Part of the debate – Senedd Cymru am 6:46 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Mae gwelliant 8, a gyflwynwyd gan Peter Fox, yn ei hanfod yn ychwanegu adeg adolygu newydd, ddwy flynedd ar ôl i'r Ddeddf ddod i rym. Mae hynny'n ychwanegol at gynnal yr ymrwymiad presennol i adolygu'r Ddeddf ar ôl pedair blynedd. Fel y clywsom, mae gwelliant 9 yn ganlyniadol i gymeradwyo gwelliant 8. Rwyf wedi rhoi cryn ystyriaeth i'r amseru ar gyfer yr adolygiad, gan roi ystyriaeth arbennig i'r ffordd y mae'r Bil wedi newid o ganlyniad i adroddiad y pwyllgor a'r gwelliannau a wnaed yng Nghyfnod 2. Mae'n rhaid i amseriad yr adolygiad o'r ddeddfwriaeth hon sicrhau bod digon o amser wedi ei neilltuo i wneud yr adolygiad yn ystyrlon, ond hefyd y bydd canlyniad yr adolygiad yn gallu llywio'r gwaith o ddatblygu trefniadau yn y dyfodol yn gynnar yn nhymor nesaf y Senedd. Caiff hyn ei lywio hefyd gan gynnwys, wrth gwrs, y ddarpariaeth machlud bum mlynedd ar ôl i'r Bil ddod i rym, felly nid yw'n wir y gellid ymestyn y Bil dro ar ôl tro. Mae'n amlwg iawn y bydd gan y Bil ddyddiad dod i ben.
Bydd yr adolygiad yn ystyried defnyddio'r pŵer i wneud newidiadau i Ddeddfau treth Cymru ac rwyf i o'r farn bod cynnal adolygiad ddwy flynedd ar ôl iddo ddod i rym yn rhy fuan, gan fod pob siawns na fydd y pŵer wedi'i ddefnyddio bryd hynny, gan wneud yr adolygiad, i raddau helaeth, yn ddiystyr. At hynny, mae'n cymryd amser ac adnoddau i gynnal adolygiadau o'r fath os ydyn nhw i gael eu cynnal mewn ffordd ystyrlon. Pe bai'r adolygiad yn cael ei bennu ar ddwy flynedd ar ôl y Cydsyniad Brenhinol, mae'n debygol y byddai angen i ni ddechrau gweithio ar yr adolygiad hwnnw heb fod yn hir ar ôl i'r Bil ddod i rym. Mae hefyd yn ymddangos braidd yn aneffeithiol ac yn ailadroddus i fod â'r ddau adolygiad hynny mor agos at ei gilydd ar adeg pan nad yw'n debygol y byddai llawer o newid wedi bod yn ystod y cyfnod hwnnw. Felly, am y rheswm hwnnw, ni allaf gefnogi'r gwelliannau hyn.
Mae gwelliant 3, a gyflwynwyd gan Llyr Gruffydd ac a gefnogir gan Peter Fox, yn ei gwneud yn ofynnol i'r adolygiad o weithrediad ac effaith y Ddeddf gynnwys ystyriaeth o fecanweithiau deddfwriaethol eraill ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau treth Cymru a rheoliadau a wneir o dan y Deddfau hynny. Rwyf wedi nodi fy mwriad i weithio gyda'r pwyllgorau i sefydlu trefniadau tymor hirach ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau treth Cymru, a fyddai o reidrwydd yn cynnwys ystyried mecanweithiau deddfwriaethol amgen ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau treth Cymru. Rwyf hefyd wedi ymrwymo i adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf hon yn benodol bedair blynedd ar ôl iddi ddod i rym ac mae'r gofyniad hwnnw bellach ar wyneb y Bil. Felly, nid wyf o'r farn bod y gwelliant hwn yn gwbl angenrheidiol gan y bydd y gwaith hwn yn cael ei ddatblygu fel rhan o ystyriaethau ehangach y mecanweithiau deddfwriaethol amgen hynny. Gallai hyn, ond ni fydd o reidrwydd, gynnwys ystyried proses flynyddol neu lai aml o Fil cyllid neu drethiant. Mae gen i amheuon y gallai gosod gofyniad statudol ar Weinidogion Cymru i gyflwyno adroddiad erbyn dyddiad penodol arwain at bwysau gormodol ar unrhyw weithgorau a sefydlir i gyd-fynd â'r amserlen honno, ond er bod gen i'r amheuon hynny, rwyf yn fodlon gofyn i'r Aelodau gefnogi gwelliant 3, oherwydd er y bydd gwaith ar y trefniadau hirdymor hyn yn cael ei wneud beth bynnag, rwy'n barod i fynd un cam ymhellach a dangos fy ymrwymiad drwy nodi hyn ar wyneb y ddeddfwriaeth.
Mae gwelliant 4, a gyflwynwyd hefyd gan Llyr Gruffydd ac a gefnogir gan Peter Fox, yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Senedd a phersonau priodol eraill fel rhan o'r adolygiad o'r ddeddfwriaeth, ac rwyf wrth gwrs yn fodlon mynychu unrhyw gyfarfodydd y Pwyllgor Cyllid, neu unrhyw bwyllgor arall a dweud hynny, pan fyddan nhw'n fy ngwahodd i, er mwyn trafod manylion y gwaith sy'n cael ei wneud a'r syniadau sy'n dod i'r amlwg ynghylch beth ddylai'r mecanweithiau tymor hirach fod. Mae'n ymddangos i mi y bydd proses ymgysylltu ac ymgynghori o'r fath yn digwydd fel mater o drefn. Yn ogystal â hyn, byddai Gweinidogion Cymru, fel mater o drefn, yn ymgynghori â phersonau priodol yn ôl yr angen wrth ddatblygu'r adolygiad hwn, a dyna sut yr wyf wedi mynd ati i ddatblygu'r polisi a wnaed ar y Bil hwn, a Deddfau treth Cymru yn fwy eang hyd yma, a byddaf yn sicrhau, gyda'i gilydd, fod y mecanwaith tymor hirach yn iawn i Gymru. Felly, i grynhoi, o ran y gwelliant hwn, er fy mod i'n credu nad yw'n gwbl angenrheidiol gan y byddwn, beth bynnag, yn ysgrifennu at y Senedd i ofyn am eu barn ar yr adolygiad o weithrediad y Ddeddf ac ymgysylltu â phobl briodol wrth ddatblygu'r adolygiad, rwyf wrth gwrs yn barod i ddangos fy ymrwymiad i gydweithio ar ddatblygu'r ddeddfwriaeth hon drwy dderbyn gwelliant 4 a nodi hyn ar wyneb y ddeddfwriaeth.
Ac yna i ymateb i rai o'r pryderon ehangach a godwyd yn ystod yr adran benodol hon o'r ddadl y prynhawn yma. O dan amgylchiadau arferol deddfu—hynny yw, pan wneir cyfraith o ganlyniad i ddatblygu polisi ystyriol yn hytrach na'i bod yn ofynnol ar frys neu mewn ymateb i ddigwyddiadau allanol—mae'n iawn, wrth gwrs, i'r Senedd benderfynu pwy sy'n cael ei drethu a sut y cânt eu trethu yn unol â'r egwyddorion cyfansoddiadol a nodir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Fodd bynnag, bwriedir i'r pŵer yn y Bil ymdrin ag amgylchiadau eithriadol sy'n unigryw i ddeddfwriaeth treth. I roi enghraifft, cafwyd llawer o achosion lle mae elfennau treth newydd o dreth dir y dreth stamp wedi eu cyflwyno gan Lywodraeth y DU yn syth neu'n fuan iawn ar ôl i gyhoeddiad gael ei wneud, ac mae hyn yn gyffredinol er mwyn atal trethdalwyr rhag rhagweld—hynny yw, cyflwyno trafodyn neu ohirio eu trafodiad fel arall er mwyn elwa ar newid treth a gyhoeddwyd ymlaen llaw. Mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod natur unigryw deddfwriaeth treth pan roddodd bŵer i Weinidogion y DU yn adran 109 o Ddeddf Cyllid 2003 i allu gwneud unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth treth tir y dreth stamp sy'n hwylus er budd y cyhoedd.
Rhoddodd Senedd yr Alban lawer o bwerau i Lywodraeth yr Alban wneud rheoliadau yn ei Deddfau treth datganoledig, gan gynnwys pennu cyfraddau a bandiau drwy reoliadau gweithdrefn gadarnhaol a wneir. Ac, wrth gwrs, dilynodd y Senedd hon y cynsail a osodwyd gan Senedd yr Alban, a rhoddodd gyfres debyg o bwerau gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru, gan gynnwys pennu cyfraddau drwy reoliadau gweithdrefn gadarnhaol a wneir. Felly, mae'r Bil hwn yn ceisio adeiladu ar y cynseiliau hyn, gan ddatblygu mecanwaith hyblyg ac ystwyth ar gyfer ymateb i amgylchiadau allanol sy'n darparu ateb tymor byr ar gyfer y cam hwn yn ein taith ddatganoli. Bydd fy nghyd-Aelodau yn ymwybodol fy mod i wedi ceisio cyfyngu ar gwmpas y pŵer i wneud rheoliadau yn y Bil hwn gymaint â phosibl. Dim ond pan fydd Gweinidogion Cymru o'r farn bod hynny'n angenrheidiol neu'n briodol, ac yn unol â'r pedwar prawf pwrpas hynny, y caniateir ei ddefnyddio. Ac, yn bwysig iawn, yn ystod y broses graffu ac mewn trafodaethau gydag Aelodau, mae'r pŵer wedi'i gwtogi ymhellach, yn yr hyn y gellir ei ddefnyddio i'w wneud a'r cyfnod y gellir ei ddefnyddio ar ei gyfer.
Rwy'n gefnogol iawn o'r angen i edrych ar y trefniadau hirdymor i wneud newidiadau i Ddeddfau treth Cymru, ac yn wir rwyf wedi ymrwymo i ddechrau'r gwaith hwnnw gyda phwyllgorau yn ddiweddarach yn yr hydref. Rwyf hefyd yn dechrau ystyried y cwmpas a phwy sydd angen bod yn rhan o'r gwaith hwnnw. Ond nid yw'n bosibl, ac ni fyddai'n iawn ychwaith, i ni gyflwyno'r trefniadau hyn dros nos heb ymgymryd â'r hyn a fyddai yn ddatblygiad polisi ac ymgysylltu trylwyr iawn hefyd, fel bod gennym y mecanwaith deddfwriaethol mwyaf priodol yn y dyfodol sy'n diwallu ein hanghenion penodol yma yng Nghymru.