1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 29 Mehefin 2022.
4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch ariannu prydau ysgol am ddim i bawb yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol? OQ58274
O ganlyniad i’r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, rydym yn rhagweld y bydd bron i 60,000 yn rhagor o ddisgyblion oedran cynradd yn cael eu bwydo ym mlwyddyn gyntaf y cynllun. Byddwn yn rhoi'r cynllun ar waith cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod pob disgybl cynradd yn cael cinio ysgol am ddim erbyn 2024.
Diolch. Mae'n chwyldroadol, mewn gwirionedd, onid yw, y bydd prydau ysgol am ddim i bawb yn dechrau cael eu cyflwyno o fis Medi ymlaen yng Nghymru. Rwyf mor falch fod hyn yn digwydd o ganlyniad i’r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru. Hoffwn ofyn i chi, Weinidog, am y cymorth sy’n cael ei roi i awdurdodau lleol i sicrhau bod ysgolion yn gallu ymdopi â’r newid hwn. Rwyf mor ddiolchgar i awdurdodau lleol ledled Cymru am weithio mor gyflym i sicrhau y bydd y babanod ieuengaf yn dechrau cael y prydau hyn o fis Medi ymlaen, ond fe fydd yna heriau logistaidd: bydd angen i rai ysgolion gael ceginau newydd, staff newydd, neu ddod o hyd i gyflenwyr newydd, o bosibl. Felly, a wnewch chi amlinellu, os gwelwch yn dda, sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo awdurdodau lleol i sicrhau y gall ysgolion ymdopi â'r rhwystrau hyn a bod y plant ieuengaf yn gallu dechrau cael prydau ysgol am ddim i bawb o fis Medi ymlaen mewn ysgolion ledled Cymru?
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn ac yn rhannu'r brwdfrydedd dros y polisi hwn. Nid wyf yn credu y gallai fod wedi dod ar adeg well, mewn gwirionedd, oherwydd pan ddechreuodd trafodaethau am y polisi penodol hwn, rwy'n gwybod nad oeddem mewn sefyllfa lle roeddem yn deall lefel yr argyfwng costau byw a oedd ger ein bron, felly yn sicr, dyma'r polisi cywir ar yr adeg iawn yn fy marn i.
Rydym yn awyddus i gefnogi llywodraeth leol mewn nifer o ffyrdd i gyflawni'r polisi hwn. Yn amlwg, bydd cymorth ariannol yn hollbwysig i allu cyflawni. Rydym wedi ymrwymo £200 miliwn mewn refeniw drwy gydol y cytundeb, ac rydym eisoes wedi darparu £25 miliwn cychwynnol mewn cyllid cyfalaf, fel bod awdurdodau lleol yn cael eu cefnogi i wneud buddsoddiadau cynnar yn yr offer a'r seilwaith sy'n angenrheidiol i gyflawni. Mae trafodaethau'n parhau gyda phartneriaid i ddeall pa gymorth pellach y gallai fod ei angen o ran buddsoddi yn yr ystad ysgolion, felly credaf fod cymorth ariannol yn bwysig iawn.
Credaf y bydd cefnogi trafodaethau aml gyda llywodraeth leol wrth iddynt fwrw ymlaen â'r gwaith o gyflawni'r polisi hwn hefyd yn bwysig er mwyn deall y goblygiadau iddynt hwy a'u profiad o gyflawni, a gallwn ddysgu o hynny wrth inni symud ymlaen. Ac yna credaf y bydd cefnogaeth glir i lywodraeth leol o ran bod yn hyblyg wrth iddynt ddechrau cyflawni hyn yn bwysig hefyd, oherwydd, fel y gwyddom, ni fydd pob ysgol mewn sefyllfa i ddarparu'r math o brydau poeth a ragwelwn, ond a oes pethau y gallwn fod yn eu gwneud i gefnogi datblygiad y polisi wrth inni weithio i gyrraedd y pwynt hwnnw?
Weinidog, fel y dywedoch chi, gwyddom eich bod wedi buddsoddi neu y byddwch yn buddsoddi £200 miliwn a £25 miliwn o gyfalaf i fynd i'r afael ag uwchraddio ceginau a chyfleusterau, a gwn fod rhywfaint o bryder o hyd nad yw hynny'n ddigon o bosibl, ond rwy'n cymryd y bydd y materion hynny'n cael sylw gan awdurdodau lleol. Fodd bynnag, gyda'r cyfraddau chwyddiant cynyddol ac ymosodiad Rwsia ar Wcráin yn effeithio'n sylweddol ar gostau bwyd, mae pryderon na fydd yr arian a gyhoeddwyd yn ddigon i sicrhau y gall ysgolion ddarparu prydau maethlon o ansawdd uchel i bawb. Yn amlwg, rydym yn debygol o weld costau cynyddol wrth i bethau symud ymlaen. Felly, mae polisi'r Llywodraeth mewn perygl o beidio â chyd-fynd â'r canlyniadau y mae'n gobeithio eu cyflawni. Weinidog, pa ddadansoddiad manwl y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o'r costau sy'n gysylltiedig â'r ymrwymiad i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd, a pha sicrwydd y gallwch ei roi i awdurdodau lleol o safbwynt cyfalaf a refeniw, yn enwedig pe bai prisiau bwyd yn codi fel sy'n debygol? Ac a wnewch chi gyhoeddi'r dadansoddiad hwn fel y gallwn weld yn gliriach sut y mae'r penderfyniadau ariannu hyn wedi cael eu gwneud, ac i ba raddau y maent yn cwrdd â'r costau sy'n wynebu awdurdodau lleol ac ysgolion? Diolch.
Credaf fod hon yn enghraifft arall o'r pwysau ar lywodraeth leol yr oedd eich cyd-Aelod, Sam Rowlands, yn ei drafod yn gynharach yn y sesiwn heddiw, yn yr ystyr fod eu cyllideb hwy, fel ein cyllideb ni, yn werth llai na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol. Mae prisiau bwyd wedi cynyddu 8.7 y cant yn y flwyddyn hyd at fis Mai 2022 ac mae'n amlwg fod llawer o ansicrwydd byd-eang o hyd, ac ni allwn fod yn siŵr na fyddant yn cynyddu ymhellach eto, felly credaf fod hyn yn un o'r pethau niferus sy'n rhoi pwysau ar lywodraeth leol. Wedi dweud hynny, credaf fod llywodraeth leol yn y sefyllfa orau bosibl, diolch i'r setliad da a gafwyd yn ein hadolygiad o wariant tair blynedd, ond yn amlwg byddwn yn gweithio'n agos ac yn cadw llygad ar hyn gyda llywodraeth leol. Wedi dweud hynny, credaf fod hyn yn ategu'r angen i Lywodraeth y DU ddarparu cynnydd cyffredinol i gyllidebau i adlewyrchu'r math o bwysau y mae Peter Fox yn sôn amdano gydag effaith chwyddiant o ddydd i ddydd ar y modd y cyflawnir polisïau, ac yn enwedig y rheini sy'n cefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.
Weinidog, mae gwella iechyd a llesiant ac addysg ein plant a'n pobl ifanc yng Nghymru mor bwysig—a hyd yn oed yn fwy pwysig yn awr, yn dilyn y pandemig. Bydd prydau ysgol am ddim yn chwarae rhan hanfodol yn hyn o beth, a hoffwn ddiolch i'r Gweinidog a'r Gweinidog addysg am eu holl waith caled ers yr adolygiad i sicrhau y bydd hwn yn dod yn normal newydd ar draws ysgolion yng Nghymru. Gwyddom fod prydau ysgol am ddim yn helpu i fynd i'r afael ag absenoldeb disgyblion, fel na fydd mwy a mwy o'n pobl ifanc yn colli addysg. Gwyddom hefyd fod swyddogion cyswllt â theuluoedd yn allweddol i leihau absenoldeb disgyblion, ond yn anffodus, nid yw pob ysgol yng Nghymru yn gallu fforddio'r swyddogion hyn. A wnaiff y Gweinidog archwilio'r posibilrwydd o ariannu swyddogion cyswllt â theuluoedd yn uniongyrchol drwy awdurdodau lleol i sicrhau bod mwy o ysgolion yng Nghymru yn gallu elwa o'u gwaith amhrisiadwy?
Cytunaf yn llwyr fod y swyddogion ymgysylltu â theuluoedd hynny'n gwneud gwaith rhagorol yn cydgysylltu â'r ysgol a'r teulu, ac fel y cyfryw, yng nghyllideb 2022-23, byddwn yn buddsoddi £3.84 miliwn i gynyddu nifer y swyddogion ymgysylltu â theuluoedd a gyflogir gan ysgolion. Mae'r cyllid wedi'i ddarparu i awdurdodau lleol, ac mae hwnnw, felly, yn caniatáu iddynt dargedu'r ysgolion y credant fod angen y capasiti ychwanegol hwnnw arnynt, gan ddefnyddio eu gwybodaeth leol. Ac yn ogystal, fel rhan o ddatblygiad ein polisi, byddwn hefyd yn cynghori ysgolion ar arferion effeithiol swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, ac wrth gwrs, y dysgu proffesiynol ehangach, sy'n rhaid ei gyflawni i wneud y defnydd gorau o'r unigolion hynny. Rydym hefyd yn darparu £660,000 ar gyfer treialu swyddi rheolwyr ysgolion bro yng Nghymru, a bydd y rolau hynny'n helpu i ddatblygu gwell ymgysylltiad rhwng ysgolion a'r cymunedau, i gydnabod nad yw bywydau plant yn gorffen pan fydd cloch yr ysgol yn canu, a bod llawer y mae angen ei wneud y tu hwnt i'r oriau hynny i gefnogi teuluoedd hefyd. Ond rydym yn cydnabod pwysigrwydd y swyddogion ymgysylltu â theuluoedd hynny.