Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 5 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Labour 2:17, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf i ddechrau drwy groesawu'r treial hwn a diolch i fy nhgyd-Aelod Jack Sargeant am y gwaith sylfaenol y mae wedi'i wneud i'w wireddu? Gall gorbryder a thrafferthion ariannol fod yn llafurus ac atal pobl rhag ffynnu neu fyw bywydau iach a hapus. Gallai sefydlogrwydd ariannol olygu'r gwahaniaeth rhwng y rhai sy'n gadael gofal yn dysgu sgiliau newydd, yn gallu fforddio rhwydweithio a chymdeithasu a magu hyder a bod yn hapus. Nid yw bob amser yn hawdd mesur y pethau hyn, ond maen nhw'n eithriadol o bwysig, serch hynny, yn enwedig i bobl ifanc, a allai gael budd gwirioneddol o gymorth emosiynol a rhywun y gallan nhw ymddiried ynddo i droi ato.

Pa gyngor a chymorth gofalu y bydd y rhai sy'n gadael gofal yn gallu cael gafael arnyn nhw? A sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mesur canlyniadau'r treial, gan gynnwys metrigau nad ydyn nhw'n rhai economaidd, fel hapusrwydd a llesiant? Diolch.