Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 28 Mehefin 2022.
Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Mae'n dda clywed bod y mater hwn ar yr agenda, achos fel rŷch chi'n gwybod, mae costau tanwydd wedi codi ym mhob rhan o Gymru, ond yn arbennig mewn ardaloedd gwledig. Wrth deithio o sir Gaerfyrddin y bore yma i Gaerdydd, roedd hi'n amlwg bod pris petrol a disel rhyw 5c neu 6c y litr yn fwy yn y gorllewin o gymharu â fan hyn yn y brif ddinas.
Mae pobl yng Nghymru, rhyw 80 y cant ohonyn nhw, yn defnyddio car i fynd i'r gwaith. Mewn ardaloedd gwledig fel y rhai dwi'n eu cynrychioli, mae pobl yn teithio rhyw 25 y cant ymhellach ar gyfer eu gwaith, ac mae hynny, wrth gwrs, yn effeithio yn fawr arnyn nhw—pobl fel gofalwyr, pobl fel ffermwyr a busnesau bach sydd yn dioddef, wrth gwrs, yn fawr. Felly, rŷch chi'n gwybod bod rhannau o Loegr a'r Alban eisoes yn elwa ar gynllun y rural fuel duty relief, cynllun sydd ddim yn bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd. Felly, pa bwysau ŷch chi fel Llywodraeth yn ei roi ar San Steffan er mwyn i'r cynllun hwn gael ei gyflwyno yma yng Nghymru i gefnogi cymunedau gwledig?