Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 29 Mehefin 2022.
Mae'r gyllideb derfynol a gyhoeddwyd ym mis Mawrth yn darparu £1.8 biliwn yn 2022-23 i gefnogi portffolio'r economi. Mae'r gyllideb hon yn cynnwys £35 miliwn i gefnogi busnesau bach a chanolig yn benodol. Mae cymorth arall yn cynnwys £116 miliwn ar gyfer rhyddhad ardrethi a £103 miliwn ar gyfer Trawsnewid Trefi.