1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 28 Mehefin 2022.
3. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am Ddeddf Syndrom Down 2022? OQ58281
Diolch i'r Aelod am hynna, Llywydd. Nododd trafodaethau cynnar gyda Llywodraeth y DU y bydd ei Deddf Syndrom Down yn rhoi'r un lefel o gymorth ac amddiffyniad i bobl â syndrom Down yn Lloegr sydd eisoes yn cael eu mwynhau gan bobl yng Nghymru.
Diolch, Prif Weinidog, am yr ymateb yna. Yr wythnos diwethaf, fe wnes i gyfarfod â dau etholwr, sydd hefyd yn rhieni i blant syndrom Down, sy'n rhedeg elusen leol sy'n cefnogi pobl ifanc â syndrom Down o bob rhan o'r de. Er gwaethaf gwelliannau mewn pethau fel gofal plant, addysg a chyflogaeth, tynnwyd sylw at y ffaith fod pobl ifanc â syndrom Down yn dal i wynebu rhwystrau rhag cynhwysiant. Yn benodol, canolbwyntiodd ein cyfarfod ar y diffyg dull cydgysylltiedig o weithredu yn y ddarpariaeth addysg ôl-16.
Yn aml, prin yw'r lleoliadau hyfforddi ar gyfer unigolion o'r fath, tra bod llawer o leoliadau'n rhedeg am ddwy flynedd yn unig, gyda llawer o'r bobl ifanc hyn angen dewisiadau dysgu hirach a mwy hyblyg i ddiwallu eu hanghenion. Nododd yr etholwr hefyd fod cyrsiau o'r fath, yn Lloegr, yn aml yn gysylltiedig â'r posibilrwydd o gyflogaeth, tra bod cyrsiau yng Nghymru yn canolbwyntio mwy ar sgiliau bywyd yn unig. Nawr, yn Lloegr, bydd y Ddeddf Syndrom Down, fel y byddwch yn cydnabod, a gyflwynwyd gan Dr Liam Fox, yn ei gwneud yn ofynnol i amrywiaeth o gyrff cyhoeddus a darparwyr addysg ystyried canllawiau a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ar gamau y gellir eu cymryd i ddiwallu anghenion pobl â syndrom Down.
Prif Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried sut y gellid cyflwyno darpariaethau'r Ddeddf yng Nghymru i sicrhau bod y rhwystrau presennol rhag cynhwysiant yn cael eu dileu, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd a derbyn pobl â syndrom Down yn ehangach mewn cymdeithas? Yn olaf, Prif Weinidog, a fyddech chi neu un o'ch cyd-Weinidogion yn ymrwymo i gyfarfod â chynrychiolwyr o'r maes hwn i drafod sut y gellir parhau i wella gwasanaethau i bobl yng Nghymru sydd â syndrom Down?
Diolch i Peter Fox am y pwyntiau yna, Llywydd. Mae'n iawn iddo ddweud mai Deddf i Loegr yn unig yw'r Ddeddf a basiwyd gan Senedd y DU. Yr hyn sydd ei angen yw i awdurdodau cyhoeddus ystyried canllawiau—canllawiau nad ydyn nhw wedi'u cyhoeddi hyd yma. Ond wrth gwrs—rwy'n sicr yn rhoi'r ymrwymiad hwn iddo—pan gyhoeddir y canllawiau, byddwn yn edrych i weld a oes unrhyw beth y gallwn ni ei ddefnyddio yma yng Nghymru. Y rheswm y daethom i'r casgliad, yn y trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y DU, nad oedd achos dros gynnwys Cymru yn y Bil hwnnw oedd oherwydd bod Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru wneud yr hyn y mae angen i Ddeddf y DU ei wneud yn Lloegr erbyn hyn. Ac mae'r cynllun anabledd dysgu, a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod Julie Morgan yma mewn datganiad llafar ar lawr y Senedd ar 24 Mai, yn cynnwys addysg a chyflogaeth fel un o'i chwe thema graidd.
A yw hynny'n golygu nad oes mwy i'w wneud? Wrth gwrs nad ydi e, ac rwy'n llwyr gydnabod y pwynt a wnaeth Peter Fox am yr anawsterau parhaus y mae pobl ifanc â syndrom Down yn eu hwynebu. Byddaf yn trafod gyda fy nghyd-Aelod a fyddai cyfarfod o'r math a ddisgrifiwch yn werth chweil. Rwyf i fy hun wedi cyfarfod yn rheolaidd iawn â sefydliadau sy'n cynrychioli pobl ag anableddau dysgu, ac, fel Llywodraeth, ein hymrwymiad i sicrhau bod ganddyn nhw'r mathau o ddyfodol y byddem ni eisiau eu gweld ar eu cyfer, pryd y mae eu hanghenion yn cael eu diogelu ond bod eu rhagolygon yn cael eu gwella, ac yn yr ysbryd hwnnw yn union y mae ein cynllun gweithredu anabledd dysgu wedi'i greu.