Part of the debate – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 28 Mehefin 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi, ac a gaf i ddiolch i chi hefyd am eich papur briffio'r bore yma? Fe'i cefais yn ddefnyddiol iawn o ran deall eich safbwynt chi. Yn wir, rwy'n llwyr gydnabod eich barn chi ynglŷn â buddsoddi yn y rhai sy'n gadael gofal a cheisio darparu cyfleoedd ar eu cyfer nhw y byddai pobl eraill yn eu cymryd yn ganiataol efallai, ac rwy'n derbyn bod hynny'n deillio o sefyllfa o fod yn wir awyddus i helpu. Rwy'n credu hefyd y byddai pob Aelod yma'n cydnabod bod y rhai sy'n gadael gofal yn grŵp arbennig o agored i niwed y mae angen cymorth ychwanegol arnyn nhw. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod hyn a bod y rhai sy'n gadael gofal yn wynebu heriau ac anawsterau unigryw, ac rydym ni'n dymuno gwneud popeth i sicrhau eu bod nhw'n cael y gofal gorau a bod pob cyfle ar gael iddyn nhw. Fodd bynnag, Gweinidog, fy mhryder i ynglŷn â'r arbrawf hwn gydag Incwm Sylfaenol Cyffredinol yw bod y Llywodraeth hon yn newid naratif Incwm Sylfaenol Cyffredinol drwy ei ddrysu â'r ddarpariaeth o gymorth penodol i'r rhai sy'n gadael gofal yn y gobaith y bydd gennych chi, ar ôl dwy flynedd, ddata sy'n cyfiawnhau cyflwyno Incwm Sylfaenol Cyffredinol. Mae'r dull hwn yn ddiffygiol yn ei hanfod, oherwydd ni fyddwch chi mewn gwirionedd yn gallu allosod unrhyw ddata oddi wrth grŵp mor arbennig ac, a gaf i ychwanegu, grŵp sy'n agored i niwed i'w ddefnyddio ar gyfer trawstoriad o'r gymdeithas gyfan. At hynny, drwy ddefnyddio'r rhai sy'n gadael gofal yn grŵp ar gyfer eich mesuriadau chi, rwyf i o'r farn eich bod chi'n cyfyngu ar y cyfle i graffu gyda manylder ar Incwm Sylfaenol Cyffredinol, oherwydd fe fydd unrhyw sylwadau anffafriol yn cael eu hateb gyda'r wrth-ddadl sef bod y sawl sy'n eu gwneud nhw'n elyniaethus i'r rhai sy'n gadael gofal, sydd nid yn unig yn annhebygol iawn o fod yn wir, ond fe fydd hynny, ar y cyfan, yn atal llawer o bobl rhag ymgysylltu â'r broses graffu rhag ofn y bydd yna adlach.
At hynny, ar sail helpu'r rhai sy'n gadael gofal, rydym ni o'r farn fod rhoi pob cyfle iddyn nhw wneud y gorau o'u bywydau nhw'n iawn, ac rydym ni'n cydnabod y trawma a'r amgylchiadau anodd iawn a wynebwyd gan rai ohonyn nhw. Serch hynny, mae'n rhaid i ni gofio hefyd fod rhai pobl hynod agored i niwed ag anghenion cymhleth iawn yn y grŵp hwn, ac fe allai rhoi £1,600 y mis iddyn nhw eu helpu nhw mewn egwyddor yn y tymor byr, ond mewn gwirionedd fe allai hynny waethygu eu sefyllfa nhw yn yr hirdymor. Yn gyntaf, fe allai'r grŵp hyglwyf hwn o bobl ifanc yn eu harddegau, y mae rhai ohonyn nhw'n dod o gefndiroedd heriol, fynd i berygl, heb gymorth a chefnogaeth briodol, oherwydd rhai unigolion a fyddai'n ceisio eu gorfodi nhw i wneud pethau, eu cam-drin nhw a chymryd mantais arnyn nhw oherwydd yr arian ychwanegol hwn. Sut ydych chi am rwystro hynny rhag digwydd? Yn ail, fel gwnaethoch chi sôn o'r blaen, fe wyddom ni fod pobl yn y grŵp hwn, er mai rhan fechan iawn ydyn nhw, sydd â phroblemau o ran dibyniaeth ar gyffuriau, ac fe allai cael swm mor fawr o arian yn eu dwylo, unwaith eto heb gymorth na chefnogaeth briodol, waethygu'r problemau sy'n bodoli eisoes. Ac yn drydydd, mae Llywodraeth Cymru yn y pen draw yn creu ochr dibyn ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal a fydd yn gweld eu harian nhw'n dod i ben ar ôl dwy flynedd. Felly, mewn gwirionedd, rydych chi'n cymryd rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed, gan greu dibyniaeth ar incwm ychwanegol y maen nhw'n annhebygol iawn o'i weld byth eto ac yna'n eu gadael nhw i ymorol amdanyn nhw eu hunain ar ôl dwy flynedd.
Gweinidog, roeddech chi'n sôn am y pecyn enfawr hwn o gymorth y tynnais i sylw ato y bydd ei angen arnyn nhw, ond, mewn gwirionedd, nid dyna yw'r achos ac nid yw'r fathemateg yn gywir. Rydych chi'n darparu £20 miliwn dros ddwy flynedd, sy'n gadael dim ond £800,000 ar ôl i ddarparu'r pecyn cymorth, sy'n druenus ar y gorau, ac, fel cafodd hynny ei grybwyll y bore yma, rydych chi'n dibynnu bron yn gyfan gwbl ar y sector gwirfoddol i ddarparu'r cymorth hwnnw. Rydym ni wedi clywed am bosibiliadau pobl yn defnyddio'r arian hwn i gefnogi addysg uwch. Er bod graddau prifysgol yn cymryd tair blynedd, ar gyfartaledd, yr hyn y byddwch chi'n ei wneud yw peidio â rhoi'r un cyfleoedd iddyn nhw ag y cafodd pobl eraill gyda chefnogaeth oddi wrth eu teuluoedd nhw, oherwydd nid ydych chi'n gwneud dim ond eu helpu nhw am ran o'r ffordd, sydd, yn fy marn i, yn anghyfrifol. Gyda hynny mewn golwg, Gweinidog, pa asesiad a wnaethoch chi i werthuso'r cymorth gwirioneddol sydd ei angen ar y rhai sy'n gadael gofal i wneud y defnydd gorau o'r arian hwn, a pha gymorth a chefnogaeth ydych chi'n eu cynnig i sefydliadau gwirfoddol a thrydydd sector i'w helpu i ddiwallu anghenion y rhai sy'n ymgymryd â'r cynllun hwn o ran y gefnogaeth a fydd ar gael? Pa asesiad a wnaeth y Llywodraeth hon o anghenion y grŵp hwn ar ôl i'r cyfnod arbrofol ddod i ben, a sut ydych chi'n rhagweld y cânt eu cefnogi ar ei ddiwedd? Gan mai rhaglen wirfoddol yw hon i'r rhai sy'n gadael gofal ymrwymo iddi, pa gymorth a chefnogaeth yn benodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnig i'r rhai sy'n gymwys i gofrestru a chael bod ar y cynllun hwn? Ac yn olaf, o ran incwm sylfaenol cyffredinol, sut ydych chi'n disgwyl i'r data hyn gael eu hallosod i ddarparu tystiolaeth ddigonol y bydd Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn helpu trawstoriad llawn o'r gymdeithas yng Nghymru? Diolch i chi.