Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 29 Mehefin 2022.
Ie. Nid wyf yn credu bod angen inni gadarnhau pwysigrwydd erlyniadau; mae'n rhywbeth a godais yn fy nhrafodaethau gyda'r heddlu, nad yw'n faes datganoledig yn amlwg, ond rwy'n sicr wedi cael trafodaethau gyda'r RSPCA, ac rwyf wedi bod allan, fel llawer o'r Aelodau yn y Siambr mae'n debyg, gyda'r RSPCA ac wedi gweld yr anawsterau y maent yn eu hwynebu os dônt ar draws sefyllfa lle y credant fod angen mynd â chi oddi wrth rywun ac nad oes ganddynt bwerau i wneud hynny. Felly, rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda'r RSPCA ar hynny ac yn parhau i wneud hynny. Rwy'n ddiolchgar iawn am y berthynas gref iawn sydd gennym gyda'r sefydliadau trydydd sector hyn a chydag awdurdodau lleol. Credaf ei fod bellach yn rhywbeth y mae angen inni barhau i fynd ar ei drywydd gyda'r heddlu.