Lefelau Tlodi Tanwydd yn Ynys Môn

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 6 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:04, 6 Gorffennaf 2022

Diolch am yr ateb yna, ac mae'n frawychus, ond ydy hi, ac rydyn ni'n gweld sut mae costau o ran ynni a thanwydd, fel rhan o'r argyfwng costau byw ehangach, yn dyfnhau o ddydd i ddydd, bron, a'r caledi ariannol mae rhai o fy etholwyr mwyaf bregus i yn ei wynebu. Dŷn ni'n ei weld o yn y cynnydd mewn galw am wasanaethau banc bwyd, er enghraifft. Roeddwn i'n gweld yr wythnos yma Cyngor Sir Ynys Môn, mewn partneriaeth efo Elfennau Gwyllt, yn arwain ar brosiect newydd i ddarparu ffrwythau a llysiau ffres i fanc bwyd Ynys Môn, banc Amlwch a Bwyd Da Môn, a dwi'n llongyfarch pawb sy'n rhan o'r cynllun hwnnw—dwi'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ymuno â mi yn hynny o beth—ond mae'n gywilydd bod angen hynny.

Mae disgwyl i brisiau ynni, wrth gwrs, godi eto wrth i'r cap godi ymhellach yn ddiweddarach y flwyddyn yma. Fy nghwestiwn i ydy: pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd rŵan i ystyried yr opsiynau ar gyfer rhoi cefnogaeth ychwanegol i fy etholwyr mwyaf bregus i pan ddaw'r ergyd drom arall honno'n ddiweddarach yn y flwyddyn?