Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Fe fyddwn ni yn gyntaf yn trafod y grŵp cyntaf o welliannau, sy'n ymwneud â chyfyngiadau defnyddio'r pwer yn adran 1. Gwelliant 1 yw'r prif welliant, a dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i gynnig y prif welliant ac i siarad ar y gwelliannau eraill yn y grŵp—Rebecca Evans.