– Senedd Cymru am 6:20 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Fe fyddwn ni yn gyntaf yn trafod y grŵp cyntaf o welliannau, sy'n ymwneud â chyfyngiadau defnyddio'r pwer yn adran 1. Gwelliant 1 yw'r prif welliant, a dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i gynnig y prif welliant ac i siarad ar y gwelliannau eraill yn y grŵp—Rebecca Evans.
Diolch. Cyn i mi fanylu ar y manylion technegol, hoffwn fanteisio ar y cyfle i gofnodi, Llywydd, gymaint yr wyf wedi gwerthfawrogi'r trafodaethau adeiladol iawn yr wyf wedi eu cael gydag Aelodau'r gwrthbleidiau a meincwyr cefn Llafur drwy Gyfnod 2 ac o flaen Cyfnod 3 ar newidiadau i'r Bil. Rwyf bob amser wedi ceisio deall a myfyrio ar y pwyntiau a wnaed, ac ystyried yn ofalus yr hyn y mae'r pwyllgorau craffu wedi ei ddweud pan fyddan nhw wedi edrych ar y Bil. Mae canlyniadau'r trafodaethau a'r ystyriaethau hynny wedi newid y Bil mewn ffordd gadarnhaol. Mae'r gwelliannau sy'n ymwneud â'r broses adolygu, y cyfyngiadau ar ddefnyddio'r ddeddfwriaeth ôl-weithredol a'r cymal machlud yn dangos bod y Bil hwn yn wahanol iawn bellach i'r hyn a gafodd ei gyflwyno gyntaf yn y Senedd, a oedd ynddo'i hun yn wahanol iawn i'r hyn yr oeddem ni wedi ei ragweld yn wreiddiol, fel y dangoswyd yn glir drwy gynnwys y pedwar prawf pwrpas. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cydnabod y cynnydd a'r ffydd dda yr wyf wedi eu cyflwyno i'r broses hon, ac rwyf wedi dweud, os gallwn ni lwyddo i gael y Bil hwn drwodd, fy mod i eisiau i ni weithio mewn ffordd yr un mor agos i ddatblygu'r bensaernïaeth a all lywio'r newidiadau hirdymor i ddeddfwriaeth treth yng Nghymru.
Ond nawr i'r manylion technegol. Mae gwelliant 1, a gyflwynir yn fy enw i, yn ddiwygiad canlyniadol i adran 1(2) i adlewyrchu'r ffaith bod y pŵer yn adran 1 hefyd yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau ychwanegol a fewnosodir yn adran 2(5) a 2(6) drwy welliannau y cytunwyd arnynt yng Nghyfnod 2. Mae adran 1(2) o'r Bil yn nodi fel a ganlyn:
'Ond gweler adran 2(4) (cyfyngiadau ar y pŵer).'
Dylai hwn nodi:
'Ond gweler adran 2(4), (5) a (6) (cyfyngiadau ar y pŵer).'
Mae gwelliant 5, a gyflwynwyd yn enw Peter Fox, yn ceisio eithrio Rhan 3A o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 o gwmpas y pŵer i wneud rheoliadau yn adran 1. Mae Rhan 3A yn rhoi ffordd i Awdurdod Cyllid Cymru wrthweithio trefniadau osgoi mewn cysylltiad â threthi datganoledig—y rheol gwrth-osgoi gyffredinol, neu'r GAAR. Er ei bod yn debygol y bydd angen i Weinidogion Cymru wneud newidiadau i weithrediad y GAAR mewn amgylchiadau cyfyngedig yn unig, mae'n bosibl y bydd angen newidiadau ar fyr rybudd ac, wrth gwrs, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd.
Cyn y ddadl ar egwyddorion cyffredinol, yn fy ymateb i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, nodais yn glir adolygiad manwl o'r Rhannau o'r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi a rhoddais enghreifftiau o senarios yn y dyfodol lle gellir gwneud diwygiadau drwy reoliadau o dan y Bil. Roedd hyn yn cynnwys enghreifftiau o'r angen am newid mewn cysylltiad â'r GAAR, sy'n fwyaf tebygol o godi mewn sefyllfaoedd lle mae llys yn barnu ar ystyr darpariaethau gwahanol ac sy'n lleihau neu'n ehangu cwmpas y GAAR mewn ffordd na ragwelwyd neu annisgwyl. Gall sefyllfa o'r fath godi, er enghraifft, pan fo llys yn barnu ar ddehongli 'artiffisial', cysyniad allweddol yn y GAAR, sy'n ehangach neu'n gulach nag a ddeallwyd yn flaenorol ac felly'n ehangu cwmpas y GAAR neu o bosibl yn lleihau ei effeithiolrwydd. Yn y sefyllfaoedd hyn, byddai'r gallu i ddefnyddio adran 1(1)(d) i egluro'r gyfraith ar frys yn fuddiol iawn i ddiogelu'r refeniw ar y naill law a threthdalwyr ar y llaw arall. Rwy'n credu bod hyn yn dangos pam mae'r gallu i ddiwygio'r GAAR yn bwysig ac y dylai aros o fewn cwmpas y pŵer i wneud rheoliadau yn y Bil. Felly, ni allaf gefnogi gwelliant 5.
Diben gwelliant 6, a gyflwynwyd hefyd gan Peter Fox, yw diwygio'r geiriad yn adran 2(6) o 'newid' i 'addasu' fel na chaiff rheoliadau o dan adran 1 addasu unrhyw weithdrefn yn y Senedd sy'n ymwneud â gwneud offeryn statudol o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Deddfau hynny. Nid wyf yn siŵr beth yw'r bwriad y tu ôl i'r newid arfaethedig. Fy marn i yw ei bod yn ymddangos yn gwbl arddulliadol, gan geisio creu unffurfiaeth iaith o fewn y Bil. Defnyddir 'addasu' mewn mannau eraill yn y Bil i ddisgrifio newidiadau y gellir eu gwneud i ddeddfwriaeth, ac, o'r herwydd, mae wedi cael diffiniad, sy'n cynnwys 'diddymu' a 'dirymu'. Fodd bynnag, gan y byddai'n rhyfedd siarad am 'ddirymu' neu 'ddiddymu' gweithdrefn Senedd, penderfynais y byddai defnyddio'r gair 'newid' yn fwy priodol yn y cyd-destun hwn. Nid yw defnyddio 'addasu' yn cyfyngu ar yr hyn y gellir ei wneud o dan y pŵer yn adran 1 yn fwy na defnyddio 'newid'. Gan fod rhesymau amlwg pam y defnyddiwyd 'newid' yn hytrach nag 'addasu', a hefyd gan nad yw'r gwelliant yn cael unrhyw effaith mewn gwirionedd, ni allaf gefnogi'r gwelliant hwn.
Byddaf yn siarad am welliannau 5 a 6, a gyflwynwyd yn fy enw i, ond, cyn i mi ddechrau, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei hymgysylltiad drwy gydol y broses hon â mi'n bersonol a chydweithwyr eraill ar draws y Siambr? Mae wedi bod yn ddefnyddiol ac mae hynny i'w groesawu, ac rwy'n diolch i chi am hynny, a hefyd i'r bobl niferus sydd wedi cyfrannu at daith y Bil hwn i'r pwynt hwn.
Mae gwelliant 5 yn dileu'r rheol gwrth-osgoi gyffredinol, GAAR, fel yr amlinellir yn Neddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, o gwmpas y pŵer i wneud rheoliadau yn adran 1. Mae'r gwelliant hwn yn dilyn argymhelliad 6 y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Yn ystod Cyfnod 2, cynigiais welliannau a dynnodd y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi gyfan o ddarpariaethau adran 1 o'r Bil deddfau treth. Fodd bynnag, cyflwynodd y Gweinidog welliannau a oedd yn lleddfu rhai o fy mhryderon, i raddau, ynghylch sut y gellid defnyddio'r Bil hwn i newid y ddeddfwriaeth dreth bresennol. Roeddwn i hefyd yn croesawu'r eglurder ychwanegol ym memorandwm esboniadol diweddaraf y Bil am rai o'r materion y gwnaethom eu trafod yn ystod cyfnod y pwyllgor. Ac eto, nid wyf wedi fy argyhoeddi'n llwyr o hyd bod y Bil fel y'i drafftiwyd yn darparu digon o fesurau diogelu i atal diwygio'r GAAR yn ddiangen drwy is-ddeddfwriaeth.
Mae'r Gweinidog wedi datgan o'r blaen, er bod y tebygolrwydd yn isel, y gellid defnyddio'r pwerau yn y Bil yn dechnegol i ddiwygio'r GAAR, y mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi ei galw'n arf pwysig i'w gael yn ôl yr angen, gan ei bod yn rhwystr effeithiol ar hyn o bryd. Yn y cyfamser, dadleuodd y pwyllgor deddfwriaeth, cyfiawnder a'r cyfansoddiad na fyddai'r prawf angenrheidiol a phriodol yn adran 1(1) yn rhwystr i ddiwygio'r GAAR, oherwydd y cwbl y byddai ei angen i fodloni'r prawf yw'r Gweinidog ar y pryd i ystyried bod camau gweithredu o'r fath yn briodol. O'r herwydd, mae posibilrwydd y gallai'r ddeddfwriaeth o dan Weinidog yn y dyfodol ganiatáu i'r GAAR gael ei diwygio pan na fyddai'n ddymunol nac yn angenrheidiol. Er enghraifft, fel y soniodd yr Athro Lewis yn ystod y cyfnod craffu, gellid defnyddio'r Bil fel y'i drafftiwyd i ddiwygio'r darpariaethau gwrth-osgoi presennol yn Neddf Casglu a Rheoli Trethi 2016 i wrthdroi pethau fel y baich prawf, neu ei gwneud yn ofynnol i drethdalwyr ddangos nad yw trefniadau osgoi yn artiffisial, yn hytrach nag Awdurdod Cyllid Cymru, fel y mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol ar hyn o bryd.
Mewn tystiolaeth, ysgrifennodd Dr Sara Closs-Davies,
'lle mae proses lle gellir gwneud newidiadau a phenderfyniadau, mae posibilrwydd y gall newidiadau a phenderfyniadau anghywir ddigwydd.'
Ac felly mae'n rhaid cwestiynu a yw unrhyw newidiadau i risg GAAR yn y dyfodol yn ei gwneud yn llawer llai effeithiol nag y mae ar hyn o bryd.
Yn olaf, mae gwelliant 6 yn welliant technegol, treiddgar. Yng Nghyfnod 2, cyflwynodd y Gweinidog welliant a fewnosododd ddwy is-adran, ac roedd un ohonyn nhw'n nodi:
'Ni chaiff rheoliadau o dan adran 1 newid unrhyw weithdrefn gan Senedd Cymru sy’n ymwneud â gwneud offeryn statudol o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Deddfau hynny.'
Fel y'i cyflwynwyd, mae nifer o gyfyngiadau ar ddefnyddio'r pŵer i wneud rheoliadau yn adran 1, ac eto mae'r cyfyngiadau hyn i gyd wedi eu geirio fel gwaharddiad ar addasu yn hytrach na newid. Felly, byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Gweinidog egluro'r dewis o'r gair 'newid' yng ngwelliant 2 er budd y cofnod, fel bod effaith y gwelliant hwnnw'n glir i ddarllenwyr y ddeddfwriaeth yn y dyfodol. Diolch.
Gaf innau hefyd ar y dechrau fel hyn ategu'r diolchiadau i'r Gweinidog a'i swyddogion am y modd maen nhw wedi ymgysylltu â ni, a hefyd wrth gwrs i'r pwyllgorau cyllid ac LJC am eu gwaith, a hefyd i lefarydd y Ceidwadwyr am y modd rydyn ni wedi gallu gweithio gyda'n gilydd ar y Bil yma?
Jest i ddweud, mi fyddwn ni'n cefnogi'r gwelliannau i gyd yn y grŵp yma. Mae gwelliant 1, fel rydyn ni wedi clywed, yn welliant canlyniadol, felly fe wnaf i ymhelaethu, efallai, pan ddown ni i'r gwelliant mwy sylweddol yng ngrŵp 4, ond rydym hefyd yn cefnogi gwelliannau 5 a 6, am y rhesymau y mae Peter Fox wedi eu hamlinellu ond hefyd oherwydd y dystiolaeth a amlygwyd yn ystod Cyfnod 1 o graffu ar y Bil yma.
Y Gweinidog i ymateb—Rebecca Evans.
Diolch i fy nghyd-Aelodau am eu cyfraniad yn yr adran benodol hon ac, fel y clywsom, mae gwelliant 1 yn welliant canlyniadol, ac rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth i hynny gan Blaid Cymru, a byddwn yn gobeithio y cawn gefnogaeth gan gyd-Aelodau Ceidwadol i'r gwelliant penodol hwnnw.
Yna, rwy'n credu i ni gael y cyfle yng Nghyfnod 2 i archwilio argymhelliad 6 gan y pwyllgor deddfwriaeth, cyfiawnder a'r cyfansoddiad yn fanwl, a bu modd i mi, fel y dywed Peter Fox, gyflwyno gwelliannau i geisio lleddfu rhai o'r pryderon a godwyd bryd hynny. Ond rwy'n gobeithio, yn fy sylwadau agoriadol i'r adran hon, fy mod i wedi gallu nodi pam y teimlir ei bod yn dal i fod yn angenrheidiol bod â'r pŵer hwn, er, fel y dywedais i, dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig y byddai'n debygol o gael ei ddefnyddio. Efallai y bydd angen cyflwyno newidiadau ar fyr rybudd, ond wrth gwrs yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd hon.
Yna, fel yr wyf wedi ei nodi, o ran defnyddio'r gair 'newid' yn hytrach nag 'addasu', rwy'n credu bod y gwelliant a gyflwynwyd gan Peter Fox, unwaith eto, mae'n ymddangos bod y gair 'newid' yn cael ei ffafrio'n arddulliadol oherwydd ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn mannau eraill i ddisgrifio newidiadau tebyg. Mae'n air sy'n cael ei ddefnyddio a'i ddeall yn y gyfraith ac, fel y cyfryw, mae arnaf ofn na allaf dderbyn y gwelliant y mae Peter Fox wedi ei gyflwyno yn hyn o beth ychwaith. Ond rwy'n ddiolchgar iawn i'r cyd-Aelodau am eu cyfraniadau.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad?
Dim gwrthwynebiad i welliant 1.
Felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.
Gwelliant 5.
Gwelliant 5, a yw'n cael ei gynnig, Peter Fox?
Cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 5? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 5. Gwelliant 5. Fe wnawn ni agor y bleidlais ar welliant 5 yn enw Peter Fox. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, yn erbyn 25. Felly, mae gwelliant 5 wedi ei wrthod.
Peter Fox, gwelliant 6.
Gwelliant 6, a yw'n cael ei gynnig?
Cynnig.
Gwelliant 6 wedi ei symud. A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 6? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, symudwn i bleidlais ar welliant 6 yn enw Peter Fox. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 6 wedi ei wrthod.