Grŵp 3. Adolygu'r Ddeddf (Gwelliannau 8, 3, 4, 9)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:42 pm ar 5 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 6:42, 5 Gorffennaf 2022

Mi oedd y Pwyllgor Cyllid, a nifer o randdeiliaid, yn credu'n gryf bod cynnwys adolygiad ôl-weithredol cadarn yn arfer da, ac yn rhywbeth a fyddai'n helpu i sicrhau bod amcanion y ddeddfwriaeth yn cael eu cyflawni yn unol â'r disgwyliadau, a hefyd bod gwerth am arian, wrth gwrs, pan fo'n dod i'r hyn sy'n cael ei gyflawni. Nawr, mae hynny'n rhywbeth y mae'r Pwyllgor Cyllid wedi ei argymell yn gyson yn y gorffennol, yn sicr pan oeddwn i'n Gadeirydd—hynny yw, y dylid cynnwys adolygiad o'r math yma ym mhob Bil, fel rhyw fath o arfer safonol.

Ond yn y maes yma yn benodol, gan fod datganoli trethi yn ddatblygiad cymharol newydd yng Nghymru, a hefyd wrth i system drethu Cymru aeddfedu, mae hi hyd yn oed yn bwysicach bod y Senedd yn medru bod yn hyderus bod unrhyw ddatblygiadau yn gymesur ac yn cydffurfio â'r arferion seneddol ac egwyddorion democrataidd gorau. Dyna pam dwi'n cefnogi gwelliannau 8 a 9 sydd o'n blaenau ni fan hyn, sy'n cynnig mynd ymhellach nag y mae'r Gweinidog wedi ymrwymo i'w wneud, sef bod angen i'r Senedd wneud rhagor o waith ar oruchwylio pwerau trethu.

Nawr, gan fod hwn yn Fil galluogi, gyda phwerau'n cael eu dirprwyo i'r Gweinidog, mi fydd hi'n hanfodol asesu sut y mae'r ddeddfwriaeth yn gweithredu'n ymarferol, yn ogystal â'i heffaith ar drethdalwyr ac ar drethi datganoledig. Mae yna gonsensws, dwi'n meddwl, o gwmpas yr angen i adolygu'r Ddeddf ar ôl pedair blynedd, a byddai hynny yn ei dro yn bwydo i mewn i ystyriaethau ynglŷn ag a ddylid estyn wedyn y Ddeddf am bum mlynedd, neu ar ôl pum mlynedd. Ond fel y mae'r pwyllgor yn ei awgrymu, ac fel rydym ni wedi clywed, mi ddylid cynnal adolygiad statudol cychwynnol o'r Bil ddwy flynedd ar ôl Cydsyniad Brenhinol, er mwyn gallu craffu ar gasgliadau'r adolygiad hwnnw, wrth gwrs, cyn diwedd y chweched Senedd, sef y Senedd yma. Felly, dŷn ni am gefnogi gwelliannau 8 a 9 am y rhesymau hynny.

Nawr, mae fy ngwelliannau i yn y grŵp yma, gwelliannau 3 a 4, yn ymateb i argymhelliad a oedd yn adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Cyllid. Roedd y pwyllgor yn argymell bod y Bil yn cael ei ddiwygio i nodi bod yr adolygiad statudol o weithrediad ac effaith y Ddeddf gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys asesiadau o natur ac effeithiolrwydd unrhyw reoliadau a oedd yn cael eu gwneud o dan adran 1(1) o'r Ddeddf; ei fod e'n asesu effaith y Ddeddf ar drethdalwyr a threthi datganoledig Cymru; ei fod e hefyd yn asesu priodoldeb parhaus y pwerau i wneud rheoliadau sy'n cael eu rhoi i Weinidogion Cymru gan y Ddeddf; ac, yn bwysicaf oll yng nghyd-destun y grŵp yma o welliannau, fod yr adolygiad hefyd yn asesu dulliau deddfwriaethol amgen ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau trethi Cymru a'r rheoliadau sy'n cael eu gwneud o dan y rheini—mewn geiriau eraill, bod yr adolygiad yn mynd ymhellach ac yn edrych ar y darlun Deddfau trethi ehangach.

Fy ngobaith i yn hynny o beth yw y bydd edrych ar fecanweithiau deddfwriaethol amgen yn y maes yma yn hyrwyddo ac yn cyfrannu at y drafodaeth ar sut y mae’r Senedd yn creu ei chyllideb flynyddol a sut, yn y cyd-destun hwnnw, y mae Gweinidogion yn cael eu grymuso gan y Senedd yma i weithredu yn y maes trethi. Gyda'r adolygiad arfaethedig yn dod pedair blynedd ar ôl i'r Ddeddf ddod i rym, mi fyddwn i'n gobeithio'n fawr y bydd yr holl drafodaeth ehangach yna wedi aeddfedu cryn dipyn erbyn hynny ac y bydd yr adolygiad yn amserol iawn ac yn gyfle i wyntyllu y materion yma mewn cyd-destun gwahanol iawn i’r un rŷn ni ynddi heddiw.

Mae fy ail welliant, gwelliant 4, yn galw ar Weinidogion Cymru i ymgynghori â’r Senedd, a chydag unrhyw rhanddeiliaid eraill y maen nhw'n teimlo sy'n briodol fel rhan o’r broses yna. Mae’n bwysig yn fy marn i fod ystod eang o leisiau ac o safbwyntiau yn cael eu clywed fel rhan o’r adolygiad, yn enwedig ein bod ni, wrth gwrs, fel y seneddwyr sydd wedi creu’r Ddeddf, os daw i rym, yn cael y cyfle i gael mewnbwn i’r adolygiad. Felly, mi fyddwn i'n annog fy nghyd-Aelodau yn y Senedd yma i gefnogi gwelliannau 3 a 4 yn enwedig.