Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Prif Weinidog, rwyf wedi credu ers tro byd y gall sefydliadau fel colegau addysg bellach weithredu fel sefydliadau angori sy'n helpu i sbarduno gwelliant economaidd yn eu rhanbarthau. Mae cynlluniau campws newydd Coleg Penybont yn enghraifft o hyn, lle gellir defnyddio cyfleusterau hyfforddi newydd i gefnogi'r agenda economaidd ehangach. Fodd bynnag, er mwyn i hyn fod yn llwyddiannus, mae angen rhoi mwy o ystyriaeth i anghenion trafnidiaeth gyhoeddus y rhai a fydd yn defnyddio'r campws. Beth ydych chi yn ei wneud i sicrhau bod penderfyniadau strategol allweddol fel hyn yn cyd-fynd â'r drafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael i wireddu'r manteision yr ydym i gyd eisiau eu gweld? Diolch.