Cefnogi Busnesau Bach a Chanolig

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 29 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 2:19, 29 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Weinidog. Yn ddiweddar, rwyf wedi cyfarfod â nifer o fusnesau yng nghwm Cynon sy'n ceisio buddsoddi mewn ffynonellau ynni adnewyddadwy, neu beiriannau mwy modern sy'n defnyddio ynni'n effeithlon. Wrth gwrs, gall hyn fod yn ddrud iawn i fentrau teuluol bach. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r math hwn o fuddsoddiad fel y gall busnesau arloesi, moderneiddio a chwarae eu rhan wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd?