Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Diolch i Sioned Williams am y cwestiynau yna. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd am bwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig yn rhai o'r cymunedau yn ei rhanbarth, ond nid wyf yn credu ei bod yn cynnig disgrifiad teg inni o'r gwaith sy'n cael ei wneud gan fetro bae Abertawe. Mae'r rhaglen eleni, er enghraifft, yn cynnwys astudiaethau achos busnes ac astudiaethau dichonoldeb i ddarparu pedwar trên ychwanegol yr awr rhwng Pontarddulais ac Abertawe, gan fynd drwy Gastell-nedd, a hyd at chwe gorsaf newydd ar draws maestrefi gogledd Abertawe. Bydd prosiect bws hydrogen bae Abertawe yn cael ei gaffael yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Dyna gaffael rhwng 20 a 40 o fysiau celloedd tanwydd hydrogen i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus yn y rhanbarth, a'r depo y bydd ei angen er mwyn eu gwasanaethu. Bydd trenau CAF newydd sbon yn rhedeg yn rhanbarth metro bae Abertawe erbyn diwedd eleni, ac mae'r gronfa drafnidiaeth leol, sy'n cyd-fynd â chynigion y metro, yn ariannu adfywiad canolfan drafnidiaeth Castell-nedd. Rydym ni i gyd yn dymuno y gallem wneud mwy; rydym ni i gyd yn dymuno y gallem fynd yn gyflymach. O fewn cyfyngiadau'r gyllideb sydd gennym ni, rwy'n credu bod yna gamau gweithredu gwirioneddol ac uniongyrchol y mae prosiect metro Bae Abertawe a gorllewin Cymru yn eu cymryd, a byddan nhw'n cyfrannu at y system drafnidiaeth integredig honno y gwyddom ei bod yn bwysig, yn ardal Abertawe ei hun ac yn ei chefnwlad hefyd.