1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 29 Mehefin 2022.
3. Pa effaith a gaiff newid dosbarthiad eiddo hunanarlwyo at ddibenion treth ar drigolion mewn cymunedau sydd â mwy a mwy o lety hunanarlwyo? OQ58249
Bydd ein newidiadau, sy’n rhan o’n dull tair rhan, yn helpu i sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng capasiti o fewn y sector twristiaeth hunanddarpar, a’r buddion economaidd a ddaw yn sgil hynny, a chefnogi cymunedau hyfyw o drigolion lleol i fyw a gweithio yn yr ardaloedd hyn.
Diolch, Weinidog. Mae'n dda iawn clywed hyn, gan y byddech yn cytuno, rwy’n siŵr, fod twristiaeth yn hanfodol bwysig i economi Cymru, ond wrth gwrs, gyda’r cynnydd sydyn mewn unedau hunanddarpar, mae perygl y bydd rhai trefi a phentrefi yn darparu mwy ar gyfer ymwelwyr nag ar gyfer preswylwyr. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi’i godi gyda mi gan drigolion pryderus yn Llangollen ar sawl achlysur, lle mae rhannau o’r dref—cymaint ag un eiddo o bob pump—bellach yn cael eu hysbysebu fel unedau hunanddarpar ar Airbnb. A fyddech yn cytuno bod rhaid inni sicrhau bod trefi a phentrefi ledled Cymru yn fyw ac yn weithredol 12 mis y flwyddyn, ac a wnewch chi warantu y bydd y mesurau a amlinellwyd gennych yn arwain at gydbwysedd gofalus rhwng ein buddiannau wrth hybu'r economi ymwelwyr a'r angen i sicrhau bod trefi a phentrefi yn drefi a phentrefi byw?
Yn hollol. Mae’r agwedd hon ar ein polisi, a mynd i’r afael â’r effaith y gall niferoedd mawr o ail gartrefi a llety gwyliau ei chael ar rai cymunedau yng Nghymru, yn ymwneud â gwneud yr union beth y mae Ken Skates wedi’i ddisgrifio, sef creu cymunedau cynaliadwy lle y gall pobl fyw drwy'r flwyddyn a lle nad ydych, yn y gaeaf, yn mynd i'r pentrefi hynny ac yn gweld bod y goleuadau wedi'u diffodd yn y rhan fwyaf o'r eiddo.
Gwyddom fod 40 y cant o'r eiddo yn Nhrefdraeth, sir Benfro, er enghraifft, neu yn Abersoch, yn ail gartrefi a llety gwyliau, ac nid yw cymunedau felly yn gymunedau gytbwys. Felly, rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd twristiaeth, ond credaf fod angen inni gydnabod hefyd fod cymunedau cynaliadwy yn bwysig, a rhoi cyfleoedd i bobl fyw yn y cymunedau y cawsant eu magu ynddynt a'r lleoedd y maent wedi ffurfio cysylltiad â hwy, a lle maent yn dymuno gweithio a chreu bywyd iddynt eu hunain.
Credaf ei bod hefyd yn werth inni ystyried, lle mae perchnogion ail gartrefi'n gweithredu’n achlysurol iawn, neu o bryd i'w gilydd, o fewn y sector hunanddarpar, eu bod yn cystadlu’n uniongyrchol â busnesau hunanddarpar go iawn. Felly, mae hynny unwaith eto'n arwydd nad yw'r system fel y mae yn gytbwys, ac fel y dywedais, rydym yn rhoi nifer o gamau ar waith i fynd i'r afael â hyn.
Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod fy nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig a minnau wedi mynegi ein gwrthwynebiad i’r newidiadau hyn ar sawl achlysur. Un o'r rhesymau dros hynny yw'r canlyniadau anfwriadol a allai godi yn sgil y newidiadau. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad ers hynny â nifer o fusnesau sydd wedi codi pryderon difrifol am rai o ganlyniadau anfwriadol y newid. Felly, a gaf fi ofyn ychydig o gwestiynau?
Felly, er enghraifft, sut yn union y bydd y dyddiau hyn yn cael eu cyfrifo? Beth fydd yn digwydd—ac yn anffodus, mae hyn yn digwydd—os bydd rhywun yn canslo eu gwyliau ar y funud olaf? A yw hynny'n dal i gyfrif tuag at y cwota o 182 diwrnod? Hefyd, pryder arall, fel y saif pethau, yw bod taliadau casglu sbwriel yn daladwy os yw’r busnes yn talu ardrethi busnes, ond beth sy’n digwydd os bydd y busnes hwn yn cael ei orfodi i newid yn ôl i dalu’r dreth gyngor? A oes rhaid iddynt dalu am gasgliadau sbwriel, neu a fydd rhywfaint o'r gost honno'n cael ei had-dalu?
Yn olaf, hoffwn wybod pa asesiad effaith, os o gwbl, a wnaed ar nifer yr eiddo hunanddarpar y rhagwelir y bydd ar gael yng Nghymru ar ôl i’r newid hwn ddod i rym yn llawn, ac os gallwch rannu’r canfyddiadau hynny â’r Senedd, er mwyn inni gael gwell dealltwriaeth o effaith y newidiadau hynny.
Diolch am godi’r mater hwn. Rydym wedi rhannu cymaint o fanylion ag y gallwn yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, a gyhoeddwyd gyda'r ddeddfwriaeth. Rydym wedi bod yn awyddus i roi cymaint o amser â phosibl i weithredwyr addasu eu model busnes i fynd i'r afael â rhai o'u pryderon. Maent wedi cael o leiaf 12 mis o rybudd cyn i'r materion hyn ddod i rym. Byddwn yn darparu rhestr gyflawn o gwestiynau cyffredin, os mynnwch, ar gyfer gweithredwyr, fel y gallant ddeall sut y gallai hyn effeithio arnynt hwy yn bersonol.
Ond os yw gweithredwyr yn gweithredu fel busnes ac yn cyrraedd y trothwy, byddant yn derbyn holl gyfrifoldebau a manteision cael eu trin fel busnes. Os na fyddant yn cyrraedd y trothwy hwnnw, byddant yn cael eu hystyried yn annedd ddomestig at ddibenion y dreth gyngor, o leiaf. Ond rwy'n fwy na pharod i lunio rhestr o gwestiynau cyffredin, ac os oes gan fy nghyd-Aelodau unrhyw gwestiynau manwl, byddwn yn awyddus i roi sylw iddynt yn y rhestr honno.