Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 29 Mehefin 2022.
Diolch, Sarah, am godi'r mater pwysig hwn. Rydych yn iawn—adroddodd y BBC am 63 y cant o fridio cŵn anghyfreithlon, er bod nifer yr erlyniadau'n parhau'n isel iawn. Pa gamau penodol y gellir eu cymryd fel rhan o'ch cynllun lles anifeiliaid i sicrhau bod capasiti o fewn y canolfannau ailgartrefu i ymdrin â chynnydd o'r fath a gweithio gyda'r RSPCA i atgyfnerthu pwysigrwydd erlyniadau? Diolch.