Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae Adam Price yn gywir. O fewn y pum mlynedd diwethaf, roedd 44 o Filiau'r Deyrnas Unedig o fewn y setliad datganoledig, o'i gymharu â 21 o Filiau Cymreig. Ac mae nifer o'r Biliau yna, Biliau'r Deyrnas Unedig, wedi eu pasio heb gydsyniad y Senedd yma, a nifer ohonyn nhw hefyd yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Prydeinig newid y setliad datganoledig. Felly, sut y mae modd diwygio'r broses LCM er mwyn bod yn fwy cynhwysol o'r Senedd yma?