Part of the debate – Senedd Cymru am 5:56 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Diolch yn fawr. Wel, yr hyn yr ydym wedi'i weld yw cynnydd o 40 y cant yn y galw dros y pum mlynedd diwethaf o ran HRT. A'r broblem wirioneddol yw nad yw gweithgynhyrchwyr wedi llwyddo i ateb y galw hwnnw. Felly, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, sydd, wrth gwrs, yn gyfrifol am gaffael hwn ar ein rhan, ac, yn amlwg, mae pobl yn cael eu cynghori i fynd at bethau amgen sydd ar gael efallai. Byddaf yn edrych ar y mater hwnnw mewn cysylltiad â menopos llawfeddygol; nid yw'n fater yr wyf wedi dod ar ei draws o'r blaen, ond byddwn yn sicr yn gofyn i swyddogion edrych ar hynny hefyd.