Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 28 Mehefin 2022.
Llywydd, diolch i Cefin Campbell am y cwestiwn yna. Dwi'n cofio, nôl yn 2015 pan oedd y cynllun yn cael ei greu, gwneud y pwyntiau hynny ar yr amser yna. Mae cymunedau yn Lloegr a chymunedau yn yr Alban yn gallu defnyddio'r cynllun, y rural fuel duty relief, ond does neb yng Nghymru'n gallu defnyddio'r un system. So, gallaf i ddweud wrth yr Aelod, yfory, pan fydd y cyfle gennym ni i godi'r pwyntiau—pwyntiau: mwy nag un pwynt, wrth gwrs—rŷn ni'n mynd i godi'r pwynt ar y rural fuel duty relief, y cynllun yna, unwaith eto, gyda'r Gweinidogion yn San Steffan, a gofyn iddyn nhw, os yw pobl yn Devon, er enghraifft, yn gallu defnyddio'r cynllun, pam nad yw pobl yn Nyfed neu ym Mhowys yn gallu defnyddio'r un peth, pan fo’r sefyllfa bron yr un fath.