Part of the debate – Senedd Cymru am 5:49 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy gydnabod, er gwaethaf y cyfraniadau a wnaed, fod meysydd cytundeb sylweddol rhyngom ni, Plaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Credwn y gallai ac y dylai partneriaeth gadarnhaol gyda'r UE, yn seiliedig ar gyd-ymddiriedaeth a gwerthoedd a rennir, leihau rhwystrau masnach, datgloi buddsoddiadau a helpu i ddiogelu swyddi. Mae'r nodau cyffredin hyn yn seiliedig ar yr hyn sydd, yn ein barn ni, yn gwasanaethu buddiannau economi Cymru orau.