Grŵp 1. Cyfyngiadau ar ddefnyddio'r pŵer yn adran 1 (Gwelliannau 1, 5, 6)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:29 pm ar 5 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 6:29, 5 Gorffennaf 2022

Gaf innau hefyd ar y dechrau fel hyn ategu'r diolchiadau i'r Gweinidog a'i swyddogion am y modd maen nhw wedi ymgysylltu â ni, a hefyd wrth gwrs i'r pwyllgorau cyllid ac LJC am eu gwaith, a hefyd i lefarydd y Ceidwadwyr am y modd rydyn ni wedi gallu gweithio gyda'n gilydd ar y Bil yma? 

Jest i ddweud, mi fyddwn ni'n cefnogi'r gwelliannau i gyd yn y grŵp yma. Mae gwelliant 1, fel rydyn ni wedi clywed, yn welliant canlyniadol, felly fe wnaf i ymhelaethu, efallai, pan ddown ni i'r gwelliant mwy sylweddol yng ngrŵp 4, ond rydym hefyd yn cefnogi gwelliannau 5 a 6, am y rhesymau y mae Peter Fox wedi eu hamlinellu ond hefyd oherwydd y dystiolaeth a amlygwyd yn ystod Cyfnod 1 o graffu ar y Bil yma.