10. Dadl Plaid Cymru: Ailymuno â'r farchnad sengl

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 6 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:50, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Felly, pan fo'r Ysgrifennydd Tramor yn dweud wrthym ei bod, fel gwladgarwr, yn amddiffyn Bil Gogledd Iwerddon, gyda'r ensyniad amlwg sydd i hynny, gallwn weld, unwaith eto, pa mor isel y mae'r hyn sy'n weddill o Lywodraeth y DU yn fodlon suddo. Nawr, er ein bod yn anghytuno ar gynnig sy'n ennyn barn gref, a minnau gymaint ag unrhyw un arall, byddwn yn gobeithio y byddai pob Aelod yma'n cydnabod pa mor beryglus yw hi i Weinidogion y DU awgrymu bod cefnogaeth i Fil Protocol Gogledd Iwerddon yn brawf o wladgarwch unrhyw un. Ni ddylid normaleiddio'r iaith ymrannol hon yn y Llywodraeth, ac rwyf wedi egluro'n uniongyrchol i Lywodraeth y DU fod y cywair hwn yn broblem wirioneddol y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef ar frys.

Lywydd, rydym wedi ceisio trafod amcanion a rennir gydag ymagwedd bragmatig ers refferendwm 2016. Dyna pam y gwnaethom gyhoeddi Papur Gwyn ar y cyd â Phlaid Cymru yn 2017, pan oeddem yn dal i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd, yn nodi opsiynau ymarferol ar gyfer cynllun ar gyfer Brexit ar ôl y refferendwm. Roedd hynny'n cynnwys safbwyntiau cyfaddawdol a oedd yn ymarferol ac yn gredadwy ac yn wir, symudodd Theresa May yn agosach byth at ein safbwynt ni dros amser. Ond Lywydd, ni allwn gefnogi cynnig Plaid Cymru, oherwydd nid yw'n bodloni'r meini prawf hynny sy'n galw am fod yn ymarferol ac yn gredadwy, o gofio'r cyd-destun sy'n ein hwynebu heddiw. Nid yw'r cynnig yn darparu ateb ymarferol: ni fyddai bod yn aelod o'r farchnad sengl heb fanteision yr undeb tollau, y soniodd Luke Fletcher amdano yn ei frawddeg agoriadol, yn sicrhau'r amodau masnachu yr ydym wedi'u mwynhau o'r blaen. Mae'r cynnig hefyd yn codi mwy o gwestiynau nag y mae'n eu hateb. Nid yw'n awgrymu sut y byddai'r opsiwn hwn yn cael ei ddatblygu ar ôl sicrhau cytundeb nac a fyddai'r UE, a bod yn onest, yn ystyried cynnig o'r fath. Lywydd, ni allwn gymeradwyo safbwynt sydd mor benodol ar un elfen o'r berthynas tra'n cadw'n dawel ar y cwestiynau ehangach, sydd â goblygiadau mawr i'n hallforwyr yn enwedig.

Ein nod yw sicrhau'r fasnach agosaf a mwyaf esmwyth bosibl gyda'r UE. I gefnogi'r safbwynt hwnnw, mae gweithredoedd Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu anghenion uniongyrchol busnesau sy'n allforio o bob rhan o Gymru, yn ogystal â phartneriaid fel ein prifysgolion, sydd wedi'u siomi gan fethiant Llywodraeth y DU i sicrhau mynediad at raglen Horizon. Ein blaenoriaeth yw hyrwyddo camau adeiladol a gynlluniwyd i drwsio protocol Gogledd Iwerddon, lleihau rhwystrau masnach diangen a sicrhau mynediad at gyfleoedd buddsoddi a rhaglenni ar y cyd. Rydym wrthi'n annog Llywodraeth y DU i newid trywydd mewn perthynas â'r holl faterion hyn ac atal y peryglon uniongyrchol a achosir i'n heconomi. Credwn y gallai dull partneriaeth gyda'r UE, yn seiliedig ar safonau uchel a pharch at gyfraith ryngwladol, sicrhau cynnydd mawr sydd er budd Cymru. Mae safonau uchel yn bwysig, oherwydd gwyddom nad yw'r peiriant sy'n gyrru economi fodern lwyddiannus yn cael ei bweru gan ras i'r gwaelod a threth ar hawliau gweithwyr.

O ystyried cwymp Llywodraeth y DU sy'n dal i fynd rhagddo, efallai nad yw'n syndod bod y Prif Weinidog yn cyflwyno rheolau newydd sy'n caniatáu i weithwyr asiantaeth dorri streiciau. Cyn bo hir, efallai y bydd yn troi atynt i lenwi swyddi'r Llywodraeth y cefnwyd arni gan nifer cynyddol o bobl sy'n tynnu eu llafur yn ôl, a dylwn ychwanegu, Lywydd, heb fudd pleidlais cyn gweithredu.

Ond Lywydd, o gofio'r gwirioneddau sy'n ein hwynebu, mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn bartner yn y gynghrair gynyddol o leisiau sy'n galw ar Lywodraeth y DU i newid trywydd yn ei pherthynas â'r UE. Mae'n bwysig oherwydd, fel y mae llawer ohonom yn cytuno, mae difrod sylweddol yn cael ei wneud i'n heconomi a gallai Llywodraeth y DU atal llawer o hynny. Dyna pam yr eglurais i Weinidog y DU nad ydym yn derbyn eu dadansoddiad o berfformiad masnachu presennol y DU. Mae allforion y DU i'r UE yn parhau i fod yn is na'r lefelau cyn y pandemig wrth gyfrif chwyddiant. Mae twf mewnforion hefyd yn golygu bod diffyg y DU ar gydbwysedd masnach mewn nwyddau hefyd ar ei lefel uchaf erioed yn ystod chwarter cyntaf eleni. Ac mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi nodi na fydd yr un o'r cytundebau masnach rydd newydd na'r newidiadau rheoleiddiol a gyhoeddwyd yn ddigon i gael effaith sylweddol ar yr ergyd i allforion y DU. Felly, nid ydym erioed wedi derbyn y rhethreg chwyddedig ynghylch cytundebau masnach rydd newydd, ac rydym yn dal i wrthwynebu'n gadarn unrhyw fygythiadau i ddadreoleiddio.

Mae'r dull partneriaeth yr ydym yn ei argymell yn gwbl wahanol i'r unochroldeb ymosodol sy'n torri rheolau sy'n diffinio safbwynt Llywodraeth bresennol y DU. Mae eu trywydd yn anllythrennog yn economaidd ac yn amddifad o bob moesoldeb. Mae'r cytundeb masnach a chydweithredu yn newid y cyd-destun ar gyfer yr hyn y gellir ei gyflawni o fewn partneriaeth adeiladol gyda'r UE, a'r hyn a allai fod yn gamau nesaf credadwy. Ni allaf ddweud yn onest wrth fusnesau rwy'n cyfarfod â hwy y gall Llywodraeth Cymru eu helpu i oresgyn y problemau y maent yn eu hwynebu drwy fabwysiadu safbwynt nad yw'n gredadwy ac nad yw ar gael i Weinidogion y DU heddiw hyd yn oed. Rydym yn parhau i fod eisiau sicrhau'r fasnach agosaf fwyaf esmwyth sy'n bosibl gyda'r UE a byddwn yn parhau i bwyso'r achos hwnnw. Credwn hefyd y byddai'n llawer haws cyflwyno'r achos hwnnw pe bai gennym Lywodraeth newydd ar ôl pleidlais lle y gallai pob un ohonom fynegi ein barn.