4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 5 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 4:05, 5 Gorffennaf 2022

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cwnsler Cyffredinol, gaf i ddechrau trwy eilio sylwadau'r Arglwydd Ustus Green, cadeirydd Comisiwn y Gyfraith, a llongyfarch Llywodraeth Cymru ar y cam pwysig yma i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch? Nawr, efallai bod hwn ddim o ddiddordeb i bawb, ond dwi'n excited iawn am y cam pwysig yma. Mae hwn yn gam sy'n mynd i weddnewid y gyfraith yng Nghymru. I ymateb i bwynt Mark Isherwood, wrth gwrs mae gan gydgrynhoad effeithiol fanteision amlwg i'r proffesiwn cyfreithiol ac mae ganddo hefyd fanteision amlwg i ni fel seneddwyr, ichi, Cwnsler Cyffredinol, fel Llywodraeth, ond hefyd, yn bwysicach fyth, fanteision amlwg i ddinasyddion Cymru.

Fel y Bil cydgrynhoad cyntaf yng nghyfraith Cymru, mae e'n hollbwysig ein bod ni'n sicrhau ei fod e'n gywir, ac edrychaf ymlaen, Cwnsler Cyffredinol, at gydweithio â chi ac i graffu'r Bil fel aelod o'r pwyllgor deddfwriaethol. Dwi'n credu, fel deddfwrfa ifanc, fod yna gyfle arbennig gyda ni yma yng Nghymru i sicrhau bod ein cyfraith ni mor hygyrch â phosibl. Dŷn ni ddim fel San Steffan, sy'n mynd nôl i'r ddeuddegfed ganrif; mae cyfraith Cymru yn ifanc, felly mae modd i ni gydgrynhoi, mae modd i ni ei chodeiddio mewn ffordd sydd bron a bod yn amhosib yn San Steffan. Mae hwn hefyd yn dangos bod cyfraith Cymru yn aeddfedu a bod gennym system o gyfraith am y tro cyntaf sy'n fyw am y tro cyntaf ers y Deddfau Uno.

Mae Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i wneud y gyfraith yn hygyrch ac yn glir, ac yn darparu ar gyfer codeiddio. Yn hynny o beth, Cwnsler Cyffredinol, rydych chi mewn llinach teilwng iawn. Braf, fel mae Mark Isherwood wedi sôn, oedd gweld dyfyniad yn y memorandwm esboniadol o ragymadrodd Llyfr Iorwerth yn 1240 a oedd yn sôn am gyfraith Hywel Dda o'r ddegfed ganrif, ond efallai hyd yn oed yn fwy braf, Cwnsler Cyffredinol, oedd y ffaith bod yr hen ddyfyniad gyda chi wedi ei foderneiddio i Gymraeg ddealladwy, i Gymraeg fodern ein hoes ni, ac i ddyfynnu,

'A thrwy gyngor a chytundeb y doethion a ddaeth yno, archwiliwyd yr hen gyfreithiau, gadawyd rhai ohonynt i barhau, diwygiwyd eraill, a dilëwyd eraill yn gyfan gwbl, a gosodwyd eraill o'r newydd.'

Da iawn yn wir. Dwi'n credu ei bod hi mor bwysig ein bod ni'n atgoffa ein hunain dro ar ôl tro o'r traddodiad cyfreithiol gyfoethog sydd gennym ni yma yng Nghymru, a chael ein hysbrydoli gan ein hanes i sicrhau bod cyfraith Cymru yn bwrpasol i'r oes fodern.

Mae'r cyhoeddiad heddiw, fel rwyf fi'n dweud, yn gam pwysig ymlaen i godeiddio'r gyfraith. Dwi wedi gweld pob math o sôn am amserlennu'r codeiddio, gydag un dyfyniad yn dweud ei fod e'n mynd i fod yn waith generation cyfan. Oes unrhyw amserlen gyda chi yn eich meddwl, Cwnsler Cyffredinol, am ba mor hir fydd y broses codeiddio yn digwydd a beth yw'r amserlen am y Biliau cydgrynhoi eraill?

I orffen, Dirprwy Lywydd, yn dilyn lleihad amlwg mewn cymorth cyfreithiol, mae angen cyfraith sydd wedi ei drafftio mewn ffordd ddealladwy ac sydd wedi ei threfnu mewn ffordd fel bod y gyfraith berthnasol mewn un lle, bod dim rhaid i bobl fynd i edrych mewn llefydd gwahanol. Mae'r gwaith yn enfawr, fel ŷch chi'n dweud, mae'r Bil yma a'r memorandwm esboniadol yn y ddwy iaith yn dros 500 o dudalennau. Dwi'n eich llongyfarch chi, Gwnsler Cyffredinol, gan obeithio mai dyma'r cyntaf o nifer fawr o Filiau o'r fath i ymddangos ger ein bron ni fel Senedd. Diolch yn fawr.