3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 29 Mehefin 2022.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rhybudd gan Dr Gwyn Williams o Goleg Brenhinol yr Ophthalmolegwyr, y gallai ton o ddallineb diangen ledaenu drwy Gymru os na chaiff gwasanaethau gofal llygaid eu diwygio? TQ647
Diolch yn fawr. Lywydd, mae Gwyn Williams, ein harweinydd clinigol ar offthalmoleg, ynghyd â Choleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr, wedi gweithio gyda ni i ddatblygu'r strategaeth gofal llygaid yr ydym yn ei chyflawni erbyn hyn. Dros y 12 mis diwethaf, mae gwasanaethau gofal llygaid wedi cyflwyno llawer o ddatblygiadau arloesol i sicrhau bod cleifion sydd mewn perygl o golli eu golwg yn cael eu gweld a’u trin.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Mae’r amseroedd aros yn ofnadwy ar gyfer triniaethau llygaid yn unrhyw le yng Nghymru. Ac mae anawsterau ledled y Deyrnas Unedig; rwy'n derbyn hynny, Weinidog. Mae Dr Williams yn tynnu sylw at dri phwynt sydd, yn ei farn ef, yn dangos bod angen ymyrraeth ddramatig ar ran y Llywodraeth, gan weithio gyda'r byrddau iechyd. Y cyntaf, yn amlwg, yw newid arferion gwaith a defnyddio sylfaen ehangach o weithwyr proffesiynol i ymdrin â gwasanaethau gofal llygaid; yr ail yw recriwtio pobl i'r gwasanaeth i gynyddu capasiti'r gwasanaeth; a'r trydydd yw creu tair canolfan ragoriaeth gofal llygaid ledled Cymru ac edrych ar yr hyn y gall optometryddion ei wneud yn eu lleoliadau ar y stryd fawr i wella lefel y gwasanaeth a allai fod ar gael i bobl â chyflyrau llygaid.
Rwy'n awgrymu na fyddai unrhyw beth yn waeth na cholli eich golwg dros gyfnod penodol o amser, pan wyddoch y gallai ymyrraeth atal y dirywiad hwnnw yn eich golwg, a'ch atal rhag mynd i mewn i fyd o dywyllwch. Pa mor hyderus ydych chi, Weinidog, y bydd y cynllun a roesoch ar waith yn bodloni’r tri amcan y mae Dr Williams wedi’u nodi fel rhai hollbwysig os ydym am ehangu’r gwasanaeth yma yng Nghymru, ac na fyddwn yma ymhen 12 mis yn dal i ddadlau, yn dal i drafod amseroedd aros hirfaith ar gyfer triniaeth gofal llygaid yng Nghymru, gyda llawer o bobl, yn anffodus, yn colli eu golwg a'r tywyllwch yn llenwi eu bywydau?
Diolch yn fawr, Andrew. Rwy’n gwbl ymwybodol o’r ffaith bod yna rai achosion lle mae'n rhaid inni symud yn gyflym, ac mae hwn yn un ohonynt, a dyna pam ein bod wedi gofyn i glinigwyr drefnu blaenoriaethau, rhoi pobl mewn categorïau fel ein bod yn cyrraedd y bobl sydd fwyaf o angen yr help mwyaf yn gynt na neb arall. Wrth gwrs, yr hyn a wnawn yw rhoi argymhellion adroddiad Pyott ar waith, ac mae un o’r rheini’n cael ei weithredu ar hyn o bryd. Felly, mae gennym ddwy theatr lawfeddygol symudol newydd yn benodol ar gyfer triniaeth cataractau. Maent ar waith yng Nghaerdydd a’r Fro, a chawsant eu hariannu gan £1.4 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Ar arferion gwaith, rydym yn awyddus i newid y rheolau. Felly, mae’r rheolau ar hyn o bryd yn dweud mai dim ond archwilio golwg pobl y gall optometryddion ar y stryd fawr, er enghraifft, ei wneud, ond mae eu sgiliau’n mynd ymhell y tu hwnt i hynny, ac mae angen inni newid y rheolau i ganiatáu iddynt wneud hynny. Felly, nid yw’r broses o newid y rheolau mor syml ag y mae'n ymddangos, ond rydym yn y broses o weld pa mor bell a pha mor gyflym y gallwn wneud hynny.
Ar recriwtio, wrth gwrs, rydym yn gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru mewn perthynas ag arbenigo a sicrhau bod gennym y bobl iawn i wneud y pethau iawn yn y lle iawn. Ac yn sicr, o ran y stryd fawr, rydym yn awyddus iawn i sicrhau eu bod yn rhan o'r ateb i'r broblem hon.
Ers 2018, y polisi yng Nghymru ydy bod gofal llygaid a'r math o ofal sy'n cael ei gynnig yn seiliedig ar y lefel o risg. Mi oedd yn arloesol yn hynny o beth, efo cleifion i gael eu gweld yn ôl faint o risg maen nhw'n ei wynebu. Ac mae'r ffactor risg uchaf ar gyfer y rheini sy'n wynebu'r risg o newid di droi nôl, neu irreversible harm. Ac i bobl sydd â problem efo'u golwg, mae hynny yn golygu risg o golli eu golwg. Rŵan, er mwyn i system fel yna weithio, mae'n rhaid i bobl gael eu gweld o fewn amser penodedig. Mae mor syml â hynny, a dyna pam bod y targed yn nodi bod angen i 95 y cant o gleifion gael eu gweld o fewn yr amser hwnnw. Mi ddylai fod yn 100 y cant, am wn i, ond mae 95 y cant yn ystadegol yn eithaf agos ati. Ond rŵan rydyn ni'n clywed bod 65,000 o bobl ddim yn cael eu gweld o fewn yr amser penodedig: 65,000 o bobl yn wynebu colli eu golwg.
Mi wnes i dynnu sylw at hyn yng nghanol misoedd tywyll y pandemig ym mis Chwefror y llynedd, yn poeni am effaith y pandemig, ond rŵan ein bod ni'n symud allan, gobeithio, o'r pandemig, mae'r problemau yn dwysáu. Mae'n ddigon drwg pan fydd pobl yn aros mewn poen am driniaeth orthopedig, o bosibl, ond rydyn ni yn sôn fan hyn, fel dwi'n dweud, am bobl sy'n colli eu golwg.
Rydyn ni wedi clywed am yr NHS yn dechrau cael targedau newydd ôl COVID, felly, Llywydd, a gaf i ofyn i'r Gweinidog yn syml iawn pa bryd fydd hi'n ymrwymo nid i leihau faint o bobl sy'n aros yn hirach nag y dylen nhw, ond i gael gwared ar yr amseroedd aros yma'n llwyr? Does yna ddim pwynt i chi gael system sy'n seiliedig ar fesur risg os ydych chi wedyn yn gadael degau o filoedd o bobl yn agored i'r lefel uchaf posibl o risg.
Diolch. Fel rŷch chi'n ymwybodol, roeddwn i'n falch o weld, am y tro cyntaf, bod rheini sydd wedi aros am ddwy flynedd a hirach, bod y rhestrau hynny yn dod i lawr am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig. Felly, rŷn ni'n mynd i'r cyfeiriad cywir, ond, wrth gwrs, nid yw'n ddigon cyflym. Ond mae'n rhaid i chi gofio o ran y ffigurau rydyn ni'n delio â nhw ar hyn o bryd, mi ddaethon ni mas â'n cynllun ni ym mis Ebrill, a ffigurau mis Ebrill sydd gyda ni. Felly, mae e'n cymryd amser i roi systemau mewn lle, a beth sydd gyda ni nawr, er enghraifft, yw'r NHS Wales university eye-care centre. Maen nhw yn datblygu gweithlu sydd yn gallu rhoi'r gofal soffistigedig yna, ac sydd yn rhoi'r cyfleoedd yna i optometrists ar draws Cymru i weithio.
Felly, dwi'n falch o weld bod y strwythurau yna o ran risg mewn lle, ond beth rŷm ni'n ceisio ei wneud nawr yw i fynd trwy pobl cyn gyflymed â phosibl, a dyna pam mae'n bwysig cael y llefydd yma sy'n sefyll ar wahân ac ar eu pennau eu hunain, a fydd ddim yn cael eu cnocio allan am resymau fel urgent care ac ati. Beth rŷm ni'n debygol o weld yw bod y rhestrau hynny yn dod i lawr lot yn gyflymach nag rŷm ni wedi'i weld yn y gorffennol. Os ydych yn edrych, er enghraifft, ar Abertawe, mae'r modular theatre newydd yna. Rŷm ni'n gobeithio gweld tua 200 o operations y mis yn ychwanegol i beth oedd yn digwydd cyn hynny.