Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Weithiau, credwn fod tlodi'n gyflwr penodol: rydych naill ai'n dlawd neu beidio. Ond nid dyna sut y mae'n gweithio o gwbl. Bydd cymaint o bobl yn gweld eu bywydau'n croesi'r ffin i anhrefn dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, ac nid codi bwganod yw hynny—mae'n ffaith bendant. Bydd miloedd yn fwy o bobl yn ei chael hi'n anodd byw—i aros yn fyw—oherwydd pethau bob dydd fel biliau bwyd a nwy. Mae rhywbeth erchyll ac annormal am y modd y bydd pethau cyffredin yn troi'n frawychus.
Nid oes gennyf lawer o amser yn y ddadl hon, rwy'n gwybod, felly byddaf yn cadw fy mhwyntiau'n fyr. Mae angen dweud wrth aelwydydd sy'n gymwys i gael cymorth taliad tanwydd y gaeaf am y cymorth hwnnw. Fel y clywsom Cyngor ar Bopeth yn awgrymu, dylem fod yn cysylltu â phobl ar dariffau cymdeithasol ar gyfer dŵr neu ynni, a gallai'r Llywodraeth ddefnyddio eu trefniant rhannu data JIGSO neu gallent annog Dŵr Cymru i helpu. Rwy'n croesawu'r ffaith bod pobl ar gredyd pensiwn yn gymwys ar gyfer y cynllun, er bod Age Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith nad yw 70,000 o aelwydydd cymwys yn hawlio'r credyd hwnnw, ac mae llawer yn credu bod y meini prawf cymhwysedd yn dal yn rhy anhyblyg.
Rwy'n poeni'n ddirfawr, Ddirprwy Lywydd, am y rheini sydd eisoes mewn dyled—y bobl ar fesuryddion rhagdalu sy'n datgysylltu drostynt eu hunain eisoes. Mae un cleient Cyngor ar Bopeth yn ne Cymru yn defnyddio cannwyll ar gyfer golau, ac yn byw mewn un ystafell oherwydd eu biliau ynni. Bydd y straeon arswydus bob dydd hynny'n cael eu hailadrodd mewn tai ledled Cymru, y tu ôl i lenni sy'n cael eu cadw ar gau i gadw'r gwres i mewn, oherwydd nid yw tlodi'n gategori penodol; nid yw bywydau pobl bob amser yn ffitio i flychau taclus y gallwn ddweud yn bendant pwy sydd angen help a phryd.
Yn olaf, ni ddylai'r cynllun hwn fod ar gyfer y gaeaf yn unig. Unwaith eto, fel y clywsom, fel y mae NEA ac eraill wedi nodi, bydd angen y cymorth hwn ar bobl drwy gydol y flwyddyn. Dylid gwneud taliadau hefyd cyn i'r gaeaf daro. Dylai unrhyw un sy'n amau difrifoldeb yr effaith y mae'r argyfwng costau byw yn ei chael ddarllen tystiolaethau 'The Cost of Cold' Age Cymru, oherwydd maent yn dorcalonnus. Dywedodd Geraldine, sy'n 77 oed, wrthynt, 'Eisoes rwy'n gwisgo menig ar fy nwylo gartref a phecyn gwres y tu mewn i fy legins'. Ac mae pobl o bob oed yn cael eu heffeithio mewn cymaint o ffyrdd. Cyrhaeddodd atgyfeiriadau i fanciau bwyd gan Cyngor ar Bopeth y lefel uchel erioed ym mis Mawrth. Mae honno'n garreg filltir gywilyddus—y nifer uchaf erioed o bobl yn byw mewn anobaith llwyr.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n derbyn yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud, gwn fod llawer o achosion yr argyfyngau hyn yn fyd-eang neu y tu hwnt i'w rheolaeth, ond mae rhai o'r pethau hyn yn bethau y gall y Llywodraeth wneud rhywbeth yn eu cylch. Felly, os gwelwch yn dda, rwy'n erfyn ar y Gweinidog i wrando ar y pwyntiau a wnaed yn y ddadl hon, oherwydd mae pob dydd nad ydym yn gwneud y newidiadau hyn yn ddiwrnod arall y bydd mwy o bobl yn anobeithio.