– Senedd Cymru am 5:57 pm ar 29 Mehefin 2022.
Iawn, fe awn ni ymlaen nawr i'r ddadl fer bwysig ar bêl-droed.
Galwaf ar yr Aelod i gyflwyno ei ddadl yn awr, pan fydd rhai o'r Aelodau wedi gadael yn ddistaw.
Ocê, y ddadl fer, felly, a dwi'n galw ar Jack Sargeant i gyflwyno'r ddadl. Jack Sargeant.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n falch o allu trafod y mater y prynhawn yma—ein Cymru ni: creu cenedl bêl-droed flaenllaw. A hoffwn roi munud o fy amser fy hun, Lywydd, i Samuel Kurtz, Mike Hedges, Llyr Gruffydd a Tom Giffard.
Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi, Lywydd, na allaf gofio cyfnod mwy cyffrous i bêl-droed Cymru. Mae tîm cenedlaethol y dynion wedi chwarae ddwywaith mewn pencampwriaethau Ewropeaidd yn olynol ac wedi cyrraedd rowndiau terfynol cwpan y byd am y tro cyntaf ers 1958, ac wrth gwrs, rydym i gyd yma yn y Senedd hon yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn y gystadleuaeth yn y dyfodol. Ond nid tîm y dynion yn unig sydd wedi cael llwyddiant; mae tîm cenedlaethol y menywod yn creu bwrlwm go iawn gyda niferoedd uwch nag erioed yn mynychu gemau a pherfformiadau trawiadol ar y maes. Mae arwyr y gêm yng Nghymru, fel Gareth Bale a Jess Fishlock, yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr.
Mae gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru gynllun uchelgeisiol, gweledigaeth uchelgeisiol i Gymru ddod yn genedl bêl-droed flaenllaw ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol. Nawr, i rywun sy'n angerddol iawn am bêl-droed a'r manteision y gall eu cynnig i bawb sy'n gysylltiedig, mae hwn yn uchelgais go gyffrous. Mae'n cydnabod bod pêl-droed Cymru yn llawer mwy na'r timau cenedlaethol yn unig. Dywedaf hynny, Ddirprwy Lywydd, fel llysgennad clwb balch i dîm gorau cynghrair Cymru, os caf gofnodi hynny, Clwb Pêl-droed Cei Connah. Nawr, fel llawer ohonoch, rwy'n siŵr, fe fyddwch yn gyfarwydd â'r gêm ar lawr gwlad yng Nghymru, ac mae niferoedd helaeth o bobl ifanc, cenedlaethau'r dyfodol, pêl-droedwyr y dyfodol, yn chwarae pêl-droed yng Nghymru bob penwythnos, drwy gydol y flwyddyn. Mae gennyf atgofion melys fy hun o dyfu i fyny yn chwarae i Tigers Cei Connah; mae gennyf hefyd atgofion heb fod mor felys o fy ffrind gorau yn methu ciciau o'r smotyn yn rowndiau terfynol cwpan Cymru dros Tigers Cei Connah. Ond yn ôl bryd hynny, nid oedd y cyfleusterau'n wych, ac mae'n bwysig cydnabod bod cyfleusterau'n gwella, ond mae angen i'r daith hon barhau os yw Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ac os yw pob un ohonom fel cefnogwyr pêl-droed, am gyflawni eu huchelgais.
Mae Llywodraeth Cymru a rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n sylweddol mewn cyfleusterau, fel y mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chwaraeon Cymru. Fodd bynnag, rhaid inni wneud mwy i gynorthwyo ein clybiau i wella eu cyfleusterau yn uniongyrchol. Ac mae enghraifft o hyn yn fy etholaeth i—Clwb Pêl-droed Bwcle. Nawr, mae hwnnw'n glwb sy'n cael anawsterau gyda draenio, ac mae angen cae pob tywydd arnom. Rhaid cael cefnogaeth uniongyrchol i glybiau allu cyflawni eu huchelgeisiau eu hunain, nid dim ond cymorth i ysgolion a buddsoddi mewn ysgolion. Nawr, fel y dywedais, bob wythnos yng Nghymru, mae miloedd o bobl ifanc yn colli gemau, ac maent yn colli gemau am nad yw'r cae'n addas i chwarae arno, caiff y gêm ei chanslo—ac nid yw'r cae'n addas oherwydd y tywydd. Mae'n aml dan ddŵr. Mae'n bwrw llawer o law yng Nghymru—fe wyddom hynny, oni wyddom? A hoffwn glywed gan y Gweinidog, yn ei hymateb heddiw, ymrwymiad a sylw ynglŷn â sut y gallwn sicrhau'r gefnogaeth uniongyrchol hon i glybiau.
Ddirprwy Lywydd, mae pyramid cynghrair Cymru yn ffordd wych o gynnwys pobl yn y gêm yng Nghymru, ac mae cynghreiriau ein menywod a'n dynion yn gwella'n ddramatig; rwyf wedi'i weld fy hun fel llysgennad ac fel cefnogwr. Ac mae'r clybiau'n ymgysylltu'n barhaus â phobl ifanc, ac maent yn ymgysylltu â nifer dirifedi o bobl ifanc ledled ein gwlad. Ac os ydym eisiau i'r daith hon barhau, rwy'n credu bod rhaid i'r gemau fod yn hygyrch, ac mae hynny'n golygu cael eu darlledu ar y teledu neu'n fyw ar y radio. A rhannais fy uchelgais fy hun yn y Siambr ar hyn: i gynghreiriau menywod a dynion gael eu darlledu'n fyw, gyda mwy o gemau, yn amlach, yn rhad ac am ddim i'w gweld, yn rhad ac am ddim i'w clywed yn y ddwy iaith genedlaethol. Ac mae hyn yn hanfodol, ac mae'n hanfodol os ydym am adeiladu ar boblogrwydd cynyddol gêm y menywod a chynghreiriau'r menywod a'r dynion. Ac os ydym o ddifrif eisiau ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr o'r radd flaenaf, rhaid i hyn ddigwydd.
Ond fe wyddom fod pêl-droed yn ymwneud â mwy na'r rhai sy'n ei chwarae yn unig; mae'r cefnogwyr hefyd yn allweddol. Wal goch enwog Cymru. Ac os trof oddi wrth bêl-droed am eiliad, bydd llawer ohonoch yn y Siambr hon yn awr yn gwybod fy mod yn ymgyrchydd brwd dros faterion a chymorth iechyd meddwl, ac yn enwedig sut y gallwn gyrraedd pobl nad ydynt yn gofyn am y cymorth hwnnw. Ac rwy'n credu bod pêl-droed yn chwarae rhan benodol yn hyn. Gall ein helpu i gyrraedd pobl. Cyn y pandemig coronafeirws, gweithiais gyda phum clwb proffesiynol mawr Cymru—Caerdydd, Abertawe, Casnewydd, Wrecsam a Chei Connah wrth gwrs—ac fe wnaethom ddefnyddio pŵer pêl-droed i dynnu sylw at y ffaith bod 84 o ddynion yr wythnos yn cyflawni hunanladdiad a'r gefnogaeth y gellir ei chynnig drwy ein teulu pêl-droed. A dylwn ddweud fy mod yn talu teyrnged arbennig—a gallaf weld Jayne Bryant ar y sgrin yno—rwyf am dalu teyrnged arbennig yma am gefnogaeth barhaus tîm pêl-droed Casnewydd, sy'n mynd ati ar sail ddyddiol i gefnogi cefnogwyr sy'n ei chael hi'n anodd.
Ddirprwy Lywydd, mae pêl-droed yn bodoli yng Nghymru oherwydd gwaith byddin o gefnogwyr, byddin o wirfoddolwyr ar lawr gwlad. Dylem i gyd fod yn hynod ddiolchgar i'r rhai sy'n rhoi o'u hamser rhydd i gefnogi'r gêm yr ydym i gyd yn ei charu, y gêm y mae ein gwlad, ein cenedl, yn ei charu. Nawr, fel Aelodau o'r Senedd a chefnogwyr pêl-droed yn gyffredinol, rwy'n siŵr y byddwch i gyd yn cytuno â mi y bu newid gwirioneddol gadarnhaol yn arweinyddiaeth, agwedd a chyfeiriad Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a rhaid talu teyrnged am fod hyn wedi'i yrru gan y prif weithredwr newydd, Noel Mooney. Ond os ydym am ddatblygu hyn ymhellach fyth ac arwain ym maes llywodraethu pêl-droed, mae angen cymryd camau yn awr i annog amrywiaeth o fewn y strwythur arweinyddiaeth yma yng Nghymru ac o fewn y gêm yma yng Nghymru. Beth y mae hyn yn ei olygu? Wel, mae'n golygu mwy o fenywod a mwy o bobl o gefndiroedd lleiafrifol mewn swyddi strategol ar lefel uchaf Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Ni all hyn fod yn ymdrech symbolaidd yn unig, gyfeillion. Mae arnom angen grymuso pobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd sy'n rhannu cariad a gwybodaeth am y gêm. Mae angen iddynt gymryd rhan ar y lefel uchaf. Mae angen clywed eu lleisiau.
Ddirprwy Lywydd, fel y dywedodd Noel Mooney wrth dîm cenedlaethol y dynion wedi iddynt lwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol cwpan y byd, 'Rydym i gyd yn hyn gyda'n gilydd.' Felly, dylem nodi ein diolch i bob unigolyn sy'n gwneud i bêl-droed ddigwydd ledled Cymru—y rhai sy'n ei chwarae, y rhai sy'n ei wylio, y rhai sy'n ei gefnogi, y rhai sy'n ei hwyluso. Oherwydd mae'n wir, onid yw, ein bod yn gryfach pan fyddwn gyda'n gilydd. Ac mae'n mynd i gymryd pob un ohonom—pob un ohonom yn y Siambr hon, ein cymdeithas bêl-droed i gyd, ein cymdeithas ledled Cymru yn gyffredinol—bydd angen i bawb ohonom ddod at ein gilydd, i fod yn gryfach gyda'n gilydd ac i wneud gwaddol barhaol i Gymru er mwyn llwyddo go iawn i wneud Cymru'n genedl bêl-droed flaenllaw ledled y byd. Diolch yn fawr.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy am roi munud o'i amser i mi. O ran gwneud Cymru'n genedl bêl-droed flaenllaw, hoffwn dalu teyrnged i'r hyfforddwyr, sy'n aml yn rhoi o'u hamser yn rhad ac am ddim. Ac un o'r hyfforddwyr a lwyddodd i fy nenu i i gymryd rhan mewn pêl-droed flynyddoedd yn ôl, pan oeddwn yn fachgen ifanc, oedd Matthew 'Minty' Lamb, a fu'n hyfforddwr cymunedol y flwyddyn Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar un adeg. Roeddwn yn ddiolchgar iddo am fy ngwahodd i'w noson wobrwyo, oherwydd mae bellach, ers y 10 mlynedd diwethaf, wedi bod yn arwain menywod Abergwaun, o'r merched iau yr holl ffordd drwodd i'r tîm menywod hŷn, gan roi ei amser, a dod â'r gymuned i mewn i gefnogi pêl-droed menywod mewn rhan o'r byd lle nad oedd i'w gael yn draddodiadol. Ac rwy'n credu bod pobl fel Matthew Lamb, sy'n rhoi o'u hamser i gefnogi achos y maent yn credu cymaint ynddo, yn gwbl hanfodol i wneud Cymru'n genedl bêl-droed flaenllaw. A hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i'r Matthew Lambs sydd yno ym mhob clwb ledled Cymru, ym mhob cornel, yn sicrhau bod pobl Cymru yn chwarae pêl-droed, yn gwneud gweithgarwch corfforol, ac yn gwneud yn siŵr bod Gareth Bales a Fishlocks ar gael ar gyfer y dyfodol. Diolch.
A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am roi munud imi yn y ddadl hon? Rwy'n falch iawn o weld Cymru'n cyrraedd rowndiau terfynol cwpan y byd, ond mae pêl-droedwyr yn dechrau chwarae pan fyddant yn yr ysgol gynradd, fel arfer yn eu hysgol a'r clwb lleol. Heb yr athrawon sy'n rhoi o'u hamser a'r rhai sy'n hyfforddi ac yn rhedeg timau pêl-droed iau, ni fyddai gennym dîm cenedlaethol llwyddiannus. Bob penwythnos ledled Cymru, caiff gemau pêl-droed iau eu chwarae. Rhaid cludo chwaraewyr i gemau, rhaid i rywun ddyfarnu'r gemau hyn, ac mae'n rhaid i rywun weithredu fel hyfforddwr rhag ofn y bydd anaf. Bydd llawer yn rhoi'r gorau i chwarae pan fyddant yn cyrraedd 16 neu 18 oed, bydd rhai'n symud ymlaen i chwarae yn y cynghreiriau lleol, ac ychydig iawn i glybiau proffesiynol a llai fyth i chwarae dros Gymru. Mae'r chwaraewyr i gyd yn dechrau'r daith hon yn yr un lle. Rwyf eisoes wedi gofyn am fwy o gaeau 3G a 4G i wneud chwarae pêl-droed mewn tywydd gwlyb yn bosibl. Yn rhy aml, yn ystod y gaeaf, collir sawl wythnos o bêl-droed am nad oes modd chwarae ar gaeau. Rwy'n gorffen gyda 'diolch' mawr i'r rhai sy'n gwneud i bêl-droed iau ddigwydd, fel bod y Gareth Bale a'r Joe Rodon nesaf yn cael cyfle i ddechrau ar eu taith i ddod yn bêl-droedwyr rhyngwladol.
Gaf i ddiolch hefyd am y cyfle i gyfrannu i'r ddadl yma? Roeddwn i jest eisiau adlewyrchu ychydig ar beth mae pêl-droed Cymru a thimau pêl-droed Cymru—nid jest tîm pêl-droed Cymru, ond timau pêl-droed Cymru—yn eu cynrychioli erbyn hyn, a rhywbeth mae'r wal goch, wrth gwrs, wedi ei gofleidio. Mae'n fwy na jest pêl-droed, onid yw e? Mae'r ffenomena yma yn symbol o'r Gymru fodern, o Gymru hyderus, o Gymru lwyddiannus, ac o Gymru gynhwysol hefyd, yn ei holl amrywiaeth. Mi ddywedodd Gareth Bale, 'Y cwbl dwi angen yw'r ddraig ar fy mrest', a beth mae'r ddraig yna, yng nghyd-destun pêl-droed, yn ei chynrychioli erbyn hyn? Mae'n cynrychioli Cymru yn ei hamrywiaeth lwyr—pa bynnag iaith rydych chi'n siarad, beth bynnag yw lliw eich croen chi, beth bynnag rydych chi'n teimlo ydych chi, mewn gwirionedd. Ac nid yn unig rŷn ni'n dathlu bod tîm pêl-droed Cymru yn mynd i Qatar, ond mae'r hyn y mae'r tîm pêl-droed a phêl-droed yng Nghymru yn ei gynrychioli yn mynd i Qatar hefyd, ac mae honna'n neges bwysig ac yn neges dwi'n gobeithio y bydd y byd i gyd yn ei chlywed pan ddaw hi'n adeg inni wneud hynny ym mis Tachwedd.
Diolch, Jack Sargeant, am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Pan welais deitl y ddadl, 'creu cenedl bêl-droed flaenllaw', gwyddwn fy mod am siarad arni am ei bod yn gwneud i mi feddwl, 'Wel, beth sy'n ffurfio cenedl?' Ac rwy'n credu bod Cymru yn genedl o gymunedau ac yn fy marn i, nid oes dim yn rhwymo cymuned gyda'i gilydd yn debyg i glwb pêl-droed lleol. Fel y bydd Mike Hedges, rwy'n siŵr, yn tystio, nid oes dim yn rhwymo dinas Abertawe gyda'i gilydd yn debyg i'r gefnogaeth i'r Elyrch—
Y 'super Swans'. [Chwerthin.]
Ond hefyd, mae'n dysgu gwersi a rhinweddau pwysig i ni ar gyfer ein bywydau, i bobl ifanc ac i ni'r rhai hŷn sydd angen cael ein hatgoffa weithiau efallai—gwersi fel gwerthoedd tîm, un dros bawb, y tîm dros unigolion, ac amynedd, glynu gyda'r tîm drwy bob peth, parch at y rheolau, disgyblaeth a derbyn methiant hefyd. Ac roedd Altaf Hussain yn dweud wrthyf am ei wyres saith oed sy'n bêl-droediwr brwd, sy'n wych i'w glywed.
Felly, pan edrychwn ar Qatar a'r 11 sy'n mynd ar y cae pan fydd pencampwriaeth cwpan y byd yn dechrau, rwy'n gobeithio y bydd yn adlewyrchu, nid yn unig ar yr 11 a gyrhaeddodd y rownd derfynol a'r 11 a aeth â ni yno, ond ar y rhwydwaith cyfan, y rhwydwaith cymorth pêl-droed cyfan sydd wedi ein cael ni yno yn y lle cyntaf—yr hyfforddwyr, y gwirfoddolwyr, y dyfarnwyr sydd i gyd wedi chwarae eu rhan lawn cymaint â'r 11 ar y cae, ac rwy'n gobeithio y caiff hynny ei adlewyrchu. Diolch.
Galwaf ar Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon i ymateb i'r ddadl—Dawn Bowden.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am gyflwyno'r ddadl fer y prynhawn yma ar bwnc y gwn fod Jack a llawer o rai eraill yn gwybod ei fod yn agos iawn at fy nghalon innau hefyd? Er bod rhai wythnosau ers rownd derfynol gemau ail gyfle cwpan y byd yn erbyn Wcráin, nid yw'n teimlo'n real o hyd, oni chytunwch? Mae'r ewfforia yn ei gylch yn dal i fod gyda ni, ond mae cyflawniad uwch dîm dynion Cymru yn cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIFA am y tro cyntaf ers 64 o flynyddoedd yn anhygoel, camp a gafodd ei hystyried yn freuddwyd amhosibl cyhyd. A bu cymaint o fethiannau agos ar hyd y daith boenus honno ers 1958, ond o'r diwedd gallwn gefnu ar y siom. Mae'n dyst addas i benderfyniad, dyfalbarhad a chred chwaraewyr a staff Rob Page. Mae'r angerdd, yr ymrwymiad, y sbortsmonaeth a welwyd gan y tîm ar y cae, a'r un mor bwysig, oddi ar y cae, fel y dywedodd Llyr Gruffydd, wedi cael ei ganmol yn briodol ar draws y byd chwaraeon ac wedi ysbrydoli'r genedl. Pan fydd Cymru, fel cenedl fach, yn gwneud yn dda ar y llwyfan chwaraeon, mae'r genedl gyfan yn ei gogoniant, ac yn sicr gallwn deimlo'r ynni cadarnhaol yn tyfu o'r cyfle cyffrous hwn sydd o'n blaenau.
Mae i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol cwpan y byd eisoes wedi rhoi hwb i'r wlad gyfan, ac rwy'n siŵr y bydd yn agor y drws ar lawer o gyfleoedd. Ac i'r perwyl hwnnw, rydym yn gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a rhanddeiliaid eraill i ystyried sut i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a ddaw i Gymru wrth iddi gymryd rhan ar y llwyfan rhyngwladol hwn. Mae pêl-droed, yn enwedig twrnament byd-eang o fri fel cwpan y byd, yn gyfle i gyrraedd cynulleidfa fyd-eang ac i ddweud wrth y byd am Gymru, pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud. Rwy'n sicr y bydd y llwyddiant hwn yn ysbrydoli llawer o bobl, bechgyn a merched, hen ac ifanc, i gymryd rhan mewn chwaraeon ac yn sicr o adael gwaddol cryf a chadarnhaol iawn.
Dylem gofio hefyd, fel y nododd Jack Sargeant, fod uwch dîm menywod Cymru mewn sefyllfa dda o hyd i gyrraedd rowndiau terfynol cwpan y byd i fenywod y flwyddyn nesaf hefyd, sy'n adlewyrchu faint o gynnydd cadarnhaol a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf yng ngêm y menywod. Fel llawer ohonom, rwy'n edrych ymlaen at y gemau sy'n weddill yn eu hymgyrch i gyrraedd y rowndiau terfynol ym mis Medi a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno'r gorau iddynt hwythau hefyd.
Nawr, nid yw'r llwyddiannau hyn yn digwydd dros nos, wrth gwrs, ac mae'n dechrau drwy ei gael yn iawn ar lawr gwlad a sicrhau bod ein hathletwyr ifanc yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau a chael cyfleusterau i chwarae. Mae ein rhaglen lywodraethu yn cydnabod bod chwaraeon yn hollbwysig i economi Cymru ac i fywyd cenedlaethol. Mae'n ymrwymo Llywodraeth Cymru i harneisio creadigrwydd a gallu chwaraeon pobl Cymru a sicrhau bod y diwydiant yn cael y cymorth sydd ei angen arno i gael lle priodol ar lwyfan y byd. A dyna pam y mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £24 miliwn dros y tair blynedd nesaf mewn cyfleusterau chwaraeon, fel y gall rhai sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon o bob oed a gallu fwynhau'r gamp y maent wedi'i dewis a dysgu sgiliau newydd. Rwy'n arbennig o falch fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd wedi ymrwymo i ddefnyddio'r ffaith eu bod wedi cyrraedd rowndiau terfynol cwpan y byd i gefnogi a datblygu cyfleusterau ar lawr gwlad, a byddwn yn sicr yn annog tîm pêl-droed Bwcle ac unrhyw glwb sydd am wella eu cyfleusterau i gysylltu â Chymdeithas Bêl-droed Cymru a Chwaraeon Cymru i drafod yr opsiynau sydd ar gael iddynt.
Rwy'n cytuno hefyd â phwynt Jack fod mwy o le i glybiau pêl-droed chwarae rôl fel canolfannau i'r gymuned ac annog ac ysbrydoli pobl i ganolbwyntio ar eu hiechyd a'u llesiant, ac rwy'n cymeradwyo'r gwaith y mae Jack wedi'i wneud yn y maes hwn. Rwyf hefyd yn falch fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru eisoes yn meddwl ar hyd y llinellau hyn hefyd. Wrth gwrs, rhaid imi sôn am fy nhîm fy hun, clwb pêl-droed Merthyr, yn y cyd-destun hwn, ac mae'r clwb yn canolbwyntio'n fawr ar y gymuned ac yn eiddo i'r cefnogwyr, ac mae ganddo hanes o godi a chefnogi materion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl, o ymgyrch Ry'n Ni'n Gwisgo'r Un Crys gydag Amser i Newid a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn ôl yn 2015 i ymgyrch ddiweddaraf Mind Cymru, Terrace Talk. Roeddwn hefyd yn falch o glywed bod Clwb Bechgyn a Merched Trefelin yng nghynghrair de Cymru wedi penodi swyddog iechyd meddwl penodol yn gynharach eleni, gan weithio ochr yn ochr ag elusen leol i gefnogi eu chwaraewyr a'u staff pryd bynnag y bo angen.
Os caf droi yn awr at ddarlledu gemau, fel y gwyddoch, nid yw hwn yn faes sydd wedi'i ddatganoli, felly mae terfyn ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yma. Felly, er bod newyddion da yn y tymor byr, a bod gwaith partneriaeth gydag S4C wedi bod yn gadarnhaol iawn, mae angen i Lywodraeth y DU wneud llawer mwy i sicrhau bod rhestr o'r digwyddiadau chwaraeon gorau yn dal yn berthnasol i bob gwlad yn y DU.
Ddirprwy Lywydd, gallwn ddangos ein cryfder fel gwlad mewn perthynas â mwy na digwyddiadau ar y cae yn unig. Gallwn ddangos arweiniad hefyd, ac mae'n gwbl briodol fod hyn yn cynnwys amrywiaeth ar bob lefel o'r gêm. Mae'r arweinyddiaeth honno, y pŵer meddal neu ddiplomyddiaeth gyhoeddus, hefyd yn gyfrwng ar gyfer ymgysylltu rhyngwladol; mae'n codi proffil Cymru ac yn ein galluogi i adrodd ein stori ar lwyfan y byd. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yng nghwpan y byd y tro hwn, gan fy mod yn gwybod bod gan lawer o'r Aelodau a chefnogwyr bryderon am y wlad sy'n cynnal y bencampwriaeth, Qatar. O'r herwydd, credaf fod gennym gyfrifoldeb moesol i ymgysylltu â gwledydd nad ydynt bob amser yn rhannu ein gwerthoedd, boed hynny ar hawliau dynol, hawliau LGBTQ+, hawliau gweithwyr, neu ryddid gwleidyddol a chrefyddol. Mae ymgysylltu â gwledydd yn gyfle i ddatblygu llwyfan ar gyfer trafodaeth bellach, i godi ymwybyddiaeth ac i ddylanwadu.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am eu cyfraniadau a'r undod yn y Senedd y tu ôl i Gymru. Mae'n wych ein gweld fel cenedl yn ehangu ein cyrhaeddiad ar lwyfan y byd hyd yn oed ymhellach drwy rym chwaraeon, ac ni allaf aros am rowndiau terfynol cwpan y byd yn ddiweddarach eleni. Rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn ymuno â mi i ddymuno pob lwc i'r chwaraewyr, y staff a'r cefnogwyr yn Qatar.
Diolch, bawb. Mae hynny'n dod â ni i ddiwedd busnes heddiw.