Part of the debate – Senedd Cymru am 6:38 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Diolch, Llywydd. Mae gwelliant 8 yn gofyn am adolygiad o'r Ddeddf ddwy flynedd ar ôl iddi ddod i rym, yn ogystal â phedair blynedd ar ôl iddi ddod i rym. I fod yn gryno, ni fyddaf yn ailadrodd rhai o'r trafodaethau manwl yr ydym wedi eu cael gyda'r Gweinidog yn ystod Cyfnod 2. Fodd bynnag, yn ystod hynt y Bil, codwyd nifer o faterion ynghylch priodoldeb Gweinidogion Cymru yn defnyddio pwerau is-ddeddfwriaeth i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol. Rwy'n dal i gredu bod ffyrdd mwy priodol o ddiwygio a diweddaru deddfwriaeth trethiant, rhywbeth y byddaf yn dod ato ymhen ychydig funudau. Fodd bynnag, mae'r gwelliant yn ceisio gweithio gyda nodau'r Bil drwy sicrhau bod digon o wiriadau a gwrthbwysau ar weithrediad y Ddeddf drwy ddarparu ar gyfer adolygiad ddwy flynedd ar ôl iddi ddod i rym, yn ogystal ag adolygiad ar ôl pedair blynedd, fel y mae eisoes wedi ei ddrafftio yn y Bil.
Mae'r ysbrydoliaeth y tu ôl i'r gwelliant hwn yn ymwneud â syniad y soniodd yr Aelod dros Ddwyrain Abertawe amdano yn y cam blaenorol, sef y dylid edrych ar weithrediad y Ddeddf pan ddefnyddir ei phwerau am y tro cyntaf. Drwy gael adolygiad statudol ar ôl dwy flynedd, mae'r gwelliant yn ceisio rhoi amser i Weinidogion ddefnyddio'r Ddeddf, ac i ganlyniadau defnydd o'r fath gael eu gwireddu. Byddai'r adolygiad cychwynnol yn caniatáu i Weinidogion a'r Senedd nodi unrhyw faterion o ganlyniad i'r Ddeddf, ac i gymryd camau i unioni'r rhain yn gynnar yng ngweithrediad y Ddeddf.
Er ein bod wedi clywed y ddadl mai bwriad y Ddeddf yw bod yn ddewis olaf, byddwn i'n meddwl ei bod yn annhebygol y bydd yn cael ei gadael ar y silff i gasglu llwch ac na chaiff ei defnyddio o gwbl. Fel y gwelsom gyda Biliau eraill, mae gan Weinidogion gyfres o is-ddeddfwriaeth yn aml yn aros yn y cefndir pan fydd Cydsyniad Brenhinol wedi ei roi. Ac felly, rwyf i yn credu bod angen adolygiad ar ôl dwy flynedd a bod hynny'n ymateb i awgrym Mike Hedges.
Llywydd, bydd yr Aelodau yn dymuno bod yn ymwybodol bod gwelliant 9 yn welliant canlyniadol i welliant 8; os na chaiff gwelliant 8 ei dderbyn, ni chaiff y gwelliant hwn ei gynnig.
Mae gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Llyr Gruffydd, yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried dulliau deddfwriaeth amgen ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau treth Cymru wrth adolygu gweithrediad y Ddeddf, fel sy'n ofynnol yn adran 6. Mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid, nododd Syr Paul Silk fod y Bil, ac rwy'n dyfynnu:
'yn esiampl i mi...o bryder mwy cyffredinol sydd gen i am y ffordd y mae'r Weithrediaeth yn ymgymryd â swyddogaethau sydd, yn fy marn i, yn perthyn yn briodol i'r ddeddfwrfa.'
Felly, mae llawer o randdeiliaid wedi galw am ddatblygu mecanweithiau deddfwriaethol amgen, fel Bil cyllid blynyddol. Cefnogwyd y casgliad hwn gan y Pwyllgor Cyllid blaenorol yn y bumed Senedd. Gallai proses o'r fath hefyd leihau'r angen i ddefnyddio pwerau Harri VIII, a sicrhau bod unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth treth yn dryloyw ac yn cael eu harchwilio'n briodol.
Yn olaf, mae gwelliant 4, a gyflwynwyd hefyd yn enw Llyr Gruffydd, yn sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn ymgynghori â'r Senedd a rhanddeiliaid eraill wrth adolygu gweithrediad y Ddeddf o dan adran 6. Mae'r gwelliant hwn yn sicrhau bod mwy o graffu ar weithrediad y Ddeddf, yn ogystal ag unrhyw benderfyniad a wneir gan Weinidogion Cymru i gyhoeddi rheoliadau i ymestyn gweithrediad y Ddeddf. Mae hefyd yn ymateb i bryderon na fydd Gweinidogion ond yn ymestyn oes y Ddeddf heb ystyried a yw mecanweithiau amgen ar gyfer diwygio deddfwriaeth trethiant sylfaenol yn fwy priodol.
Llywydd, galwaf ar yr Aelodau i gefnogi gwelliannau 8 a 9, a gyflwynwyd yn fy enw i, yn ogystal â gwelliannau 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Llyr Gruffydd. Diolch.