Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Rwy'n bryderus iawn, Prif Weinidog, ein bod ni'n cerdded yn ein cwsg i mewn i Senedd wahanol iawn—Senedd Cymru yn ôl ei henw ond gyda phwerau llawer gwannach. Eich ateb yr wythnos diwethaf i Adam Price, os gwnawn ni ethol Llywodraeth Lafur, dyna'r ffordd i ddiogelu datganoli yn San Steffan—beth sy'n digwydd os nad oes gennym ni Lywodraeth Lafur? Ni all yr ateb fod yn San Steffan, rhaid iddo fod yma yng Nghymru. Beth sy'n diogelu deddfwriaeth Cymru rhag cael ei diddymu dro ar ôl tro, fel y gwelwn ni yn yr arwydd ynghylch Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017?