Part of the debate – Senedd Cymru am 7:03 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Diolch i fy nghyd-Aelodau am eu cyfraniadau. Rwy'n ddiolchgar am gydnabyddiaeth Llyr Gruffydd fod y gwelliant 2 hwn yn cael ei gyflwyno'n benodol i fynd i'r afael â'r pryderon a gododd yng Nghyfnod 2 wrth basio'r Bil, sydd, yn fy marn i, yn ymateb pragmatig i bryderon y mae ef a minnau'n gwybod y mae cyd-Aelodau eraill wedi eu codi. Felly, rwyf wedi bod yn falch o gyflwyno'r gwelliant hwn y prynhawn yma. Ond ailadroddaf y pwynt hwn mai dyma'r cyfnod hiraf o hyd a adlewyrchir yn y gwelliant ac y gall Gweinidogion barhau i ddewis gwneud y cyfnod ymestyn yn fyrrach os ydyn nhw'n dewis gwneud hynny.
Fel y dywedais yn gynharach, hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu hagwedd adeiladol at drafodaethau ar y Bil hwn. Fel y gallwn weld yma heddiw, rwyf wedi bod yn barod i geisio ystyried gwelliannau'r gwrthbleidiau ac ymgynghori ag Aelodau ar eiriad rhai o'n gwelliannau allweddol yn y Llywodraeth, ac, fel y dywedais i, mae canlyniad y gwaith hwnnw yr ydym wedi ei wneud gyda'n gilydd wedi newid y Bil yn wirioneddol mewn ffordd gadarnhaol bellach, ac rwy'n credu ei fod yn cael ei wella eto o ganlyniad i'r pleidleisiau sy'n cael eu cynnal yma prynhawn yma. Mae'r gwelliannau, rwy'n credu, ynghylch y broses adolygu, a'r cymal machlud yn arbennig, yn dangos bod y Bil bellach yn wahanol iawn i'r un a ddaeth i mewn i'r Senedd yn gyntaf. Rwy'n dal i fod o'r farn fy mod i'n dymuno datblygu'r bensaernïaeth a all lywio'r newidiadau hirdymor i ddeddfwriaeth treth yma yng Nghymru.
Gan edrych ymlaen at Gyfnod 4, rwy'n credu pe bai'r ddeddfwriaeth hon yn methu, y byddai'n golygu, dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, y byddai Gweinidogion Cymru, ac o bosibl ein trethdalwyr hefyd, yn cael eu gadael mewn sefyllfa fregus iawn lle na fyddem efallai'n gallu ymateb yn effeithiol i newidiadau polisi treth a wnaed gan Lywodraeth y DU sy'n effeithio ar ein trethi ni yng Nghymru ac, o ganlyniad, ar ein refeniw a'n gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Ac i roi enghraifft, pe bai Llywodraeth y DU yn cyflwyno cyfundrefn codi tâl newydd, yn debyg i gyfraddau treth tir y dreth stamp uwch ar gyfer anheddau ychwanegol, fel ail gartrefi, gallem ni gael ein hunain mewn sefyllfa lle'r ydym ar ein colled yn sylweddol yng Nghymru. Neu pe bai newid gan Lywodraeth y DU a fyddai o fudd arbennig, er enghraifft, i'r rhai sy'n ceisio sefydlu busnesau ffermio newydd a'n bod ni'n dymuno cyflwyno mathau tebyg o newidiadau ar fyrder i sicrhau na fyddai ein trethdalwyr ni o dan anfantais, gallem ni ein cael ein hunain yn methu â gwneud hynny hefyd.
Ond hoffwn dynnu sylw at fy awydd i barhau i weithio gyda chyd-Aelodau ar draws y Senedd ar y bensaernïaeth tymor hirach honno. Rwyf eisiau gallu dweud wrth drethdalwyr ein bod ni wedi manteisio ar y cyfle pan oedd gennym ni i'w diogelu nhw ac i ddiogelu cyllid Cymru, ond tra ein bod yn gweithio ar y bensaernïaeth tymor hirach bwysig honno, a dyma'r cyfle i ni wneud hynny wrth i ni fynd ar yr hyn sy'n daith bwysig o'n blaenau.