Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 29 Mehefin 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am gyflwyno'r ddadl fer y prynhawn yma ar bwnc y gwn fod Jack a llawer o rai eraill yn gwybod ei fod yn agos iawn at fy nghalon innau hefyd? Er bod rhai wythnosau ers rownd derfynol gemau ail gyfle cwpan y byd yn erbyn Wcráin, nid yw'n teimlo'n real o hyd, oni chytunwch? Mae'r ewfforia yn ei gylch yn dal i fod gyda ni, ond mae cyflawniad uwch dîm dynion Cymru yn cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIFA am y tro cyntaf ers 64 o flynyddoedd yn anhygoel, camp a gafodd ei hystyried yn freuddwyd amhosibl cyhyd. A bu cymaint o fethiannau agos ar hyd y daith boenus honno ers 1958, ond o'r diwedd gallwn gefnu ar y siom. Mae'n dyst addas i benderfyniad, dyfalbarhad a chred chwaraewyr a staff Rob Page. Mae'r angerdd, yr ymrwymiad, y sbortsmonaeth a welwyd gan y tîm ar y cae, a'r un mor bwysig, oddi ar y cae, fel y dywedodd Llyr Gruffydd, wedi cael ei ganmol yn briodol ar draws y byd chwaraeon ac wedi ysbrydoli'r genedl. Pan fydd Cymru, fel cenedl fach, yn gwneud yn dda ar y llwyfan chwaraeon, mae'r genedl gyfan yn ei gogoniant, ac yn sicr gallwn deimlo'r ynni cadarnhaol yn tyfu o'r cyfle cyffrous hwn sydd o'n blaenau.
Mae i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol cwpan y byd eisoes wedi rhoi hwb i'r wlad gyfan, ac rwy'n siŵr y bydd yn agor y drws ar lawer o gyfleoedd. Ac i'r perwyl hwnnw, rydym yn gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a rhanddeiliaid eraill i ystyried sut i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a ddaw i Gymru wrth iddi gymryd rhan ar y llwyfan rhyngwladol hwn. Mae pêl-droed, yn enwedig twrnament byd-eang o fri fel cwpan y byd, yn gyfle i gyrraedd cynulleidfa fyd-eang ac i ddweud wrth y byd am Gymru, pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud. Rwy'n sicr y bydd y llwyddiant hwn yn ysbrydoli llawer o bobl, bechgyn a merched, hen ac ifanc, i gymryd rhan mewn chwaraeon ac yn sicr o adael gwaddol cryf a chadarnhaol iawn.
Dylem gofio hefyd, fel y nododd Jack Sargeant, fod uwch dîm menywod Cymru mewn sefyllfa dda o hyd i gyrraedd rowndiau terfynol cwpan y byd i fenywod y flwyddyn nesaf hefyd, sy'n adlewyrchu faint o gynnydd cadarnhaol a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf yng ngêm y menywod. Fel llawer ohonom, rwy'n edrych ymlaen at y gemau sy'n weddill yn eu hymgyrch i gyrraedd y rowndiau terfynol ym mis Medi a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno'r gorau iddynt hwythau hefyd.
Nawr, nid yw'r llwyddiannau hyn yn digwydd dros nos, wrth gwrs, ac mae'n dechrau drwy ei gael yn iawn ar lawr gwlad a sicrhau bod ein hathletwyr ifanc yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau a chael cyfleusterau i chwarae. Mae ein rhaglen lywodraethu yn cydnabod bod chwaraeon yn hollbwysig i economi Cymru ac i fywyd cenedlaethol. Mae'n ymrwymo Llywodraeth Cymru i harneisio creadigrwydd a gallu chwaraeon pobl Cymru a sicrhau bod y diwydiant yn cael y cymorth sydd ei angen arno i gael lle priodol ar lwyfan y byd. A dyna pam y mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £24 miliwn dros y tair blynedd nesaf mewn cyfleusterau chwaraeon, fel y gall rhai sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon o bob oed a gallu fwynhau'r gamp y maent wedi'i dewis a dysgu sgiliau newydd. Rwy'n arbennig o falch fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd wedi ymrwymo i ddefnyddio'r ffaith eu bod wedi cyrraedd rowndiau terfynol cwpan y byd i gefnogi a datblygu cyfleusterau ar lawr gwlad, a byddwn yn sicr yn annog tîm pêl-droed Bwcle ac unrhyw glwb sydd am wella eu cyfleusterau i gysylltu â Chymdeithas Bêl-droed Cymru a Chwaraeon Cymru i drafod yr opsiynau sydd ar gael iddynt.
Rwy'n cytuno hefyd â phwynt Jack fod mwy o le i glybiau pêl-droed chwarae rôl fel canolfannau i'r gymuned ac annog ac ysbrydoli pobl i ganolbwyntio ar eu hiechyd a'u llesiant, ac rwy'n cymeradwyo'r gwaith y mae Jack wedi'i wneud yn y maes hwn. Rwyf hefyd yn falch fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru eisoes yn meddwl ar hyd y llinellau hyn hefyd. Wrth gwrs, rhaid imi sôn am fy nhîm fy hun, clwb pêl-droed Merthyr, yn y cyd-destun hwn, ac mae'r clwb yn canolbwyntio'n fawr ar y gymuned ac yn eiddo i'r cefnogwyr, ac mae ganddo hanes o godi a chefnogi materion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl, o ymgyrch Ry'n Ni'n Gwisgo'r Un Crys gydag Amser i Newid a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn ôl yn 2015 i ymgyrch ddiweddaraf Mind Cymru, Terrace Talk. Roeddwn hefyd yn falch o glywed bod Clwb Bechgyn a Merched Trefelin yng nghynghrair de Cymru wedi penodi swyddog iechyd meddwl penodol yn gynharach eleni, gan weithio ochr yn ochr ag elusen leol i gefnogi eu chwaraewyr a'u staff pryd bynnag y bo angen.
Os caf droi yn awr at ddarlledu gemau, fel y gwyddoch, nid yw hwn yn faes sydd wedi'i ddatganoli, felly mae terfyn ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yma. Felly, er bod newyddion da yn y tymor byr, a bod gwaith partneriaeth gydag S4C wedi bod yn gadarnhaol iawn, mae angen i Lywodraeth y DU wneud llawer mwy i sicrhau bod rhestr o'r digwyddiadau chwaraeon gorau yn dal yn berthnasol i bob gwlad yn y DU.
Ddirprwy Lywydd, gallwn ddangos ein cryfder fel gwlad mewn perthynas â mwy na digwyddiadau ar y cae yn unig. Gallwn ddangos arweiniad hefyd, ac mae'n gwbl briodol fod hyn yn cynnwys amrywiaeth ar bob lefel o'r gêm. Mae'r arweinyddiaeth honno, y pŵer meddal neu ddiplomyddiaeth gyhoeddus, hefyd yn gyfrwng ar gyfer ymgysylltu rhyngwladol; mae'n codi proffil Cymru ac yn ein galluogi i adrodd ein stori ar lwyfan y byd. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yng nghwpan y byd y tro hwn, gan fy mod yn gwybod bod gan lawer o'r Aelodau a chefnogwyr bryderon am y wlad sy'n cynnal y bencampwriaeth, Qatar. O'r herwydd, credaf fod gennym gyfrifoldeb moesol i ymgysylltu â gwledydd nad ydynt bob amser yn rhannu ein gwerthoedd, boed hynny ar hawliau dynol, hawliau LGBTQ+, hawliau gweithwyr, neu ryddid gwleidyddol a chrefyddol. Mae ymgysylltu â gwledydd yn gyfle i ddatblygu llwyfan ar gyfer trafodaeth bellach, i godi ymwybyddiaeth ac i ddylanwadu.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am eu cyfraniadau a'r undod yn y Senedd y tu ôl i Gymru. Mae'n wych ein gweld fel cenedl yn ehangu ein cyrhaeddiad ar lwyfan y byd hyd yn oed ymhellach drwy rym chwaraeon, ac ni allaf aros am rowndiau terfynol cwpan y byd yn ddiweddarach eleni. Rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn ymuno â mi i ddymuno pob lwc i'r chwaraewyr, y staff a'r cefnogwyr yn Qatar.