6. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 5 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:51, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais yr adroddiad blynyddol cyntaf ar y Cwricwlwm i Gymru, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, gan nodi'r darlun cyffredinol o'r sefyllfa bresennol o ran cyflwyno diwygiadau, ymdrechion Llywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o'i gyflwyno, ac edrych ymlaen at y camau nesaf ar gyfer diwygio. Mae'r adroddiad yn gwneud canfyddiadau pwysig ynglŷn â'n sefyllfa ar hyn o bryd, gan gynnwys bod lleoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir yn mynd rhagddynt yn dda ac wedi gwneud cynnydd arbennig o dda ers troad y flwyddyn. Dros y misoedd diwethaf, mae ysgolion yn gwneud cynnydd cyflymach tuag at gynllunio eu cwricwlwm, mae bron pob ysgol a lleoliad yn nodi eu ffactorau unigryw eu hunain a sut mae'r rhain yn cyfrannu at y pedwar diben ac yn datblygu dealltwriaeth o ystyriaethau dylunio'r cwricwlwm, gan gynnwys elfennau gorfodol a pholisi ieithyddol ysgol mewn perthynas â'r Gymraeg. Mae'r rhan fwyaf o ysgolion a lleoliadau yn ystyried rôl dilyniant, asesu ac addysgeg yn eu cwricwlwm a'u cyd-destun lleol, ac yn dylunio, cynllunio a threialu eu model cwricwlwm arfaethedig, gan werthuso dyluniadau cychwynnol a datblygu cynlluniau tymor canolig. Yn galonogol, mae mwy o ysgolion yn hapus i drafod dulliau treialu ac yna eu mireinio os nad ydyn nhw'n gweithio, ac mae bron i hanner yr ysgolion uwchradd, fel y dywedais i, yn ogystal â nifer o ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion, yn mabwysiadu'r Cwricwlwm i Gymru ar gyfer eu dysgwyr blwyddyn 7 ym mis Medi—flwyddyn yn gynharach na'r gofyn. Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu ein camau fel Llywodraeth i helpu i baratoi ysgolion i'w gyflwyno, i atgyfnerthu eu hymdrechion wrth iddyn nhw ddechrau rhoi’r cwricwlwm ar waith a'u galluogi i wella eu cwricwlwm yn barhaus. 

Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom gyhoeddi'r pecyn diweddaraf o ddeunyddiau ategol ar gynllunio'r cwricwlwm, asesu a gwerthuso cynnydd dysgwyr i gefnogi'r broses o ddatblygu'r cwricwlwm ac i feithrin cysylltiadau clir â chynlluniau ysgolion ar gyfer gwella ysgolion. Bydd y deunyddiau hyn yn parhau i esblygu yn unol ag anghenion ysgolion. Cyn diwedd y tymor, byddwn yn cyhoeddi gweithdai datblygu Asesu ar gyfer y Dyfodol, gan roi adnodd parhaus i ysgolion ddatblygu eu dealltwriaeth o sut mae dysgwyr yn symud ymlaen a sut i asesu'r cynnydd hwnnw.

Y mis hwn, rydym ni hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer datblygwyr adnoddau a deunyddiau ategol. Mae hyn wedi'i gyd-lunio gydag ysgolion a bydd yn rhoi arweiniad clir i ddatblygwyr ar yr hyn sydd ei angen ar ysgolion a sut i sicrhau bod adnoddau'n gyson â Chwricwlwm Cymru. Bydd hyn yn helpu i sicrhau y gall y system gyfan gydlynu ei hymdrechion i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cwricwlwm.

Bydd y rhwydwaith cenedlaethol yn parhau i sicrhau bod ysgolion a lleoliadau'n cael cyfleoedd i rannu eu profiadau o gyflwyno'r system, gan eu rhoi wrth wraidd ein hymdrechion parhaus i ddatblygu cefnogaeth bellach i'r system. Bydd y rhwydwaith hefyd yn cyflawni Camau i'r Dyfodol, a fydd yn chwarae rhan hanfodol wrth rannu arfer ac arbenigedd ar ddilyniant, sy'n allweddol i godi safonau. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymrwymo a buddsoddi eu hamser yn y sgyrsiau rhwydwaith cenedlaethol, gan helpu i lywio polisi Llywodraeth Cymru ac arferion ysgolion. Mae'r amser a fuddsoddwyd gan weithwyr proffesiynol yn y rhwydwaith eisoes wedi cael effaith bwysig, diriaethol, gan lunio canllawiau a deunyddiau ategol yn uniongyrchol ar gyfer ysgolion, cyfrannu at Camau i'r Dyfodol ac Asesu ar gyfer y Dyfodol a llywio dysgu proffesiynol i gefnogi hanes Cymru, er enghraifft. Mae'r sgyrsiau hyn yn gymuned, a thrwy barhau i weithio ar y cyd, rydym ni’n sicrhau ein bod ni’n darparu'r cymorth sydd ei angen ar ysgolion a lleoliadau.

Wrth edrych ymlaen, mae llawer i'w wneud o hyd i sicrhau lles ein dysgwyr a'u dilyniant i'w llawn botensial, ond rydym ni’n gadarn ar y trywydd iawn. Wrth i ysgolion a lleoliadau ddechrau rhoi'r cwricwlwm ar waith, byddwn yn dysgu gwersi newydd ar sut i wella'r arfer mewn ysgolion a'r cymorth y mae ganddyn nhw fynediad iddo. Bydd y broses o ymgorffori ein cwricwlwm newydd a'i wella'n barhaus mewn ysgolion a lleoliadau yn dechrau o ddifrif o fis Medi ymlaen. Rhaid i ni sicrhau bod ein cwricwlwm trawsnewidiol yn cyflawni ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid i'n cynnig dysgu proffesiynol fod yn hygyrch i bawb. Yr wythnos diwethaf, rhoddais y wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y ffordd yr ydym ni’n gweithio i gwblhau ein hawl genedlaethol i ddysgu proffesiynol, y bydd arweinwyr ysgolion, athrawon a chynorthwywyr addysgu i gyd yn elwa ohoni—cynnig gwirioneddol genedlaethol, ac un a fydd yn llawer haws ei lywio.

Dirprwy Lywydd, mae'r cwricwlwm newydd yn symud i ffwrdd oddi wrth gael pynciau cul yn unig i gael chwe maes dysgu a phrofiad ehangach. Bydd y dysgu'n seiliedig ar ddiben; drwy'r pedwar diben, rydym ni’n cyfleu'r math o ddinasyddion mae Cymru eu heisiau a'u hangen. Bydd yn helpu i ddatblygu safonau llythrennedd a rhifedd uwch, gan gefnogi dysgwyr i ddod yn fwy cymwys yn ddigidol ac yn ddwyieithog ac i esblygu i fod yn feddylwyr mentrus, creadigol a beirniadol.

Gallwn fod yn falch bod y cwricwlwm yn cynrychioli'r gorau o ymdrechion ein proffesiwn addysg. Yn hytrach na bod yn ddiwedd y daith ddiwygio, mae mis Medi yn garreg filltir bwysig. Fel Llywodraeth, byddwn yn parhau i weithredu a chefnogi'r proffesiwn fel y gall pob dysgwr, beth bynnag fo'i gefndir, elwa o gwricwlwm eang a chytbwys o wybodaeth, sgiliau a phrofiad a fydd yn cyflawni safonau a dyheadau uchel i bawb.