perthyn i ysgolheictod y byd. Gall ambell un ddweud mai prin fydd y bobl fydd yn pori drwy’r tudalennau yma, ond mi fedra i ddweud, o’r tua 60 Aelod oedd yma yn y Senedd y prynhawn ddoe yn pleidleisio ar ddeddfwriaeth, mi oedd o leiaf un Aelod yn darllen drwy gyfrol 2 Daniel Huws. Fe gewch chi ddyfalu pwy.
Diolch i Daniel am y magnum opus yma a fydd yn adrodd hanes y Cymry i'r byd ac i'r canrifoedd i ddod am byth.
Yr wythnos hon yw Wythnos y Lluoedd Arfog ledled y Deyrnas Unedig, wythnos sy'n dod â chymuned ein lluoedd arfog ynghyd, gan gynnwys milwyr, eu teuluoedd a'r sefydliadau sy'n eu cefnogi. Mae'n rhoi cyfle i bobl ledled y wlad ddangos ein gwerthfawrogiad o'r gwaith a wnânt. Fel rhan o'r wythnos, cynhaliwyd Diwrnod Lluoedd Arfog Cymru yn ninas Wrecsam ddydd Sadwrn, a bydd Scarborough yn cynnal Diwrnod Lluoedd Arfog y DU ddydd Sadwrn nesaf.
Mae gan Gymru, wrth gwrs, gysylltiad balch â'n lluoedd arfog. Yn y canolbarth, mae gennym bencadlys y fyddin, canolfan Brigâd 160 (Cymru), a chanolfan ddiogel yn awr, diolch i benderfyniad gan Lywodraeth y DU. Ac yn y gogledd, yn RAF y Fali, y caiff pob un o beilotiaid jet yr Awyrlu Brenhinol eu hyfforddi. Yma yng Nghaerdydd, ychydig i lawr y ffordd, mae gennym HMS Cambria, unig uned wrth gefn y Llynges Frenhinol yng Nghymru. Ond heddiw, rydym yn nodi Diwrnod y Milwyr wrth Gefn, cyfle i ddangos ein gwerthfawrogiad o filwyr wrth gefn y lluoedd arfog sy'n chwarae rôl hanfodol ond un sy'n aml yn cael ei thanbrisio. Ceir dros 2,000 o filwyr wrth gefn yng Nghymru sy'n gwirfoddoli i gydbwyso eu swyddi dydd a bywyd teuluol â gyrfa filwrol. Ac fel y mae'r pandemig diweddar wedi dangos i bawb ohonom, maent yn barod i wasanaethu pan fydd galw arnynt i wneud hynny.
Felly, wrth inni nodi Wythnos y Lluoedd Arfog, a Diwrnod y Milwyr wrth Gefn heddiw, gadewch inni adnewyddu ein hymrwymiad i bawb sy'n gwasanaethu, neu sydd wedi gwasanaethu, a gweithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ein comisiynydd cyn-filwyr, ac eraill i roi'r gefnogaeth y maent yn ei haeddu iddynt.
Ddoe oedd Diwrnod Ymwybyddiaeth o Glefyd Niwronau Motor y Byd, a hoffwn ddiolch i'r llu o Aelodau'r Senedd a ymunodd â mi ddoe i gyfarfod â phobl sy'n byw gyda MND ac yr effeithiwyd arnynt gan MND ar risiau'r Senedd i godi ymwybyddiaeth o'r clefyd creulon hwn. Ac roedd y rhai a oedd yno'n gwerthfawrogi'n fawr eich bod chi yno.
Mae'n braf fod newidiadau sylweddol wedi digwydd yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ond mae angen gwneud mwy yn gyflym. Mae taer angen mwy o fuddsoddiad ar ddioddefwyr MND mewn meysydd a fydd yn gwella ansawdd eu bywydau. Mae angen iddynt weld mwy o fuddsoddi mewn ymchwil MND yng Nghymru, gwelliannau i ofal a gwasanaethau, ac mae angen niwrolegydd ymgynghorol arweiniol MND ar gyfer Cymru gyfan. Ac mae hefyd yn bwysig fod angen i awdurdodau lleol ddod o hyd i ffyrdd o gyflymu addasiadau i gartrefi er mwyn galluogi'r rhai sydd ag MND i fyw gydag urddas a pheidio â dioddef yn yr hyn sydd eisoes yn adeg ofnadwy yn eu bywydau. Mae MND yn wirioneddol ddinistriol i'r rhai sy'n byw gydag ef a'u teuluoedd, ond dyma lle y gallwn ni, Senedd Cymru, wneud gwahaniaeth drwy sicrhau nad yw eu bywydau'n cael eu gwneud hyd yn oed yn anos. Yn wir, mae gan bob un ohonom yn y Siambr hon, fel seneddwyr Cymreig, rwymedigaeth foesol i sicrhau bod lleisiau'r rheini sydd ag MND yn cael eu clywed. Wedi'r cyfan, nid oes gan ddioddefwyr MND amser i'w wastraffu ac mae taer angen mwy o gefnogaeth arnynt yn awr.